Fe ddatblygodd Catrin angerdd am drin gwallt wrth wirfoddoli mewn salon gwallt lleol, ac fe benderfynodd gofrestru ar gwrs Trin Gwallt Lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Oherwydd anabledd sy’n effeithio ar ei dwylo a’i chymalau, roedd natur ymarferol y cwrs yn hynod o heriol i Catrin. Er gwaethaf y ddawn a’r brwdfrydedd yr oedd yn ei ddangos yn ei gwaith ysgrifenedig, roedd Catrin yn siomedig na allai symud ymlaen ymhellach, ac fe roedd yn teimlo ei breuddwyd yn cwympo y tu hwnt i’w gafael. Nid oedd yn gwybod at ble i droi am gefnogaeth. Felly, fe gyfeiriodd tiwtor Catrin hi at gymorth Dyfodol, er mwyn archwilio ei hopsiynau.
Trwy gymorth un-i-un, fe ddaeth Lisa, Hyfforddwr gyrfa, i nabod Catrin ac roedd yn glir ei bod ganddi hi ddawn yn gweithio â phlant ifanc; mae ganddi nai ifanc y mae hi’n ei garu ac mae hi’n gofalu amdano’n rheolaidd. Awgrymodd Lisa y dylai Catrin archwilio opsiynau gofal plant; ar ôl cael ei chyffroi gan yrfa posib newydd, ac yn meddu ar angerdd am gyflawni cynnydd mewn perthynas â’i llwybr gyrfa, symudodd ymlaen yn llwyddiannus i gwrs gofal plant Lefel 1.
“Roedd Lisa fy Hyfforddwr Gyrfa yn hynod o gefnogol gyda fy nghynlluniau gyrfaol ac fe dderbyniais lawer o help i ddewis y llwybr cywir. Dw i bellach yn deall nad trin gwallt oedd yr yrfa i mi a chefais fy annog i ddewis gofal plant oherwydd dw i’n dda iawn yn gofalu am fy nai ac rwy’n hoff iawn o chwarae gyda phlant. Diolch Lisa am fy nghefnogi. Fe wnes di fy ysbrydoli i ddilyn prentisiaeth. Diolch am fy helpu i weithio tuag at wireddu fy mreuddwyd, ac ro’n i wrth fy modd o ennill gwobr Prentis y Flwyddyn” – Catrin
Fe wnaeth gwaith caled, gwydnwch ac agwedd gadarnhaol Catrin greu argraff yn syth ar ôl iddi ddechrau ei chwrs; roedd ei phresenoldeb yn wych, cwblhaodd bob un darn o waith ar amser ac i safon uchel, ac roedd hi bob amser yn barod i gefnogi ei chyfoedion. Ni chafodd ei hymdrechion eu hanwybyddu, a chafodd ei henwebu ar gyfer Myfyriwr y Flwyddyn yng ngholeg Gŵyr Abertawe.
Wrth i Catrin dynnu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf o astudio, roedd hi’n awyddus i barhau i ddysgu a chael mwy o brofiad ymarferol, gan symud ymlaen i brentisiaeth, yn hytrach nag addysg amser llawn. Gan gymryd rheolaeth dros ei dyfodol a gwneud newidiadau cadarnhaol a oedd yn gweddu i’w hanghenion, penderfynodd Catrin ymgeisio am brentisiaeth gyda meithrinfa Noah’s Ark. Roedd hi wrth ei bodd pan gafodd gynnig y brentisiaeth.
Mae hi bellach yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl ac yn gwneud cynnydd anhygoel o ran ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Cydnabuwyd ei gallu i oresgyn ei rhwystrau corfforol â brwdfrydedd a phositifrwydd pan enillodd hi wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe 2022.
“Mae Catrin yn wych gyda’r plant. Mae hi’n gweithio’n galed i’w cadw’n brysur a hapus, ac mae hi bob amser yn helpu staff gyda thasgau dydd-i-ddydd. Rydyn ni’n dwlu ar weithio gyda hi ac yn falch iawn o’r hyn mae hi wedi ei gyflawni” – Meithrinfa Noah’s Ark
Mae Catrin yn ysbrydoliaeth, ac yn dangos y gall unrhyw un gyflawni ei nodau, waeth beth fo’i heriau. Mae ei hagwedd ysbrydoledig tuag at ddysgu wedi cael effaith gadarnhaol iawn arni hi ei hun, ei chyfoedion, ei thiwtoriaid a’i theulu. Rydyn ni’n falch iawn ohoni.
Stacey Turner
/in Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, NewyddionMynychodd Stacey sesiwn datblygu Staff y GIG a gynhaliwyd gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, er mwyn cyflawni cynnydd yn ei rôl. Roedd Stacey yn gweithio fel Nyrs Cyswllt Iechyd Meddwl ond yn dymuno cymryd y cama nesaf ar ei thaith gyrfa. Gyda chefnogaeth Lynsey, Hyfforddwr Gyrfa, daeth hi o hyd i’r cyfle perffaith ac fe dderbyniodd help ar lunio cais. Cynhaliodd Lynsey ffug gyfweliadau i wella hyder a sgiliau Stacey, ac ar ôl ymdrechu ac ymroi yn llwyr, fe wnaeth hi’n wych yn ei chyfweliad a chynigiwyd rôl iddi fel Ymarferydd Iechyd Meddwl Galwedigaethol!
Mae Stacey bellach yn chwarae rhan flaenllaw yn ei thîm newydd, gan ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl er mwyn darparu asesiadau atgfeirio i gleientiaid yn y gweithle. Ers dechrau ei rôl newydd, roedden ni’n hapus i’w chroesau hi i ddod i mewn i ddarparu dwy sesiwn i staff Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar iselder, gorbyrder, atal hunanladdiad a chymorth cyntaf. Mae sesiynau eraill eisoes wedi eu trefnu a braf yw bod yn rhan o ddatblygiad parhaus Stacey ar ei thaith gyrfa anhygoel.
“Trwy drafod fy nyheadau gyda fy Hyfforddwr Gyrfa, datblygais well dealltwriaeth o fy hun a’m nodau. Fe wnaeth y gefnogaeth fy helpu i fagu hyder, gwella fy sgiliau ‘gwneud penderfyniadau’ ac fe dderbyniais dechnegau a sgiliau defnyddiol iawn i’w defnyddio mewn cyfweliadau. Mae’r rôl arwain hon yn caniatáu i mi ddefnyddio fy holl gymwysterau blaenorol, fy sgiliau trosglwyddadwy, yn ogystal â darparu llwyfan i mi ddatblygu gwasanaethau trugarog, holistaidd sy’n diwallu fy ngwerthoedd personol a phroffesiynol.” – Stacey
Os ydych chi am dderbyn cymorth i symud ymlaen yn eich gyrfa, neu cymorth i ddod o hyd i rôl newydd, cysylltwch â’r tîm i ddarganfod sut y gallwn eich helpu:
01792 284450 | info@betterjobsbetterfutures.wales
Ffair Recriwtio 2022
/in UncategorizedBeth Fisher
/in Straeon Gyrfa“Ni waeth sawl gwaith y cewch eich llorio, yr hyn sy’n bwysig yw codi i’ch traed a chario ymlaen bob tro.”
Read more
Dyma Jade!
/in Gwell Swyddi, Gwell DyfodolCyn y pandemig, roedd gan Jade ddwy swydd ym maes lletygarwch i gynnal ei hun ac i ddatblygu ei sgiliau cyflogadwyedd, ac wrth weithio yn y rolau hyn, daeth o hyd i’r hyn roedd hi am ei wneud fel gyrfa hirdymor. Mae Jade yn artistig iawn ac roedd eisiau gwneud y mwyaf o’i sgiliau, ond nid oedd yn medru penderfynu pa lwybr fyddai’n fwy addas i’w ar ei chyfer; addysg, cyflogaeth neu brentisiaeth.
Yn ystod y pandemig cafodd Jade ei rhoi ar ffyrlo, ond gan ei bod yn unigolyn penderfynol iawn fe welodd hyn fel cyfle positif, yn hytrach na her. Dechreuodd Jade astudio cyrsiau ar-lein i ddatblygu ei chelf a’i sgiliau arlunio. Roedd hi’n ymrwymedig iawn i’r cyrsiau ac fe arweiniodd hyn at y posibilrwydd o weithio fel arlunydd tatŵ.
Defnyddiodd Jade ddull strategol i gyflawni ei nod ac fe gofrestrodd ar gwrs ymarferol lle ddatblygodd ei sgiliau artistig ymhellach, gan fagu blas am arlunio anifeiliaid – dewis poblogaidd iawn ar gyfer tatŵs.
Mae Jade hefyd yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, gan gynnal sesiynau addysgol i ymwelwyr a phlant ysgol. Mae hyn yn ffordd dda iawn o wella ei hyder a’i sgiliau trosglwyddadwy. Mae hi hefyd ar fin dechrau hyfforddiant i ddod yn Swyddog Addysgol yn y ganolfan, sy’n profi unwaith eto ei bod hi’n berson ymroddedig.
Gyda chymorth parhaus Angela, Hyfforddwr gyrfa, mae Jade bellach yn ymgeisio am gyfleoedd cyflogaeth i gynnal ei chymhelliant, wrth iddi aros yn amyneddgar am gyfle Prentisiaeth Arlunydd Tatŵ yn yr ardal leol. Mae hi’n enghraifft berffaith o sut y gall gynllunio ar gyfer y dyfodol ac archwilio opsiynau weithio o’ch plaid wrth geisio cyflawni eich nodau; mae hi’n llwyr ymroddedig i’w chrefft a’i uchelgeisiau tymor hir. Mae ei hangerdd yn heintus ac yn ysbrydoledig.
“Dw i wedi derbyn cymorth un-i-un i greu C.V, ceisiadau ac i chwilio am swyddi. Byddwn wedi cael cryn drafferth yn gwneud hyn ar fy mhen fy hun ac mi roedd hi’n wych i dderbyn help i gyfathrebu yn fwy proffesiynol. Diolch i chi am eich cymorth ystyrlon” – Jade
Dyma Catrin!
/in Gwell Swyddi, Gwell DyfodolFe ddatblygodd Catrin angerdd am drin gwallt wrth wirfoddoli mewn salon gwallt lleol, ac fe benderfynodd gofrestru ar gwrs Trin Gwallt Lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Oherwydd anabledd sy’n effeithio ar ei dwylo a’i chymalau, roedd natur ymarferol y cwrs yn hynod o heriol i Catrin. Er gwaethaf y ddawn a’r brwdfrydedd yr oedd yn ei ddangos yn ei gwaith ysgrifenedig, roedd Catrin yn siomedig na allai symud ymlaen ymhellach, ac fe roedd yn teimlo ei breuddwyd yn cwympo y tu hwnt i’w gafael. Nid oedd yn gwybod at ble i droi am gefnogaeth. Felly, fe gyfeiriodd tiwtor Catrin hi at gymorth Dyfodol, er mwyn archwilio ei hopsiynau.
Trwy gymorth un-i-un, fe ddaeth Lisa, Hyfforddwr gyrfa, i nabod Catrin ac roedd yn glir ei bod ganddi hi ddawn yn gweithio â phlant ifanc; mae ganddi nai ifanc y mae hi’n ei garu ac mae hi’n gofalu amdano’n rheolaidd. Awgrymodd Lisa y dylai Catrin archwilio opsiynau gofal plant; ar ôl cael ei chyffroi gan yrfa posib newydd, ac yn meddu ar angerdd am gyflawni cynnydd mewn perthynas â’i llwybr gyrfa, symudodd ymlaen yn llwyddiannus i gwrs gofal plant Lefel 1.
Fe wnaeth gwaith caled, gwydnwch ac agwedd gadarnhaol Catrin greu argraff yn syth ar ôl iddi ddechrau ei chwrs; roedd ei phresenoldeb yn wych, cwblhaodd bob un darn o waith ar amser ac i safon uchel, ac roedd hi bob amser yn barod i gefnogi ei chyfoedion. Ni chafodd ei hymdrechion eu hanwybyddu, a chafodd ei henwebu ar gyfer Myfyriwr y Flwyddyn yng ngholeg Gŵyr Abertawe.
Wrth i Catrin dynnu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf o astudio, roedd hi’n awyddus i barhau i ddysgu a chael mwy o brofiad ymarferol, gan symud ymlaen i brentisiaeth, yn hytrach nag addysg amser llawn. Gan gymryd rheolaeth dros ei dyfodol a gwneud newidiadau cadarnhaol a oedd yn gweddu i’w hanghenion, penderfynodd Catrin ymgeisio am brentisiaeth gyda meithrinfa Noah’s Ark. Roedd hi wrth ei bodd pan gafodd gynnig y brentisiaeth.
Mae hi bellach yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl ac yn gwneud cynnydd anhygoel o ran ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Cydnabuwyd ei gallu i oresgyn ei rhwystrau corfforol â brwdfrydedd a phositifrwydd pan enillodd hi wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe 2022.
Mae Catrin yn ysbrydoliaeth, ac yn dangos y gall unrhyw un gyflawni ei nodau, waeth beth fo’i heriau. Mae ei hagwedd ysbrydoledig tuag at ddysgu wedi cael effaith gadarnhaol iawn arni hi ei hun, ei chyfoedion, ei thiwtoriaid a’i theulu. Rydyn ni’n falch iawn ohoni.
Dyma Andrew!
/in Gwell Swyddi, Gwell DyfodolMae gan Andrew, 53, brofiad helaeth o weithio mewn ystod eang o rolau gwahanol, yn ogystal â phrofiad o reoli ei fusnes ei hun.
Fe weithiodd i gwmni cerbydau Ford am sawl blwyddyn, cyn symud ymlaen i rôl logisteg. Ar ôl hyn, fe benderfynodd ddechrau ei fusnes ei hun, D Car Deals Brokerage. Roedd ei fusnes yn ymwneud â gwerthu cerbydau i 27 o ddelwriaethau cerbydau ledled y DU, ac mi roedd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y broses drafodion.
Yn ei amser hamdden roedd Andrew hefyd yn ffotograffydd hunangyflogedig, ac roedd ganddo nifer fawr o gleientiaid megis y BBC, Daily Mail, The Guardian, URC a Llywodraeth Cymru. Gan ddilyn ei angerdd, penderfynodd Andrew ffocysu ar ffotograffiaeth, ac fe arweiniodd hyn at gyfleoedd ledled y byd. Treuliodd amser yn tynnu lluniau i gylchgronau a phapurau newydd byd enwog.
Yn anffodus iawn, fe gafodd Andrew strôc yn 2013, ac ers hynny nid yw wedi gallu sefyll, cerdded na siarad heb gryn anawsterau. Fe wnaeth hyn gael effaith negyddol ar annibyniaeth Andrew a’i allu i redeg ei fusnes ei hun. Ond yn lle derbyn ei fod wedi’i drechu, penderfynodd Andrew ddefnyddio’r profiad hwn fel mantais.
Fe ddaeth Andrew yn fodel rôl Syniadau Mawr Cymru, gan ymgysylltu â phobl ifanc i hybu entrepreneuriaeth a mentoriaeth yn ogystal â gweithio fel Ymgynghorydd i Brifysgol Abertawe, gan ddod o hyd o ffyrdd i rannu ei arbenigedd a gwybodaeth er mwyn helpu prosiectau a chymunedau lleol i gael effaith gadarnhaol ar les.
Mae Andrew bellach yn chwilio am gyflogaeth barhaol lle gall weithio gydag unigolion sy’n dymuno hwyluso newidiadau cadarnhaol, gan gynnwys cyflogwyr a all ganiatáu i rai sydd ag anableddau deimlo’n gyfforddus wrth ymgeisio am rolau, ynghyd â rhoi addasiadau ar waith i’r rhai sydd eu hangen.
Mae Andrew yn ysbrydoliaeth i bawb, ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi ar ei daith gyrfa, wrth iddo gyflawni ei nod o newid y byd er gwell, un person ar y tro.
David Freeman
/in Straeon Gyrfa“Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar greu bywoliaeth. Cofiwch greu bywyd i chi’ch hun”
Read more
Owen Davies
/in Straeon Gyrfa“Un dydd ar y tro mae creu bywyd llwyddiannus.”
Read more
Datblygwr/Peiriannwr Meddalwedd – Prentisiaeth Gradd
/in Swyddi Gwag DyfodolPen-y-bont ar Ogwr
I’w gadarnhau
Amser Llawn
24.12.2021
Read more
Nicola Berry
/in Straeon Gyrfa“Os nad yw’n eich herio, ni fyddwch yn newid”
Read more