Llongyfarchiadau Jacob!

Ar ôl cwblhau Academi Dyfodol – rhaglen i ddysgwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe sy’n dymuno archwilio opsiynau eraill i Addysg Uwch – mae Jacob wedi sicrhau lle i astudio Prentisiaeth Gradd Lefel 6 mewn Datrysiadau Digidol a Thechnolegol gyda Jaguar Land Rover!

Wrth drafod sut y daeth o hyd i Academi Dyfodol a sut y gwnaeth y tîm ei gefnogi i sicrhau ei rôl newydd, dywedodd Jacob:

 

“Mae bod yn rhan o Academi Dyfodol wedi fy helpu’n sylweddol i sicrhau prentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd gyda Jaguar Land Rover. Dw i wedi ennill gwell dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o brentisiaethau a’r opsiynau sydd ar gael i mi. Mae’r academi wedi gwella fy nealltwriaeth o wahanol gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid a’r math o ymgeiswyr y maen nhw’n chwilio amdanyn nhw. O ganlyniad, mae bod yn rhan o’r academi wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi chwilio am swyddi. Fe wnaethon nhw ddarparu gwybodaeth gefndirol i mi er mwyn i mi sicrhau fy rôl.

Mae’r cymorth un-i-un dw i wedi ei dderbyn trwy gydol y broses wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy helpu i sicrhau prentisiaeth. Do’n i erioed wedi creu CV o’r blaen ac ni feddyliais erioed am greu un. Roedd y CV enghreifftiol a ddarparwyd i mi ynghyd â’r cymorth a dderbyniais yn y cyfarfodydd yn help mawr i mi ddeall rôl CV. Fe dderbyniais hefyd wybodaeth angenrheidiol i mi greu dogfen gystadleuol. Roedd y cyfarfodydd yn ffordd hollbwysig o fy helpu i wella fy CV.

Fe wnaeth yr academi hefyd gynnal ffug gyfweliadau i fy helpu i ddeall sut brofiad fyddai ymgymryd â chyfweliad go iawn. Fe wnaeth y ffug gyfweliadau wella fy hyder o ran fy ngalluoedd a fy helpu i fesur fy nghymhwysedd a’m cynnydd. Fe wnaeth y sesiynau ymarferol fy helpu i weithio ar bethau penodol, megis fy nhuedd i siarad yn rhy gyflym a rhuthro trwy wybodaeth. Rwy’n werthfawrogol iawn o’r cymorth rydw i wedi ei dderbyn gan ei fod wedi fy helpu i gael cynigion gan nifer o gwmnïau gwahanol, lle fynychais gyfweliadau a pherfformio hyd eithaf fy ngallu.

Diolch mawr i’r tîm, yn enwedig Sarah a Julie. Roedd y tîm cyfan yn gyfeillgar ac yn galonogol, ac fe wnaeth hyn fy helpu i wneud cais am brentisiaethau cystadleuol. Roedd y tîm yn awyddus i mi lwyddo; er enghraifft, pan gefais wahoddiad gan un cwmni i gyfweliad ar fyr rybudd, fe drefnodd y tîm ffug gyfweliad i leddfu fy nerfau a gwella fy hyder. Heb amheuaeth, mae eu cymorth wedi chwarae rhan hollbwysig o fy llwyddiant.”

 

Mae sicrhau’r rôl hon yn gyflawniad anhygoel ac mae Jacob yn gyffrous i ddechrau ei brentisiaeth ym mis Medi. Llongyfarchiadau Jacob – rydyn ni’n falch iawn ohonot ti!

I gael mwy o wybodaeth am raglen Academi Dyfodol, cysylltwch â ni: futureshub@gcs.ac.uk