Cyflogadwyedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

Cymuned

Cefnogi pobl sy’n chwilio am gyflogaeth newydd neu well.

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol
Dysgwyr

Cefnogi myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i symud ymlaen i fyd gwaith.

GSGD i Fusnesau

Cefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu eu gweithlu.

Cwrdd â’r tîm

Cath Jenkins

Cath Jenkins

Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd
James Bevan

James Bevan

Dirprwy Cyfarwyddwr Gyflogadwyedd
Mark James

Mark James

Rheolwr Rhaglen Cyflogadwyedd
David Freeman

David Freeman

Rheolwr Rhaglen Cyflogadwyedd

Cadwch mewn cysylltiad

Cadwch mewn cysylltiad

“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi darparu cymorth anhygoel wrth i mi archwilio gwahanol lwybrau gyrfa. O’r cychwyn cyntaf, maen nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i mi gyflawni fy mhotensial llawn. Yn amlwg, rhaid i mi weithio i dalu biliau, ond rydw i wedi darganfod fy angerdd ac yn gweithio’n galed i sicrhau fy ngyrfa ddelfrydol.”

“Hoffem ddiolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am eu cymorth a’u hanogaeth, wrth i ni frwydro trwy un o’r blynyddoedd gwaethaf oll i ddechrau busnes. Fe wnaethoch chi gymryd gofal ac fe ymdrechoch yn galed i ddod o hyd i unigolyn i ymuno â’n tîm bach ni, ac fe ddechreuodd weithio i’n cwmni o fewn ychydig wythnosau.  Mae wedi bod yn gymaint o ryddhad i dderbyn cyngor a chymorth gennych ar faterion cyflogaeth a recriwtio ac unrhyw beth arall nad ydym wedi bod yn siŵr ohono. Diolch enfawr i chi.”

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig rhaglen o’r enw Dyfodol, sef adnodd gwych sy’n darparu cymorth un-i-un, gan bobl sydd wedi gweithio ym maes recriwtio. Maen nhw’n eich hyfforddi ac yn teilwra eich cais i’r cyflogwr. Fe wnaethon nhw ddarparu cymorth gwych a chyngor effeithiol ac effeithlon trwy gydol y broses ymgeisio.”

“Roedd gweithio â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn broses broffesiynol a chynhyrchiol. Fe dderbyniais help gan y tîm i wneud ceisiadau am swyddi, ac fe lwyddais i sicrhau cyflogaeth. Roedden nhw’n hapus i fy helpu i ddatrys unrhyw broblem ac roedden nhw bob amser yn fy annog i gwblhau unrhyw dasgau yr oedd angen i mi eu cwblhau. Dw i’n sicr yn argymell eu gwasanaeth ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth dw i wedi ei derbyn”.

Cysylltu

Cysylltwch â’r tîm dros y ffôn, anfonwch e-bost neu ewch i’n Hyb Cyflogaeth.

Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF

01792 284450