

Beth yw’r cymorth a gynigir?
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy ddull hyblyg, sy’n cydnabod ac yn addasu i anghenion unigolion. Byddwch yn gweithio gyda Hyfforddwr Gyrfa penodol, a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyflogadwyedd y bydd wedi’i deilwra i gwrdd â’ch anghenion a’ch amcanion penodol chi. Byddwn yn gweithio gyda chi gam wrth gam i sicrhau’r cyfle perffaith ar eich cyfer ac yn eich cefnogi cyhyd ag y bo angen ar ôl ichi sicrhau swydd, er mwyn ichi wneud y mwyaf o’ch cyfle i symud ymlaen ymhellach o fewn eich swydd.
Mae rhaglen pob unigolyn yn unigryw ac wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion ac amcanion gwahanol. Mae’r gweithgareddau canlynol yn enghraifft o’r math o gefnogaeth a gynigir:
- hyfforddi a mentora un-i-un;
- sgiliau cyflogadwyedd a chwilio am swydd;
- cymorth recriwtio a pharatoi ar gyfer cyfweliadau;
- sgiliau a thystysgrifau sy’n benodol i swyddi;
- mynediad at gymorth hunangyflogaeth; a
- cymorth gydag agweddau ymarferol megis costau teithio neu ofal plant.
Mae’ rhaglen hefyd yn gweithio’n uniongyrchol â chyflogwyr i greu a pharu unigolion gyda chyfleoedd gwaith.
Menter gan Goleg Gŵyr Abertawe yw Dyfodol Mentrus sy’n ymgysylltu, annog a chefnogi unigolion i ddewis llwybr gyrfa hunangyflogedig.
Mae’r rhaglen, sy’n gweithredu ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn hyrwyddo manteisio hunangyflogaeth drwy gyfuniad o weithdai cymorth a mentora un-i-un.
Mae’r cymorth yn hyblyg ac wedi’i deilwra ar gyfer anghenion penodol, ac mae’r Hyfforddwyr Cyflogaeth ymroddedig yn cynnig darpariaeth a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.