Employability at Gower College Swansea
  • GSGD
  • Dyfodol
  • Fusnes
  • Swyddi
  • English
  • Cysylltu
  • Menu Menu

Beth yw GSGD i Fusnesau?

Mae ein rhaglenni Cyflogadwyedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cael eu cyflwyno ar y cyd ag ystod eang o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Fel rhan o’r berthynas hon, mae tîm GSGD yn cynnig cymorth i fusnesau sy’n dymuno ehangu a datblygu eu gweithle presennol, gyda’r nod o recriwtio a datblygu staff o ardal Abertawe.

Cymerwch gip ar beth sydd gan fusnesau i’w dweud am y cymorth rydym yn ei gynnig

Fantom FactorySBUHBGerald ThomasVortex IOTDWJ WealthMorgan Hemp
PreviousNext

“Hoffem ddiolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am eu cymorth a’u hanogaeth, wrth i ni frwydro trwy un o’r blynyddoedd gwaethaf oll i ddechrau busnes. Fe wnaethoch chi gymryd gofal ac fe ymdrechoch yn galed i ddod o hyd i unigolyn i ymuno â’n tîm bach ni, ac fe ddechreuodd weithio i’n cwmni o fewn ychydig wythnosau.  Mae wedi bod yn gymaint o ryddhad i dderbyn cyngor a chymorth gennych ar faterion cyflogaeth a recriwtio ac unrhyw beth arall nad ydym wedi bod yn siŵr ohono. Diolch enfawr i chi.”

Emma
Fantom Factory

“Mar SBUHB yn falch o weithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i helpu i roi cyngor i’w cleientiaid ar yr amrywiaeth eang o swyddi yn y GIG, gan gynnwys nifer gynyddol o swyddi prentisiaeth mewn amrywiaeth o adrannau.

Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad y bartneriaeth yn y dyfodol a darparu mwy o leoliadau profiad gwaith a chyngor i’r grŵp cynyddol o gleientiaid.”

Ruth Gates, Prentis Arweiniol
SBUHB

“Trwy weithio â Zoe a thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae ein proses recriwtio wedi cael ei symleiddio, ac mae gennym bellach gyfle unigryw i nodi a recriwtio hyfforddeion rhagorol i’r cwmni. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i siarad â myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ac mae hi’n bleser o’r mwyaf bob amser i gydweithio â chi. Mae’r berthynas wych hon wedi caniatáu Gerald Thomas i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gyfrifwyr.”

Gerald Thomas

“Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn wych.

Cymerodd Zoe a Daniel yr amser i ddeall beth oedd yn bwysig i’n busnes a rheoli cyfnod dwys o recriwtio ar gyfer tîm sy’n tyfu.

Roedd GSGD yr un mor effeithiol ar yr ochr gweinyddol a thechnegol, gan helpu ymgeiswyr i deimlo eu bod yn cymryd rhan yn y broses a rheoli popeth o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’n deg dweud bod GSGD yn rhan hanfodol o’n proses recriwtio a fyddem ddim yn meddwl dwywaith cyn defnyddio eu gwasanaethau eto.”

Nick Beckett, Cyfarwyddwr
Vortex IOT

“Roeddwn i am ddweud diolch enfawr i dîm y prosiect Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

Roedd y broses recriwtio’n llyfn a chymeroch chi’n holl drafferth sifftiau drwy CVs di-rif a chyfweliadau cychwynnol i ffwrdd. Roedd y ddau ymgeisydd gwnaethoch chi eu hargymell o safon dda iawn ac rydym wedi cynnig swydd i’r ddau ohonynt.

Fe ddealloch chi ein briff yn llwyr ac, wrth wneud hynny, rydym ni’n teimlo eich bod chi wedi dod o hyd i’r ymgeisydd perffaith y gellir ei fowldio.

Pan fyddwn yn ehangu, byddwch chi ar ben ein rhestr ar gyfer recriwtio yn y dyfodol.

Diolch unwaith eto.”

Danni Watts-Jones, Cyfarwyddwr
DWJ Wealth Management

“Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi dod yn brif gyswllt ar gyfer recriwtio hyfforddeion ar gyfer ein busnes. Wrth i ni recriwtio ein gweithwyr diweddaraf, fe wnaethon ni gynnig contract i 3 ymgeisydd; maen nhw wedi setlo yn eu rolau yn barod yma yn Morgan Hemp. Mae hyn yn adlewyrchiad o holl waith caled Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.”

Kris Morgan, Cyfarwyddwr
Morgan Hemp

Cymorth recriwtio a pharu swyddi arbenigol

Mae ein tîm recriwtio a gweithlu arbenigol ar gael i ddarparu cymorth recriwtio a pharu swyddi. Maent yn gweithio gydag ystod eang o fusnesau er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid yn cael eu paru â’r swyddi gorau.

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i ystod eang o wasanaethau eraill ar draws y coleg:

Ymgysylltu â MyfyrwyrSgiliau a Hyfforddiant
PreviousNext

Ymgysylltu â Myfyrwyr

Trwy gysylltiadau rhaglen gymorth Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe, mae GSGD i Fusnesau hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i gyflogwyr i ymgysylltu â dysgwyr sy’n dymuno symud yn syth ymlaen i gyflogaeth/prentisiaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Sgiliau a Hyfforddiant

Mae GSGD i Fusnesau yn gweithio ar y cyd gydag adran datblygu busnes y coleg i ddarparu mynediad i’r portffolio llawn o sgiliau a chymorth hyfforddiant sydd ar gael i gyflogwyr.

Gan ymgorffori rhaglenni megis Prentisiaethau a Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2, mae’r gefnogaeth yn ein galluogi ni i ddarparu datrysiadau i fusnesau ar gyfer eu hanghenion recriwtio, cadw a sgiliau.

Diddordeb?

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i ystod eang o wasanaethau eraill ar draws y coleg:

Cysylltu

Mae capsiynau caeedig ar gael hefyd. Ewch i’n sianel YouTube i wylio rhagor o fideos.

Coleg Gŵyr Abertawe wedi ei ddyfarnu fel porth gogyfer â Chynllun Kickstart Llywodraeth y DU, gwerth £2Bn. Bwriad y cynllun yw creu miloedd o swyddi newydd i unigolion ifanc ledled Lloegr, Yr Alban a Chymru.

Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwr i greu lleoliadau gwaith newydd am chwe mis i bobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir o amser.

I bob lleoliad gwaith, mi fydd y cyllid yn talu am:

  • 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 25 awr yr wythnos
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr cysylltiedig
  • Cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr

Bydd cyllid ychwanegol (hyd at £1500) hefyd ar gael i dalu am gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefydlu, cefnogi a hyfforddiant, er mwyn ceisio helpu unigolion i symud i gyflogaeth barhaus ar ôl iddynt gwblhau eu swydd a ariennir gan y Cynllun Kickstart.

Diddordeb?

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â ni:

Cysylltwch â ‘r tîm

Cysylltu

Cysylltwch â Thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol drwy ffonio, e-bostio neu galwch heibio’n Hyb Cyflogaeth.

Hyb Cyflogaeth
37 Ffordd y Brenin (Llawr 1af)
Abertawe
SA1 5LF

01792 284450

info@betterjobsbetterfutures.wales

Cysylltu â’r tîm
  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Dewiswch Iaith

ESF Logo

Y Cyfryngau Cymdeithasol

  • facebook
  • twitter
  • instagram
  • linkedin

Cyfreithiol

GDPR
Hysbysiad Hygyrchedd

Dolenni cyflym

  • Catref
  • Gwell Swyddi, Gwell DyfodolB
  • Dyfodol
  • GSGS i Fusnesau
  • Cyfarfod â’r tîm
  • Partneriaethau a Chysylltiadau Busnes
  • Cysylltu
  • Swyddi Gwag

Gower College Swansea

Scroll to top