

Beth yw Dyfodol?
‘Cyfres o raglenni cyflogadwyedd cynhwysfawr yw Dyfodol sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.
Fel rhan o Warant Coleg Gŵyr Abertawe, mae Dyfodol yn darparu cyngor a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar opsiynau cyflogaeth/prentisiaethau, ynghyd â chynnig cymorth cyflogadwyedd i gynorthwyo dysgwyr wrth iddynt gamu’n nes at eu gyrfa dewisedig.
Mae capsiynau caeedig ar gael yma.
Mae capsiynau caeedig ar gael hefyd. Ewch i’n sianel YouTube i wylio rhagor o fideos.
Sut i gael gafael ar gymorth gan Dyfodol
Mae Hybiau Dyfodol ar gael yn ystod y tymor. Cysylltwch â’r dderbynfa yng nghampws Tycoch neu Orseinon i gael rhagor o wybodaeth.
Fel arall, neu os ydych am gael cymorth tu allan i dymhorau’r Coleg, cysylltwch â’r Hyb Cyflogaeth yn Ffordd y Brenin drwy e-bostio 01792 284450 / futureshub@gcs.ac.uk.
Atriwm Tycoch
(wrth ymyl Undeb y Myfyrwyr)
Dydd Llun i ddydd Iau: 9:00am – 4:30pm
Dydd Gwener: 9am – 12:30pm
Ardal Derbynfa Gorseinon
(wrth ymyl prif swyddfa’r dderbynfa)
Dydd Llun i ddydd Iau: 9:00am – 4:30pm
Dydd Gwener: 9am – 12:30pm