Torri cwys ym myd lletygarwch – Stori Jasmine

Roedd Jasmine yn astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan gysylltodd â thîm Dyfodol i gael cymorth ar ddod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â’i hastudiaethau. Ar ôl penderfynu nad oedd hi am fynd i’r brifysgol, canolbwyntiodd Jasmine ar sicrhau swydd er mwyn ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad o’r byd go iawn. Derbyniodd hi gymorth gan ei Hyfforddwr Gyrfa, ac fe wnaethon nhw’n dau chwilio am gyfleoedd addas yn y sector lletygarwch. Yn y pendraw fe ddaethon nhw o hyd i rôl Gwneuthurwr Pwdinau mewn bwyty pwdinau lleol o’r enw Treatz.

Gweithiodd gyda’i Hyfforddwr Gyrfa i greu CV o’r radd flaenaf, ac fe gymerodd rhan mewn sawl ffug gyfweliad i fagu hyder. Perfformiodd hi’n wych yn ei chyfweliad a chafodd gynnig swydd ran-amser yn y fan a’r lle.

Roedd hi am archwilio ei hopsiynau ôl-addysg ymhellach, felly cynigiodd ei Hyfforddwr gyrfa iddi fynd at Academi Dyfodol – rhaglen o weithgareddau sy’n datblygu llwybrau gyrfa i fyfyrwyr, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn symud yn syth i fyd gwaith neu brentisiaeth ar ôl cwblhau prentisiaethau neu gyrsiau safon uwch. Ar ôl pwyso a mesur ei hopsiynau, penderfynodd Jasmine ffocysu ar gyfleoedd cogyddion dan hyfforddiant yn y sector lletygarwch; roedd hi’n mwynhau ei swydd ran-amser cymaint ac fe ddatblygodd angerdd am fwyd ac amgylchedd y gegin.

Ar ôl gadael y Coleg, aeth Jasmine i weld criw gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cymorth parhaus. Awgrymodd Hyfforddwyr Gyrfa Jasmine y dylai hi gofrestru ar gwrs hylendid bwyd i ennill rhywfaint

o sgiliau perthnasol, felly gwnaeth hi’r mwyaf o’r cyfle a chwblhaodd y cwrs â marciau da iawn. Gweithiodd y tîm yn ddiflino i chwilio am gyfle addas ar ei chyfer, ac fe ddaethon nhw o hyd i gyfle perffaith: rôl Cogydd Dan Hyfforddiant yn Forage Farm Shop & Kitchen, cwmni clodfawr iawn. Yn y rôl, cafodd gyfle i weithio ochr yn

ochr â’u Prif Gogydd a thîm cefnogol sy’n angerddol am gynnyrch lleol ac arferion ffermio cynaliadwy. Roedd Jasmine yn gyffrous iawn am y cyfle, felly penderfynodd gyflwyno cais; fe wnaeth hi argraff dda iawn ar y cyflogwr a chafodd gynnig y rôl yn syth.

Mae Jasmine bellach wedi bod yn y rôl ers rhai misoedd ac mae hi’n gwneud cynnydd gwych. Braf yw gweld ei hymrwymiad at ddatblygiad parhaus wedi iddi ddechrau prentisiaeth ym mis Medi fel Cogydd Commis.

“Rydyn ni’n falch iawn o weld Jasmin yn ymuno â’n tîm fel Cogydd Dan Hyfforddiant. Mae tîm cegin Forage wedi ennill enw da iawn i’w hun dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n gobeithio bydd Jasmine yn dysgu llawer ac yn mwynhau’r hyfforddiant. Rydyn ni’n datblygu prosiect cyffrous iawn a braf yw medru rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni.” – Tom Homfray, Perchennog Forage Farm & Kitchen.