Mae ein intern newydd, Justas, yn gwybod pob dim am gymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ond a oeddech chi’n gwybod bod ei frodyr wedi derbyn cyngor gan ein tîm, ac wedi elwa o’n cymorth?
Roedd brawd hŷn Justas, Karolis, yn gweithio fel Technegydd TG Dan Hyfforddiant i Goleg Gŵyr Abertawe pan aeth i gwrdd â thîm Dyfodol, sy’n rhedeg Biwro Chyflogaeth a Menter y Coleg, am y tro cyntaf. Gyda diddordeb brwd mewn symud ymlaen i swydd Technegydd TG, ond yn ansicr ynghylch y broses ymgeisio a sut i ymgymryd â chyfweliadau, aeth Karolis i weld Hyfforddwr Gyrfa i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i alluoedd. Ar ôl derbyn hyfforddiant a mentora un-i-un, magodd Karolis hyder a dysgodd sgiliau newydd, gwerthfawr. Cyflwynodd gais am gyfle dilyniant mewnol a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer y rôl. Ar ôl gwaith paratoi a sawl ffug gyfweliad gyda thîm Dyfodol, fe wnaeth e’n dda iawn a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i rôl Technegydd TG!
“Mae’r gwaith rydych chi wedi ei wneud gyda Karolis wedi talu ar ei ganfed. Roedd y cyfweliad yn wych, ac roedden ni i gyd yn gytûn ei fod yn berson gwahanol i’r un a fynychodd y cyfweliad cyntaf. Roedd e’n addfwyn, yn glir, yn broffesiynol iawn ac fe atebodd bob cwestiwn yn gryno, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol ac enghreifftiau, lle bo’n briodol. Fe wnaeth e’n dda iawn, ac fe lwyddodd i sicrhau dyrchafiad o Dechnegydd TG dan hyfforddiant i Dechnegydd TG. Mae’r tîm cyfan yn hapus gyda’r canlyniad, Diolch am eich help gyda’r broses, ac am wneud gwahaniaeth i fywyd Karolis a’r Tîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol.” – Richard Thorne, cyn Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifiadurol
Roedd brawd iau Karolis, Laimis, yn ymweld â Hyb Dyfodol yn rheolaidd yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe. Mae e’n gymeriad cymdeithasol a chlên ac fe roedd yn mynd i’r Hyb i dderbyn cyngor gan hyfforddwyr gyrfa ac i sgwrsio am gynigion. Ar ôl ei gyfnod fel Llywydd, ac yn dilyn cymorth a chyngor gan dîm Dyfodol, penderfynodd Laimis ail-gofrestru fel myfyriwr i astudio cwrs mewn Busnes. Gwerthfawrogodd Laimis yr holl gymorth, yn enwedig wrth archwilio ei opsiynau, ac o ganlyniad teimlodd ei fod yn medru gwneud penderfyniadau gwybodus. Ar ôl profiad cadarnhaol, ac wrth brofi buddion ar ôl derbyn ein cymorth, cyfeiriodd Laimis ei frawd iau, Justas, at dîm Dyfodol, i gael help i archwilio ei opsiynau a chynllunio ei daith gyrfa ei hun.
Fe aeth Justas, y plentyn ieuengaf, at dîm Dyfodol i dderbyn cymorth i sicrhau swydd ran-amser i redeg ochr yn ochr â’i gwrs Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. I gychwyn, roedd ganddo uchelgeisiau mawr o weithio yn y diwydiant eiddo tirol, felly roedd yn awyddus i ddechrau ei yrfa a’i daith gyrfa trwy ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, i’w baratoi ar gyfer byd gwaith. Derbyniodd gymorth gan dîm Dyfodol i chwilio am swydd addas ac i wella a theilwra ei CV i rolau perthnasol. Cyflawnodd Justas gynnydd yn gyflym a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer rôl manwerthu ran-amser. Gwnaeth e’n dda iawn yn y cyfweliad a llwyddodd i sicrhau’r rôl. Ond, ni ddaeth y cymorth i ben ar ôl hyn! Roedd Justas yn awyddus i sicrhau swydd yn y diwydiant eiddo tiriog, ac roedd y tîm yn hapus i’w helpu i archwilio ei gamau nesaf, gan ei roi ar y llwybr gorau posib i wireddu ei freuddwydion. Penderfynodd Justas ei fod am ennill profiad mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle gallai wella ei sgiliau gweinyddu a threfnu, felly fe aeth ar drywydd cyfle newydd. Awgrymodd Sarah, Ymgynghorydd Recriwtio, iddo ddilyn trywydd interniaeth Haf a gynigiwyd gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, i gael cyfle i gefnogi gweithgarwch marchnata a gweinyddu ystod eang o brosiectau. Bachodd Justas ar y cyfle a chwblhaodd gais rhagorol am y rôl. Cafodd ei wahodd i gyfweliad, ac ar ôl ymgymryd â ffug gyfweliadau gyda Sarah, gwnaeth Justas gryn argraff ar y panel gyda’i agwedd gadarnhaol a’i barodrwydd i ddysgu, ac fe sicrhaodd y rôl.
Dechreuodd Justas ei swydd ym mis Gorffennaf ac mae ef wedi bod yn gaffaeliad gwych i’r tîm; yn ystod ei amser gyda’r tîm derbyn, mae Justas eisoes wedi ennill llawer iawn o sgiliau trosglwyddadwy ac wedi darganfod angerdd am gwblhau tasgau trefnu a gweinyddu. Mae e’n ennill profiad gwaith gwerthfawr bob dydd ac yn camu’n nes ac yn nes at gyflawni ei nodau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o gael Justas yn rhan o’r tîm a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth parhaus iddo i sicrhau ei fod yn gwireddu ei freuddwydion.
“Roedd yr hyfforddwyr a weithiais â nhw yn gymwynasgar ac yn angerddol am eu gwaith, ac fe wnaethon nhw’n siŵr fy mod yn sicrhau fy swydd ddelfrydol. Mae GSGD wedi fy helpu i sicrhau’r swydd ro’n i ei heisiau, ac rwy’n hynod o ddiolchgar.” – Justas
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ei gynnig, cysylltwch â’r tîm 01792 284450, info@betterjobsbetterfutures.wales.
Llongyfarchiadau Jacob!
/in DyfodolAr ôl cwblhau Academi Dyfodol – rhaglen i ddysgwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe sy’n dymuno archwilio opsiynau eraill i Addysg Uwch – mae Jacob wedi sicrhau lle i astudio Prentisiaeth Gradd Lefel 6 mewn Datrysiadau Digidol a Thechnolegol gyda Jaguar Land Rover!
Wrth drafod sut y daeth o hyd i Academi Dyfodol a sut y gwnaeth y tîm ei gefnogi i sicrhau ei rôl newydd, dywedodd Jacob:
“Mae bod yn rhan o Academi Dyfodol wedi fy helpu’n sylweddol i sicrhau prentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd gyda Jaguar Land Rover. Dw i wedi ennill gwell dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o brentisiaethau a’r opsiynau sydd ar gael i mi. Mae’r academi wedi gwella fy nealltwriaeth o wahanol gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid a’r math o ymgeiswyr y maen nhw’n chwilio amdanyn nhw. O ganlyniad, mae bod yn rhan o’r academi wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi chwilio am swyddi. Fe wnaethon nhw ddarparu gwybodaeth gefndirol i mi er mwyn i mi sicrhau fy rôl.
Mae’r cymorth un-i-un dw i wedi ei dderbyn trwy gydol y broses wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy helpu i sicrhau prentisiaeth. Do’n i erioed wedi creu CV o’r blaen ac ni feddyliais erioed am greu un. Roedd y CV enghreifftiol a ddarparwyd i mi ynghyd â’r cymorth a dderbyniais yn y cyfarfodydd yn help mawr i mi ddeall rôl CV. Fe dderbyniais hefyd wybodaeth angenrheidiol i mi greu dogfen gystadleuol. Roedd y cyfarfodydd yn ffordd hollbwysig o fy helpu i wella fy CV.
Fe wnaeth yr academi hefyd gynnal ffug gyfweliadau i fy helpu i ddeall sut brofiad fyddai ymgymryd â chyfweliad go iawn. Fe wnaeth y ffug gyfweliadau wella fy hyder o ran fy ngalluoedd a fy helpu i fesur fy nghymhwysedd a’m cynnydd. Fe wnaeth y sesiynau ymarferol fy helpu i weithio ar bethau penodol, megis fy nhuedd i siarad yn rhy gyflym a rhuthro trwy wybodaeth. Rwy’n werthfawrogol iawn o’r cymorth rydw i wedi ei dderbyn gan ei fod wedi fy helpu i gael cynigion gan nifer o gwmnïau gwahanol, lle fynychais gyfweliadau a pherfformio hyd eithaf fy ngallu.
Diolch mawr i’r tîm, yn enwedig Sarah a Julie. Roedd y tîm cyfan yn gyfeillgar ac yn galonogol, ac fe wnaeth hyn fy helpu i wneud cais am brentisiaethau cystadleuol. Roedd y tîm yn awyddus i mi lwyddo; er enghraifft, pan gefais wahoddiad gan un cwmni i gyfweliad ar fyr rybudd, fe drefnodd y tîm ffug gyfweliad i leddfu fy nerfau a gwella fy hyder. Heb amheuaeth, mae eu cymorth wedi chwarae rhan hollbwysig o fy llwyddiant.”
Mae sicrhau’r rôl hon yn gyflawniad anhygoel ac mae Jacob yn gyffrous i ddechrau ei brentisiaeth ym mis Medi. Llongyfarchiadau Jacob – rydyn ni’n falch iawn ohonot ti!
I gael mwy o wybodaeth am raglen Academi Dyfodol, cysylltwch â ni: futureshub@gcs.ac.uk
Cleientiaid Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn mynd o nerth i nerth yn Bevan Buckland
/in Dyfodol, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, NewyddionErs lansio Gwell Swyddi. Gwell Dyfodol yn 2017, mae ein perthynas â’r Cyfrifwyr Siartredig, Bevan Buckland, wedi parhau i gryfhau. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n prentisiaid yn barhaus, ac maent yn cyflwyno sesiynau yn rheolaidd i rannu eu cyngor arbenigol a’u gwybodaeth am y diwydiant. Dros y 5 mlynedd diwethaf maent hefyd wedi mynychu ein Ffeiriau Recriwtio blynyddol a chynnig siaradwyr gwadd ar gyfer digwyddiadau Academi Dyfodol.
Saliem a Daniel yn 2021
Fe wnaeth Daniel a Saliem – dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe – sicrhau rolau ar Academi Hyfforddiant clodfawr Bevan Buckland yn 2021, ac mae’r ddau yn parhau i ragori ar eu gyrfaoedd. Yn fuan ar ôl hyn, cyflawnodd Saliem y ‘cylch llawn’, fel petai, wrth iddi gynrychioli Bevan Buckland yn Ffair Recriwtio Dyfodol yn 2022. Yn y Ffair Recriwtio fe wnaeth Saliem gwrdd â Lauren ac Atlanta am y tro cyntaf, myfyrwyr a fyddai’n dilyn yn ei holion traed hi trwy ymuno ag Academi Hyfforddiant Bevan Buckland yn 2022.
Roedd Lauren ac Atlanta yn astudio BA mewn Rheoli Busnes (Cyfrifo a Chyllid) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac roedd y ddau yn awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cyllid, felly cyrchodd y ddau gymorth gan dîm Dyfodol. Fe wnaeth Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig eu helpu i ddod o hyd i rolau cyfrifwyr dan hyfforddiant a rhoi gwybod iddynt am weithdy cyflogwr gan Vanessa Thomas-Parry, Prif Swyddog Gweithredu Bevan Buckland. Gan ystyried bod Bevan Buckland yn un o gwmnïau cyfrifeg mwyaf y De a Gorllewin Cymru, neidiodd y ddau at y cyfle i fynychu’r gweithdy. Cafodd y merched eu hysbrydoli gan ddiwylliant ac amgylchedd y sefydliad, ynghyd â’r ystod eang o gyfleoedd dilyniant a datblygiad.
Gyda chymorth y tîm, cyflwynodd Lauren ac Atlanta geisiadau ardderchog ar gyfer Academi Hyfforddiant Bevan Buckland ac roeddent wrth eu bodd pan gynigiwyd rolau amser llawn iddynt. Yn ddiweddar cawson ni sgwrs â Lauren ac Atlanta i weld sut hwyl maen nhw’n ei gael.
Yn ogystal â Daniel, Saliem, Lauren ac Atlanta, mae Courtney a Conor wedi cyrchu cymorth Hyb Cyflogaeth Ffordd y Brenin gyda’r bwriad o sicrhau gyrfaoedd ym maes cyfrifeg.
Penderfynodd Courtney ei bod hi am ddilyn rôl hyfforddi yn hytrach na pharhau ag addysg ac fe dderbyniodd gymorth gan y tîm i ddod o hyd i gyfleoedd a oedd yn berthnasol i’w chymwysterau a’i nodau gyrfa. Derbyniodd help i gyflwyno ceisiadau am rolau cyfrifeg ac roedd hi’n hapus iawn o sicrhau rôl gyda Bevan Buckland.
Pan gysylltodd Conor â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol roedd yn gweithio fel Uwch Weinyddwr Archwilio. Ond, roedd e am gymryd y cam nesaf ar ei daith gyrfa trwy geisio sicrhau rôl gyllid a chyfleoedd hyfforddiant a dilyniant. Felly, gweithiodd Conor yn agos â’i Hyfforddwr Gyrfa i chwilio am gyfleoedd yn y sector lle gallai ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn ei rôl bresennol. Ar ôl diweddaru ei CV a chyflwyno ceisiadau, cafodd Conor gyfweliad gyda Bevan Buckland ac fe wnaeth ei Hyfforddwr Gyrfa ei helpu drwy’r broses. Cafodd gyfweliad da iawn a chafodd gynnig rôl dan hyfforddiant.
Rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth wych sydd wedi datblygu rhyngom ni a Bevan Buckland ac rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio.
Ffair Recriwtio Dyfodol 2023
/in UncategorizedAmelia Patterson
/in Straeon Gyrfa“Byddwch yn hyderus yn yr hyn ydych chi ac yn falch o’r hyn yr ydych yn tyfu i fod.”
Read more
Ffion Watts
/in Straeon Gyrfa“Byddwch yn ddewr, cymerwch risgiau a chofleidiwch yr annisgwyl”
Read more
Torri cwys ym myd lletygarwch – Stori Jasmine
/in Dyfodol, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, NewyddionRoedd Jasmine yn astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan gysylltodd â thîm Dyfodol i gael cymorth ar ddod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â’i hastudiaethau. Ar ôl penderfynu nad oedd hi am fynd i’r brifysgol, canolbwyntiodd Jasmine ar sicrhau swydd er mwyn ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad o’r byd go iawn. Derbyniodd hi gymorth gan ei Hyfforddwr Gyrfa, ac fe wnaethon nhw’n dau chwilio am gyfleoedd addas yn y sector lletygarwch. Yn y pendraw fe ddaethon nhw o hyd i rôl Gwneuthurwr Pwdinau mewn bwyty pwdinau lleol o’r enw Treatz.
Gweithiodd gyda’i Hyfforddwr Gyrfa i greu CV o’r radd flaenaf, ac fe gymerodd rhan mewn sawl ffug gyfweliad i fagu hyder. Perfformiodd hi’n wych yn ei chyfweliad a chafodd gynnig swydd ran-amser yn y fan a’r lle.
Roedd hi am archwilio ei hopsiynau ôl-addysg ymhellach, felly cynigiodd ei Hyfforddwr gyrfa iddi fynd at Academi Dyfodol – rhaglen o weithgareddau sy’n datblygu llwybrau gyrfa i fyfyrwyr, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn symud yn syth i fyd gwaith neu brentisiaeth ar ôl cwblhau prentisiaethau neu gyrsiau safon uwch. Ar ôl pwyso a mesur ei hopsiynau, penderfynodd Jasmine ffocysu ar gyfleoedd cogyddion dan hyfforddiant yn y sector lletygarwch; roedd hi’n mwynhau ei swydd ran-amser cymaint ac fe ddatblygodd angerdd am fwyd ac amgylchedd y gegin.
Ar ôl gadael y Coleg, aeth Jasmine i weld criw gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cymorth parhaus. Awgrymodd Hyfforddwyr Gyrfa Jasmine y dylai hi gofrestru ar gwrs hylendid bwyd i ennill rhywfaint
o sgiliau perthnasol, felly gwnaeth hi’r mwyaf o’r cyfle a chwblhaodd y cwrs â marciau da iawn. Gweithiodd y tîm yn ddiflino i chwilio am gyfle addas ar ei chyfer, ac fe ddaethon nhw o hyd i gyfle perffaith: rôl Cogydd Dan Hyfforddiant yn Forage Farm Shop & Kitchen, cwmni clodfawr iawn. Yn y rôl, cafodd gyfle i weithio ochr yn
ochr â’u Prif Gogydd a thîm cefnogol sy’n angerddol am gynnyrch lleol ac arferion ffermio cynaliadwy. Roedd Jasmine yn gyffrous iawn am y cyfle, felly penderfynodd gyflwyno cais; fe wnaeth hi argraff dda iawn ar y cyflogwr a chafodd gynnig y rôl yn syth.
Mae Jasmine bellach wedi bod yn y rôl ers rhai misoedd ac mae hi’n gwneud cynnydd gwych. Braf yw gweld ei hymrwymiad at ddatblygiad parhaus wedi iddi ddechrau prentisiaeth ym mis Medi fel Cogydd Commis.
Mae teuluoedd yn hyblyg ac addasadwy, yn union fel ein cymorth ni!
/in DyfodolMae ein intern newydd, Justas, yn gwybod pob dim am gymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ond a oeddech chi’n gwybod bod ei frodyr wedi derbyn cyngor gan ein tîm, ac wedi elwa o’n cymorth?
Roedd brawd hŷn Justas, Karolis, yn gweithio fel Technegydd TG Dan Hyfforddiant i Goleg Gŵyr Abertawe pan aeth i gwrdd â thîm Dyfodol, sy’n rhedeg Biwro Chyflogaeth a Menter y Coleg, am y tro cyntaf. Gyda diddordeb brwd mewn symud ymlaen i swydd Technegydd TG, ond yn ansicr ynghylch y broses ymgeisio a sut i ymgymryd â chyfweliadau, aeth Karolis i weld Hyfforddwr Gyrfa i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i alluoedd. Ar ôl derbyn hyfforddiant a mentora un-i-un, magodd Karolis hyder a dysgodd sgiliau newydd, gwerthfawr. Cyflwynodd gais am gyfle dilyniant mewnol a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer y rôl. Ar ôl gwaith paratoi a sawl ffug gyfweliad gyda thîm Dyfodol, fe wnaeth e’n dda iawn a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i rôl Technegydd TG!
Roedd brawd iau Karolis, Laimis, yn ymweld â Hyb Dyfodol yn rheolaidd yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe. Mae e’n gymeriad cymdeithasol a chlên ac fe roedd yn mynd i’r Hyb i dderbyn cyngor gan hyfforddwyr gyrfa ac i sgwrsio am gynigion. Ar ôl ei gyfnod fel Llywydd, ac yn dilyn cymorth a chyngor gan dîm Dyfodol, penderfynodd Laimis ail-gofrestru fel myfyriwr i astudio cwrs mewn Busnes. Gwerthfawrogodd Laimis yr holl gymorth, yn enwedig wrth archwilio ei opsiynau, ac o ganlyniad teimlodd ei fod yn medru gwneud penderfyniadau gwybodus. Ar ôl profiad cadarnhaol, ac wrth brofi buddion ar ôl derbyn ein cymorth, cyfeiriodd Laimis ei frawd iau, Justas, at dîm Dyfodol, i gael help i archwilio ei opsiynau a chynllunio ei daith gyrfa ei hun.
Fe aeth Justas, y plentyn ieuengaf, at dîm Dyfodol i dderbyn cymorth i sicrhau swydd ran-amser i redeg ochr yn ochr â’i gwrs Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. I gychwyn, roedd ganddo uchelgeisiau mawr o weithio yn y diwydiant eiddo tirol, felly roedd yn awyddus i ddechrau ei yrfa a’i daith gyrfa trwy ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, i’w baratoi ar gyfer byd gwaith. Derbyniodd gymorth gan dîm Dyfodol i chwilio am swydd addas ac i wella a theilwra ei CV i rolau perthnasol. Cyflawnodd Justas gynnydd yn gyflym a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer rôl manwerthu ran-amser. Gwnaeth e’n dda iawn yn y cyfweliad a llwyddodd i sicrhau’r rôl. Ond, ni ddaeth y cymorth i ben ar ôl hyn! Roedd Justas yn awyddus i sicrhau swydd yn y diwydiant eiddo tiriog, ac roedd y tîm yn hapus i’w helpu i archwilio ei gamau nesaf, gan ei roi ar y llwybr gorau posib i wireddu ei freuddwydion. Penderfynodd Justas ei fod am ennill profiad mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle gallai wella ei sgiliau gweinyddu a threfnu, felly fe aeth ar drywydd cyfle newydd. Awgrymodd Sarah, Ymgynghorydd Recriwtio, iddo ddilyn trywydd interniaeth Haf a gynigiwyd gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, i gael cyfle i gefnogi gweithgarwch marchnata a gweinyddu ystod eang o brosiectau. Bachodd Justas ar y cyfle a chwblhaodd gais rhagorol am y rôl. Cafodd ei wahodd i gyfweliad, ac ar ôl ymgymryd â ffug gyfweliadau gyda Sarah, gwnaeth Justas gryn argraff ar y panel gyda’i agwedd gadarnhaol a’i barodrwydd i ddysgu, ac fe sicrhaodd y rôl.
Dechreuodd Justas ei swydd ym mis Gorffennaf ac mae ef wedi bod yn gaffaeliad gwych i’r tîm; yn ystod ei amser gyda’r tîm derbyn, mae Justas eisoes wedi ennill llawer iawn o sgiliau trosglwyddadwy ac wedi darganfod angerdd am gwblhau tasgau trefnu a gweinyddu. Mae e’n ennill profiad gwaith gwerthfawr bob dydd ac yn camu’n nes ac yn nes at gyflawni ei nodau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o gael Justas yn rhan o’r tîm a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth parhaus iddo i sicrhau ei fod yn gwireddu ei freuddwydion.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ei gynnig, cysylltwch â’r tîm 01792 284450, info@betterjobsbetterfutures.wales.
Louise Dempster
/in Straeon Gyrfa“Byddwch yn unigryw, yn ddewr ond yn onest”
Read more
Andrew Walsh – Stori Gyrfa
/in Straeon Gyrfa“Mae gwaith caled yn arwain at lwc”
Eisteddon ni gyda’r Hyfforddwr Gyrfa, Andrew, i drafod sut y gall bob gyrfa amrywio o ran ei daith, ond rhaid cofio, byddwch chi bob tro yn cyrraedd lle’r rydych chi am ei gyrraedd. Y canlyniad? Stori gyrfa ysbrydoledig sy’n profi nad oes rhai i chi weithio popeth allan i barhau i symud ymlaen.
Read more
Samantha Crowley – Stori Gyrfa
/in Straeon Gyrfa“Nid yw llwyddiant yn derfynol; nid yw methiant yn angheuol: Y dewrder i barhau sy’n cyfrif.”
Eisteddon ni i lawr gyda’r Cydlynydd Prosiect Sam i drafod pwysigrwydd dilyn gyrfa bwrpasol a chanfod ystyr yn y gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd.
Y canlyniad? Stori gyrfa galonogol sy’n ein hatgoffa bod heriau yn bodoli i’w goresgyn a’ch bod chi’n tyfu trwy’r hyn rydych chi’n mynd drwyddo.
Read more