Mae teuluoedd yn hyblyg ac addasadwy, yn union fel ein cymorth ni!

Mae ein intern newydd, Justas, yn gwybod pob dim am gymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ond a oeddech chi’n gwybod bod ei frodyr wedi derbyn cyngor gan ein tîm, ac wedi elwa o’n cymorth?

Roedd brawd hŷn Justas, Karolis, yn gweithio fel Technegydd TG Dan Hyfforddiant i Goleg Gŵyr Abertawe pan aeth i gwrdd â thîm Dyfodol, sy’n rhedeg Biwro Chyflogaeth a Menter y Coleg, am y tro cyntaf. Gyda diddordeb brwd mewn symud ymlaen i swydd Technegydd TG, ond yn ansicr ynghylch y broses ymgeisio a sut i ymgymryd â chyfweliadau, aeth Karolis i weld Hyfforddwr Gyrfa i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i alluoedd. Ar ôl derbyn hyfforddiant a mentora un-i-un, magodd Karolis hyder a dysgodd sgiliau newydd,  gwerthfawr. Cyflwynodd gais am gyfle dilyniant mewnol a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer y rôl. Ar ôl gwaith paratoi a sawl ffug gyfweliad gyda thîm Dyfodol, fe wnaeth e’n dda iawn a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i rôl Technegydd TG!

“Mae’r gwaith rydych chi wedi ei wneud gyda Karolis wedi talu ar ei ganfed. Roedd y cyfweliad yn wych, ac roedden ni i gyd yn gytûn ei fod yn berson gwahanol i’r un a fynychodd y cyfweliad cyntaf. Roedd e’n addfwyn, yn glir, yn broffesiynol iawn ac fe atebodd bob cwestiwn yn gryno, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol ac enghreifftiau, lle bo’n briodol. Fe wnaeth e’n dda iawn, ac fe lwyddodd i sicrhau dyrchafiad o Dechnegydd TG dan hyfforddiant i Dechnegydd TG. Mae’r tîm cyfan yn hapus gyda’r canlyniad, Diolch am eich help gyda’r broses, ac am wneud gwahaniaeth i fywyd Karolis a’r Tîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol.” – Richard Thorne, cyn Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifiadurol

Roedd brawd iau Karolis, Laimis, yn ymweld â Hyb Dyfodol yn rheolaidd yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe. Mae e’n gymeriad cymdeithasol a chlên ac fe roedd yn mynd i’r Hyb i dderbyn cyngor gan hyfforddwyr gyrfa ac i sgwrsio am gynigion. Ar ôl ei gyfnod fel Llywydd, ac yn dilyn cymorth a chyngor gan dîm Dyfodol, penderfynodd Laimis ail-gofrestru fel myfyriwr i astudio cwrs mewn Busnes. Gwerthfawrogodd Laimis yr holl gymorth, yn enwedig wrth archwilio ei opsiynau, ac o ganlyniad teimlodd ei fod yn medru gwneud penderfyniadau gwybodus. Ar ôl profiad cadarnhaol, ac wrth brofi buddion ar ôl derbyn ein cymorth, cyfeiriodd Laimis ei frawd iau, Justas, at dîm Dyfodol, i gael help i archwilio ei opsiynau a chynllunio ei daith gyrfa ei hun.

Fe aeth Justas, y plentyn ieuengaf, at dîm Dyfodol i dderbyn cymorth i sicrhau swydd ran-amser i redeg ochr yn ochr â’i gwrs Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. I gychwyn, roedd ganddo uchelgeisiau mawr o weithio yn y diwydiant eiddo tirol, felly roedd yn awyddus i ddechrau ei yrfa a’i daith gyrfa trwy ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, i’w baratoi ar gyfer byd gwaith. Derbyniodd gymorth gan dîm Dyfodol i chwilio am swydd addas ac i wella a theilwra ei CV i rolau perthnasol. Cyflawnodd Justas gynnydd yn gyflym a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer rôl manwerthu ran-amser. Gwnaeth e’n dda iawn yn y cyfweliad a llwyddodd i sicrhau’r rôl. Ond, ni ddaeth y cymorth i ben ar ôl hyn! Roedd Justas yn awyddus i sicrhau swydd yn y diwydiant eiddo tiriog, ac roedd y tîm yn hapus i’w helpu i archwilio ei gamau nesaf, gan ei roi ar y llwybr gorau posib i wireddu ei freuddwydion. Penderfynodd Justas ei fod am ennill profiad mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle gallai wella ei sgiliau gweinyddu a threfnu, felly fe aeth ar drywydd cyfle newydd. Awgrymodd Sarah, Ymgynghorydd Recriwtio, iddo ddilyn trywydd interniaeth Haf a gynigiwyd gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, i gael cyfle i gefnogi gweithgarwch marchnata a gweinyddu ystod eang o brosiectau. Bachodd Justas ar y cyfle a chwblhaodd gais rhagorol am y rôl. Cafodd ei wahodd i gyfweliad, ac ar ôl ymgymryd â ffug gyfweliadau gyda Sarah, gwnaeth Justas gryn argraff ar y panel gyda’i agwedd gadarnhaol a’i barodrwydd i ddysgu, ac fe sicrhaodd y rôl.

Dechreuodd Justas ei swydd ym mis Gorffennaf ac mae ef wedi bod yn gaffaeliad gwych i’r tîm; yn ystod ei amser gyda’r tîm derbyn, mae Justas eisoes wedi ennill llawer iawn o sgiliau trosglwyddadwy ac wedi darganfod angerdd am gwblhau tasgau trefnu a gweinyddu. Mae e’n ennill profiad gwaith gwerthfawr bob dydd ac yn camu’n nes ac yn nes at gyflawni ei nodau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o gael Justas yn rhan o’r tîm a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth parhaus iddo i sicrhau ei fod yn gwireddu ei freuddwydion.

“Roedd yr hyfforddwyr a weithiais â nhw yn gymwynasgar ac yn angerddol am eu gwaith, ac fe wnaethon nhw’n siŵr fy mod yn sicrhau fy swydd ddelfrydol. Mae GSGD wedi fy helpu i sicrhau’r swydd ro’n i ei heisiau, ac rwy’n hynod o ddiolchgar.” – Justas

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ei gynnig, cysylltwch â’r tîm 01792 284450, info@betterjobsbetterfutures.wales.