cv

Creu CV sy’n eich gwneud chi’n unigryw yng nghanol y dorf

Rydyn ni’n gwybod beth sydd ar eich meddwl … gyda chymaint o ymgeiswyr a chymaint o CV’s, sut mae bod yn unigryw yng nghanol y dorf a sicrhau fy mod yn cael cyfweliad am swydd fy mreuddwydion?

Bod yn gryno

Rhaid hawlio sylw’r rheolwr penodi yn nhraean cyntaf eich tudalen gyntaf i gael yr effaith fwyaf. Dechreuwch gyda’ch manylion cyswllt a’ch proffil personol ac wedyn dilyn gydag adran sgiliau a gorffen gyda hanes perthnasol am eich gwaith.

Bod yn benodol

I fod yn unigryw yng nghanol y dorf, addaswch eich proffil personol i weddu i fanylion y swydd. Wrth ysgrifennu am hanes eich gwaith, defnyddiwch ffeithiau a ffigurau i dynnu sylw at beth rydych chi wedi’i gyflawni. Bydd y rhain yn gwbl unigryw i chi!

Bod yn atyniadol

I sicrhau bod eich CV yn haws ei darllen: defnyddiwch yr un ffont a steil drwyddi i gyd, gan sicrhau bod mwyafrif y testun wedi’i osod ar y chwith ac osgoi unrhyw beth sy’n tarfu ar y darllen drwy leihau nifer y geiriau teip trwm, italig ac wedi’u tanlinellu.

Pan rydych yn hapus gyda’ch CV, cofiwch ei chadw fel PDF. Mae hyn yn cadw’r fformatio pan mae’n cael ei hanfon ar e-bost neu ei huwchlwytho ac mae’n atal unrhyw un rhag ei haddasu’n ddamweiniol neu ddileu rhannau ohoni.

Os hoffech gael cefnogaeth gyda chreu CV benodol i fod yn unigryw yng nghanol y dorf, ffoniwch ni ar 01792 284450.