Ffion Watts

 

“Byddwch yn ddewr, cymerwch risgiau a chofleidiwch yr annisgwyl”

 

A wnest ti ddilyn addysg bellach neu uwch?

Ar ôl gadael yr ysgol fe symudais ymlaen i astudio cymhwyster Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. Fe wnes i fwynhau’r cwrs, ac ar ôl ei gwblhau fe benderfynais astudio prentisiaeth gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle ces i gyfle i barhau gyda fy addysg wrth ennill profiad o’r byd go iawn. Roedd y cydbwysedd rhwng dysgu a gweithio yn ysbrydoledig, ac wrth ennill profiadau ystyrlon mewn sawl maes gwahanol fe wnaeth fy natblygiad proffesiynol wella; ro’n i’n ymgymryd â gwaith marchnata, cynllunio a rheoli digwyddiadau ac fe wnes i hyd yn oed trefnu a pherfformio sioeau byw gyda thylluanod!

 

Pa ffurf gymerodd dy yrfa ar ôl addysg?

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth, symudais ymlaen i rôl Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid gyda chwmni teithio enwog. Ro’n i’n gyfrifol am helpu cwsmeriaid i drefnu gwyliau. Yn fuan ar ôl cychwyn y rôl, ces ddyrchafiad i’r ‘Tîm Ôl-wyliau’, ac roedd gofyn i fi ddelio ag ymholiadau a chwynion cwsmeriaid. Ro’n i’n hoff iawn o’r swydd hon, ac ar ôl perfformio’n dda iawn ces gynnig swydd newydd yn y ‘Tîm Argyfwng’, lle ces i gyfle i weithio’n agos â’r Cyfarwyddwr i ddelio â materion a chwynion difrifol. Roedd y rôl hon yn un heriol, ond llwyddais i ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau mewn gwasanaeth cwsmeriaid; ro’n i’n delio â chwynion difrifol iawn ac roedd angen i mi fod yn hollol wydn. Fe wnes i fanteisio i’r eithaf ar fy menter a fy ngallu i ddatrys problemau. Ond, dechreuodd natur y swydd effeithio arna’ i, ac ro’n i’n cael trafferth delio â chwynion difrifol a cheisio mynd i’r afael â phrofiadau negyddol. Fe wnes i adael y cwmni i fynd ar drywydd cyfleoedd mwy positif, felly fe wnes i ganolbwyntio ar sicrhau swydd weinyddu mewn amgylchedd swyddfa.

 

Ym mha ffordd mae dy daith gyrfa wedi datblygu?

Llwyddais i sicrhau swydd fanwerthu mewn siop werthu bwyd anifeiliaid anwes. Roedd y rôl hon yn brysur ac roedd y tîm yn fywiog iawn. Fe weithiais yn y swydd hon am sawl blwyddyn cyn symud ymlaen i chwilio am swyddi gyda gwell cyfleoedd hyfforddi a dilyniant. Fe arweiniodd hyn at fy rôl bresennol fel Derbynnydd/Gweinyddwr gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol! Dw i wedi bod yn gweithio yn y rôl hon ers dwy flynedd ac rydw i wrth fy modd; mae’r amgylchedd gwaith positif a diwylliant y gweithle yn fy ysbrydoli’n barhaus. Rhan orau’r swydd yw croesawu a rhyngweithio â phob unigolyn sy’n dod atom ni i dderbyn cymorth. Mae hyn yn hynod o werth chweil, a fyddwn i ddim yn newid dim!

 

Wyt ti’n difaru unrhyw benderfyniadau gyrfa?

Ar ôl fy swydd gyntaf, brysiais y broses o ddod o hyd i gyfle newydd, ac rwy’n difaru peidio â threulio digon o amser yn ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfa a sicrhau fy mod yn dod o hyd i’r rôl gywir yn yr amgylchedd cywir. Fe wnes i symud o rôl i rôl, ac nad oedd hyn yn gweddu i’m hanghenion. Ro’n i’n teimlo fy mod yn gwastraffu amser ac yn rhoi eraill yn gyntaf. Gan fy mod wedi gwneud hyn, ni wnes i sicrhau swydd ro’n i eisiau ei sicrhau, lle gallwn dyfu fel unigolyn a chyflawni twf.

 

A newidiodd trywydd dy yrfa ar ôl cael plant?

Ar ôl rhoi genedigaeth i fy merch, Demi, fe newidiodd fy agwedd tuag at fy ngyrfa yn llwyr! Mae fy natblygiad personol nawr yn bwysig iawn i fi ac rydw i’n awyddus iawn i ddatblygu fy arbenigedd. Rwy’n fwy hyderus nawr ac yn sylweddoli fy mod yn gweithio mewn amgylchedd perffaith ar gyfer gwireddu fy mhotensial – felly mae’n rhaid i mi ganiatáu fy hun i wneud hynny! Mae fy nghymhelliant a fy angerdd wedi gwella; dw i am wneud yn siŵr fy mod yn sicrhau bywyd positif, cadarn a hapus i fi a fy nheulu. Fy mhlentyn sy’n fy ysbrydoli i geisio gweithredu fel yr esiampl orau bosib.

 

A oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?

Hoffwn pe bawn wedi gwybod a deall pwysigrwydd bod yn driw i chi’ch hun. Peidiwch â phoeni am yr hyn y mae eraill yn ei feddwl a byddwch yn onest – mae aros yn driw i chi’ch hun a dilyn eich nodau yn rhywbeth pwerus iawn. Byddwch yn ddewr, cymerwch risgiau a chofleidiwch yr annisgwyl!

 

Awgrym pwysicaf wrth ymgeisio am swyddi?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn aros yn driw i chi’ch hun trwy gydol y broses ymgeisio. Mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr addas o ran sgiliau ac ati, ond maen nhw hefyd am gyflogi pobl sydd â’r bersonoliaeth a’r agwedd gywir ynghyd ag angerdd am y swydd. Byddwch yn broffesiynol, yn bositif ac yn bersonol – gwnewch yn siŵr i chi arddangos eich cynnig unigryw ond dangoswch hefyd eich bod yn ymgeisydd addas ar gyfer y sefydliad. Gall bersonoliaeth fod yn wahaniaeth hollbwysig wrth ymgeisio am swyddi.