Cleientiaid Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn mynd o nerth i nerth yn Bevan Buckland

Ers lansio Gwell Swyddi. Gwell Dyfodol yn 2017, mae ein perthynas â’r Cyfrifwyr Siartredig, Bevan Buckland, wedi parhau i gryfhau. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n prentisiaid yn barhaus, ac maent yn cyflwyno sesiynau yn rheolaidd i rannu eu cyngor arbenigol a’u gwybodaeth am y diwydiant. Dros y 5 mlynedd diwethaf maent hefyd wedi mynychu ein Ffeiriau Recriwtio blynyddol a chynnig siaradwyr gwadd ar gyfer digwyddiadau Academi Dyfodol.

Saliem a Daniel yn 2021

Fe wnaeth Daniel a Saliem – dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe – sicrhau rolau ar Academi Hyfforddiant clodfawr Bevan Buckland yn 2021, ac mae’r ddau yn parhau i ragori ar eu gyrfaoedd. Yn fuan ar ôl hyn, cyflawnodd Saliem y ‘cylch llawn’, fel petai, wrth iddi gynrychioli Bevan Buckland yn Ffair Recriwtio Dyfodol yn 2022. Yn y Ffair Recriwtio fe wnaeth Saliem gwrdd â Lauren ac Atlanta am y tro cyntaf, myfyrwyr a fyddai’n dilyn yn ei holion traed hi trwy ymuno ag Academi Hyfforddiant  Bevan Buckland yn 2022.

Roedd Lauren ac Atlanta yn astudio BA mewn Rheoli Busnes (Cyfrifo a Chyllid) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac roedd y ddau yn awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cyllid, felly cyrchodd y ddau gymorth gan dîm Dyfodol. Fe wnaeth Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig eu helpu i ddod o hyd i rolau cyfrifwyr dan hyfforddiant a rhoi gwybod iddynt am weithdy cyflogwr gan Vanessa Thomas-Parry, Prif Swyddog Gweithredu Bevan Buckland. Gan ystyried bod Bevan Buckland yn un o gwmnïau cyfrifeg mwyaf y De a Gorllewin Cymru, neidiodd y ddau at y cyfle i fynychu’r gweithdy. Cafodd y merched eu hysbrydoli gan ddiwylliant ac amgylchedd y sefydliad, ynghyd â’r ystod eang o gyfleoedd dilyniant a datblygiad.

Gyda chymorth y tîm, cyflwynodd Lauren ac Atlanta geisiadau ardderchog ar gyfer Academi Hyfforddiant Bevan Buckland ac roeddent wrth eu bodd pan gynigiwyd rolau amser llawn iddynt. Yn ddiweddar cawson ni sgwrs â Lauren ac Atlanta i weld sut hwyl maen nhw’n ei gael.

Conor, Lauren, Atlanta a Courtney

“Fe wnaeth Dyfodol sicrhau proses didrafferth o ran chwilio am swyddi. Ces gynnig cymorth ganddynt wrth astudio’r cwrs gradd, ac fe fynychais Ffeiri Recriwtio, sgyrsiau ar yrfaoedd a derbyniais gyngor ar gwmnïau cyfrifeg lleol. Fe wnaeth y cymorth pellach ar sut i greu CV a’r gweithdai ar gyfweliadau wella fy ngwybodaeth am ymgeisio am swyddi a gwella fy hyder wrth wneud ceisiadau amdanynt. Dw i’n mwynhau fy amser yn Bevan Buckland; mae’r cwmni yn gefnogol iawn o bobl sy’n ymgymryd â chyfleoedd astudio pellach wrth ennill gwybodaeth ymarferol, a bydda’ i’n dechrau astudio cymhwyster ACA ym mis Mawrth.” – Atlanta

“Ces i brofiad da iawn wrth weithio gyda thîm Dyfodol ac fe wnaeth y sesiynau cyflogadwyedd fagu fy hyder wrth wneu ceisiadau am swyddi. Dw i’n mwynhau fy amser yn Bevan Buckland ac rydw i wedi setlo i mewn yn dda. Braf yw gweithio mewn sector rydw i wedi bod yn ei astudio ers pum mlynedd, ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i dderbyn gan Bevan Buckland yn ystod y cyfnod pontio wedi bod yn wych. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at fy astudiaethau fel y galla i gymhwyso’n llawn. Dw i wedi cymryd y camau cyntaf i ddechrau astudio gyda Bevan Buckland ac rydw i wedi cofrestru ar gwrs ACA.” – Lauren

Yn ogystal â Daniel, Saliem, Lauren ac Atlanta, mae Courtney a Conor wedi cyrchu cymorth Hyb Cyflogaeth Ffordd y Brenin gyda’r bwriad o sicrhau gyrfaoedd ym maes cyfrifeg.

Penderfynodd Courtney ei bod hi am ddilyn rôl hyfforddi yn hytrach na pharhau ag addysg ac fe dderbyniodd gymorth gan y tîm i ddod o hyd i gyfleoedd a oedd yn berthnasol i’w chymwysterau a’i nodau gyrfa. Derbyniodd help i gyflwyno ceisiadau am rolau cyfrifeg ac roedd hi’n hapus iawn o sicrhau rôl gyda Bevan Buckland.

“Ces i brofiad positif iawn wrth weithio â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Dw i’n mwynhau fy amser gyda Bevan Buckland; mae pawb wedi fy nghefnogi ac maen nhw mor groesawgar. Yn ddiweddar, fe wnes i gwblhau cymhwyster NVQ mewn Gweinyddu Busnes, ac rydw i nawr yn astudio cwrs Uwch Technegydd Cyflogres i wella fy ngwybodaeth am gyflogresi. Dw i’n ddiolchgar iawn i GSGD am yr holl help maen nhw wedi’i roi i fi.” – Courtney

Pan gysylltodd Conor â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol roedd yn gweithio fel Uwch Weinyddwr Archwilio. Ond, roedd e am gymryd y cam nesaf ar ei daith gyrfa trwy geisio sicrhau rôl gyllid a chyfleoedd hyfforddiant a dilyniant. Felly, gweithiodd Conor yn agos â’i Hyfforddwr Gyrfa i chwilio am gyfleoedd yn y sector lle gallai ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn ei rôl bresennol. Ar ôl diweddaru ei CV a chyflwyno ceisiadau, cafodd Conor gyfweliad gyda Bevan Buckland ac fe wnaeth ei Hyfforddwr Gyrfa ei helpu drwy’r broses. Cafodd gyfweliad da iawn a chafodd gynnig rôl dan hyfforddiant.

“Mae gweithio gyda GSGD wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Cefais fy nghyflwyno i Hyfforddwr Gyrfa yn gyflym er mwyn rhoi trefn ar y broses o chwilio am swydd a derbyniais gyngor ar sut i greu CV ac ateb cwestiynau cyfweliadau. Rhoddodd hyn yr hyder yr oedd ei angen arnaf i ddod o hyd i rôl addas. Ers dechrau’r rôl ym mis Hydref 2022, dw i wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol, diolch i rinweddau meithringar uwch staff Bevan Buckland. Dw i hefyd wedi medru symud ymlaen gyda fy astudiaethau yn ystod y cyfnod hwn. Dyma gyfle na fyddwn i wedi ystyried yn bosib heb gymorth GSGD. Dw i’n sicr yn argymell unrhyw un sy’n chwilio am gymorth i ddod o hyd i swydd addas i gysylltu â’r tîm i weld beth allan nhw ei wneud i chi.” – Conor

Rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth wych sydd wedi datblygu rhyngom ni a Bevan Buckland ac rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Bevan Buckland dros y pum mlynedd diwethaf i gefnogi’r busnes i recriwtio a chadw’r dalent orau. Rwy’n falch iawn o weld cymaint o’n dysgwyr yn symud ymlaen i rolau gwych ac rwy’n hyderus y bydd y berthynas yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth i ni gefnogi tîm Bevan Buckland i ddatblygu eu gweithlu” – Cath Jenkins, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Coleg Gŵyr Abertawe

“Mae ein partneriaeth a’n hymgysylltiad hirsefydlog â GSGD ac Academi Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe yn hwyluso’r gwaith o sicrhau y gallwn gynnig rhyngweithiadau a mewnwelediadau realistig a pherthnasol i’n gweithle, ein sector a’r sgiliau cyflogadwyedd rydym am i’n gweithlu eu datblygu.

Trwy weithio’n agos â GSGD gallwn gael mynediad at ddarpar weithwyr sy’n derbyn cymorth gan ymgynghorwyr sydd â mewnwelediad penodol i’r diwydiant. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan GSGD a Choleg Gŵyr Abertawe megis ffeiriau recriwtio a gyrfaoedd, ac rydyn wedi cynnig sesiynau cyflogadwyedd i fyfyrwyr, gan gynnig cyngor gyrfa penodol iddynt mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. 

Fel cyflogwr lleol, rydym am roi cipolwg go iawn ac ymarferol ar y cyfleoedd gyrfa y gallwn eu cynnig, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddarpar weithwyr proffesiynol, er mwyn eu galluogi i wireddu eu potensial llawn.”  – Vanessa Thomas-Parry, Prif Swyddog Gweithredu – Bevan Buckland LLP.