Amelia Patterson

 

“Byddwch yn hyderus yn yr hyn ydych chi ac yn falch o’r hyn yr ydych yn tyfu i fod.”

 

Wnaethoch chi fwynhau eich amser mewn adddysg?

Fe wnes i fwynhau yr awyrgylch ddysgu ac fe ymddiddorais yn arbennig TGCH, ond ar ddiwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i’n ansicr o’r camau nesaf i’w ddilyn, ac fe wnes i benderfyniad cyflym o astudio Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Gwyr, Abertawe. Wedi cwblhau’r flwyddyn gyntaf, penderfynias nad oedd y cwrs i fi gan and oedd dilyn gyrfa yn y maes hwn yn gweddu i mi, felly fy gofrestrais ar gwrs TGCH a cheisio darganfod dy llwybr. Cefais heriau yn ymgartrefu i’r cwrs, ac roeddwn i’n dechrau amau fy ngallu academaidd gan bedronni a oedd gyrfa mewn addysg uwch yn gam cywir personol, ond roeddwn i’n benderfynnol i beidio rhoi’r ffidil yn y tô. Yn hytrach na rhoi’r gorau i’r cwrs, penderfynais gwblhau fy ail flwyddyn a throsglwyddo i gwrs cyflogadwyedd er mwyn manteisio ar y cyfle i fachu swydd ar ddiwedd fy nghyfnod astudio. Gweithiais mewn dau rôI ran amser wrth ddilyn y cwrs, y cyntaf mewn Lletygarwch, ac yna mewn Man-werthu. Cynorthwyodd y profiadau hyn fy mod yn barod ar gyfer y gweithle a gwaith llawn amser ym myd gwaith. Wrth i fy astudiaethau ddirwyn i ben, cysylltais gyda chriw Dyfodol am gymorth yn archwilio posibiliadau ar gyfer llwybrau gyrfaol a sicrhau gwaith llawn amser.

 

Ar ôl eich addysg, i ba gyfeiriad aeth eich gyrfa?

Annogodd y criw Dyfodol i mi ymgeisio ar gyfer swydd breswyl yn Gwell Swyddi: Gwell Dyfodol; Roeddwn i’n amheus, ond roedd gen i ffydd yn y cyngor a dderbyniais ganddynt, ac yn y broses recriwtio. Gweithiais yn agos gyda fy Hyfforddwr Gyrfa i fagu hyder a pharatoi ar gyfer cyfweliad, gweithiais yn galed i fireinio fy sgiliau’n effeithiol ac egluro addasrwydd fy mhrofiadau. Mwynheuais y cyfweliad hyd yn oed, ac fe lwyddais i roi’r ymarferol ar waith, ac roeddwn i wrth fy modd pan ges i gynnig y rôl. Roeddwn i’n ymfalchio yn ffaith i mi gymryd y cam nesaf a gwrando ar gyngor fy hyfforddwr; rydw i esioes wedi dysgu gymaint am awyrgylch y gweithle, gwelais wahanol bobl yn defnyddio systemau a phrosesau’n effeithiol, pawb yn tynnu at ei gilydd er mwyn cyfrannu ar fusnes llwyddiannus. Mae fy safbwynt ar fy ngyrfa personol wedi tyfu’n fwy positif ac rwy’n teimlo’n fwy optimistaidd am y dyfodol a’r hyn y gallaf ei gyflwani.

Pan ddaeth fy swydd breswyl i ben, bum yn ffodus iawn ac fe fachais ar y cyfle wrth dderbyn swydd llawn amser yn nhim y dderbynfa. Mae fy hunan hyder yn tyfu’n ddyddiol wrth i mi weithio mewn awyrgylch gefnogol, gyda chriw arbennig o bobl. Erbyn hyn, mae gen i’r hunan-grêd i gamu ymlaen mewn modd broffesiynol. Rydw i wedi ymgartrefu ac yn hapus, ac mae hyn wir yn teimlo fel dechrau taith fy ngyrfa.

 

Ydych chi’n difaru unrhyw ddewisiau gyrfaol?

Wnes i ddim mwynhau fy rolau mewn manwerthu a lletygarwch, serch hynny, dydw i ddim yn difaru gan fy mod wedi dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr; gwelais y rolau’n heriol, ond fe rhoddodd y profiadau’r cyfle i ddangos fy agwedd at waith, dycnwch a phenderfyniad. Arweiniodd pob penderfyniad personol yn agosach at ble rydw i nawr, ac fe allaf yn hyderus edrych yn ôl ar y pethau positif a ddysgais o bob profiad.

 

Wrth edrych yn ôl, oes yna un peth y byddech chi eisiau gwybod pan oeddech chi’n iau?

Peidiwch â phoeni gymaint! Rydw i wastad wedi becso am rywbeth boed yn waith ysgol, amgychiadau personol neu wneud penderfyniadau, rydw i wastad wedi llwyddo i ofni rywbeth. Mae prifio ac amgylchynnu fy hun gyda phobl wnaeth i mi sylweddoli bod llawer mwy i fywyd na phoeni am y dyfodol wedi bod yn fateisiol. Petawn i’n gallu dweud wrthyf fy hun yn ifanc, dywedwn i ddewis fy llwybr personol a bod yn ddigon dewr i ddilyn y llwybr hwnnw.

 

Beth yw eich cyngor pwysicaf oll?

Chi yw chi a dyna yw eich arch-bwer! Dathlwch eich cyflawniadau, byddwch yn falch o’ch llwyddiannau, byddwch yn hyderus yn eich breudwydion a gweithiwch yn galed er mwyn eu gwneud yn realiti.