Beth mae’ch Olion Rhithiol yn dweud amdanoch chi?

P’un ai’ch bod yn aficionado sy’n ymroddedig i gyfryngau cymdeithasol, neu rydych chi ond yn defnyddio rhai llwyfannau, gall y ffordd rydych chi’n portreadu’ch hun ar-lein gael mwy o effaith na fyddwch chi’n meddwl! Mae pob fideo rydych yn ei uwchlwytho, pob llun rydych yn ei ‘hoffi’ neu neges mae’ch post yn arwain at lunio darlun o bwy ydych chi, sef darlun y gall cyflogwyr gael mynediad hawdd iddo pan fyddant yn ceisio deall mwy am ddarpar weithiwr.  Ond peidiwch â phoeni, mae bod yn graff ar gyfryngau cymdeithasol yn rhwydd os ydych chi’n gwybod pa faglau i’w hosgoi, ac rydym wedi casglu awgrymiadau euraidd i sicrhau bod eich olion rhithiol chi yn amlwg am y rhesymau iawn.

Ystyriwch eich preifatrwydd

Meddyliwch am bwy sydd wirioneddol eisiau, neu angen, gweld unrhyw gynnwys a uwchlwythir gennych. Efallai y byddwch am wneud yr hyn rydych yn ei bostio’n weladwy i’ch ‘ffrindiau’ yn unig fel y gallwch fod yn sicr am bwy sy’n gweld eich diweddariadau. Mae rhan safleoedd yn cynnig y posibilrwydd o bersonoli’ch gosodiadau preifatrwydd, felly sicrhewch eich bod yn gwirio’r gosodiadau hyn, gan sicrhau eu bod yn addas i chi. Fodd bynnag, peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi guddio popeth. Mae gan bresenoldeb gweithredol ar-lein lawer o fanteision ac mae’n rhoi’r cyfle i chi bwysleisio’ch sgiliau, eich doniau a’ch diddordebau ymhellach. Yr hyn sy’n bwysig yw dewis y cynnwys iawn ar gyfer y gynulleidfa iawn!

Ystyriwch eich cysylltiadau

Ystyriwch â phwy rydych yn cysylltu. “Hoffwch” neu byddwch yn rhan o byst y byddech chi’n gyfforddus â phobl eraill yn eu priodoli i chi, a byddwch yn ofalus pwy rydych chi’n eu dilyn. Gall fod yn wych fod yn rhan o fyd rhannu ar-lein ond mae hefyd yn bwysig i feddwl am ganlyniadau posib eich cysylltiadau. Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o rannu’ch gwaith a’ch diddordebau ond meddyliwch yn ofalus sut y mae pyst pobl eraill yn adlewyrchu arnoch chi a byddwch yn berthnasol ac yn briodol.

Adnewyddwch eich presenoldeb

Cadwch eich proffiliau’n ddiweddar ac yn broffesiynol. Cofiwch y gall cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gael eu hystyried yn bortread cywir o’r unigolyn rydych chi heddiw, yn ogystal â’r unigolyn a fuoch chi yn y gorffennol, felly mae’n bwysig i gadw pethau’n ffres os ydych chi am wneud argraff dda ar gyflogwyr posib gyda’ch sgiliau a’ch llwyddiannau diweddar. Bydd cyfrif sy’n hen yn gwneud y gwrthwyneb ac, yn waeth byth, gellir cael ei ystyried gan ddarpar gyflogwyr fel arwydd o ddiogi neu ddiffyg sylw i fanylion. Felly os nad ydych chi am ymrwymo at ddiweddaru’ch cyfrif yn gyson, ystyriwch yn ofalus os ydych chi am ei gadw’n weithredol – gallai ei gau fod yn well opsiwn.

Cofiwch eich cyfrifoldeb

Pwyllwch cyn postio! Un o fanteision mwyaf cyfryngau cymdeithasol yw pa mor gyflym gallwch anfon neges allan i’r byd ond cofiwch unwaith y byddwch yn clicio ar y botwm ‘anfon’, nid yw bob tro’n bosib adennill eich pyst. Gofynnwch i’ch hun bob tro os ydych chi’n hapus i’r post/llun gael eu gweld am byth gan gynulleidfa (ryngwladol) ehangach a allai eu dehongli mewn ffordd wahanol i’r hyn a fwriadwyd naill ai nawr neu yn y dyfodol. Ceisiwch ddod i mewn i’r arfer o feddwl dwywaith cyn postio a defnyddio’r her addasrwydd at y dyfodol – gallai’r hyn sy’n dderbyniol heddiw fod yn hollol annychmygadwy yfory, felly gosodwch safonau uchel i’ch hun a glynwch wrthynt.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffurf wych ar hunanhyrwyddo ac mae ganddynt fanteision gwych os ydych yn eu defnyddio’n gall. Ceisiwch gyngor bob tro os ydych chi’n ansicr ynghylch sut neu beth i’w postio a chofiwch, os nad ydych yn siŵr, gadewch e mas! Yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor ar gyflogadwyaeth. Cysylltwch â ni heddiw i weld sut gallwn eich helpu: 01792 284450.