Louise Dempster

 

“Byddwch yn unigryw, yn ddewr ond yn onest”

 

 

Cawsom sgwrs â’r Arweinydd Rhaglen y Dyfodol, Louise Dempster am werthfawrogi profiadau a manteisio ar gyfleoedd. Gan aros yn driw i’ch hun, mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw. Dyma hanes gyrfa arbennig lle sail ei llwyddiant yw gwaith caled ac ymrwymiad llwyr.

A wnaethoch chi ddilyn llwybr addysg uwch?

Fe wnes i’n dda yn fy arholiadau TGAU felly penderfynais fynd i astudio Seicoleg, Cymraeg a Saesneg fel pynciau Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd. Roeddwn wedi mwynhau fy amser yn yr ysgol, ac wedi gwneud yn dda ar y cyfan o ran fy astudiaethau academaidd. Collais rywfaint o ddiddordeb yn y coleg a chollais yr awch i lwyddo’n academaidd gan nad oeddwn wir wedi mwynhau fy amser yno. Fy uchelgais gwreiddiol oedd mynd i’r Brifysgol, felly ymgeisiais ar gyfer lle ym Mhrifysgol Abertawe, ond ar ôl cael cyfweliad, penderfynais yn erbyn astudio yno’n academaidd. Roeddwn o dan yr argraff taw dyma oedd fy unig opsiwn, a theimlais taw’r unig reswm ymgeisiais yn y lle cyntaf oedd achos dyna oedd y peth ‘cywir’ i’w wneud. Cefais fy annog gan fy rhieni i fynd i’r Brifysgol, ond y gwir yw, fodd bynnag, nid oeddwn yn teimlo’n angerddol dros ddilyn llwybr cwrs gradd. Felly dyma fi’n gwneud penderfyniad mawr i beidio â mynd. Roedd rhan ohonof eisiau profi bod modd llwyddo yn y byd heb fynychu Prifysgol, ac roeddwn am wireddu fy mhotensial mewn ffordd wahanol. Felly dyma oedd, mewn gwirionedd, ddechreuad fy ngyrfa!

Pa lwybr y dilynwch ar ôl gorffen gyda’ch addysg?

Yn sicr, teimlais fy mod wedi bod yn y man cywir ar yr amser cywir pan ddaeth fy nghyfle cyntaf. Er mwyn cefnogi penderfyniad ffrind i ymgeisio ar gyfer cyfle YTS, es i gyda hi i Goleg Abertawe. Aethom i Ddiwrnod Agored y Coleg gyda’n gilydd a thrwy hap a damwain ddechreuais sgwrsio â rhywun am ddilyn llwybr ‘prentisiaeth fodern’ mewn gweinyddu. Roedd y sgwrs yn sicr wedi creu argraff arnaf y diwrnod hynny, felly penderfynais wneud cais. Yn lwcus i mi, roedd agwedd eithaf agored gen i bryd hynny ac roeddwn yn awyddus i ddechrau ar antur newydd. Ar ôl derbyn y cynnig, teimlais yn gyffrous ac yn awyddus i greu argraff dda. Deunaw oed oeddwn pan ddechreuais weithio i’r adran arholiadau a phan gwblheais brentisiaeth gweinyddu lefel 3. Dyma oedd y tro cyntaf i mi brofi awyrgylch gweithle ac roeddwn yn ei dwlu arno. Arhosais yn fy swydd gyda’r Coleg am 11 mlynedd ar ôl hynny! Ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd yn y swydd, daeth y cyfle i weithio fel Swyddog Cyngor a Chyfarwyddyd dan hyfforddiant. Apeliodd y syniad o weithio mewn rôl gynorthwyol ataf felly ymgeisiais ar gyfer y swydd a’i derbyn. Ar ôl treulio amser byr yn y rôl, sylweddolais mai dyma’r math o waith oeddwn eisiau gwneud a dyma oedd y trywydd cywir i mi. Teimlais falchder dros y ffaith fy mod yn helpu pobl i wneud gwelliannau positif i’w bywydau, a theimlais yn hapus fy mod wedi darganfod pwrpas i’m bywyd i. Cefais fy nyrchafu i Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, lle roedd gofyn i mi helpu pobl ddi-waith i gael gwaith. Roedd hefyd rhaid i mi greu cysylltiadau gyda chyflogwyr er mwyn dod ar draws cyfleoedd a lleoliadau gyrfaol. Pan gollais y cytundeb gyda’r Coleg, ymgeisiais am swydd fel Ymgynghorydd Cyflogaeth gyda Remploy. Cefais ddyrchafiad chwim i weithio fel Rheolwr Cyfrif a chefais brofiad arbennig yn y cyfnod hynny. Sefydlais gysylltiadau hirdymor gwerthfawr â chyflogwyr, yn ogystal â datblygu fy sgiliau rheoli prosiectau a sgiliau arwain. Buais yn gwneud y swydd yma am dair blynedd cyn dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe ar ôl ymgeisio’n llwyddiannus fel Ymgynghorydd Gweithlu. Ar ôl blwyddyn o weithio yn y rôl, symudais ymlaen i weithio fel Arweinydd Rhaglen Dyfodol, gan oruchwylio’r ddarpariaeth cymorth cyflogadwyedd i fyfyrwyr ar draws Coleg Gŵyr Abertawe. Symudais ymlaen i weithio fel Rheolwr Rhanglen Gyflogodwyedd, yn goruwchwylio darpariad ehangach o gymorth sydd ar gael gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

A newidiodd trywydd eich gyrfa a’ch uchelgeisiau ar ôl cael plant?

Mabwysiadais fy mab, Jac, pan oeddwn yn 27 oed a mabwysiadais fy merch, Sophia, pan oeddwn yn 31. Roedd y broses o fabwysiadu yn brofiad arbennig a newidiodd fy mywyd i a bywyd fy nheulu am byth. Am y tro cyntaf erioed, nid gwaith oedd yn dod gyntaf. Fy nheulu a’m bywyd teuluol oedd fy mhrif flaenoriaeth, felly roedd yr holl broses yn un eithaf estron i mi a dweud y gwir. Gwaith oedd fy unig flaenoriaeth gynt, a daeth yr amser lle sylweddolais fod angen i bethau newid. Dwi byth wedi rhoi digon o glod i’m cryfder a’m hydwythedd fel person, ond ar ôl mynd trwy’r broses o fabwysiadu, sylweddolais fod y rhinweddau yma yn gryf ynof, er gwaethaf yr agweddau heriol y gwynebais ar hyd y ffordd. Effeithiodd y mabwysiadau ar fy ngyrfa ond mae’r broses wedi fy ngwneud yn berson cryfach, heb os. Dwi dal i fod yn uchelgeisiol yn y gweithle ac mae’r plant yn sicr yn gymhelliant i mi lwyddo ymhellach. Dwi’n benderfynol o’u gwneud yn falch ohonof. Mae cael plant hefyd wedi gwneud i mi werthfawrogi’r cydbwysedd rhwng gwaith a’m bywyd teuluol; mae Jac a Sophia wedi rhoi pwrpas i’r hyn yr ydw i’n ei wneud, ac mae’r ddau yn codi fy nghalon ar gyfnodau anodd. Dwi am iddynt ddysgu o’m camgymeriadau i, ac yn sicr byddaf yn trosglwyddo’r hyn dwi wedi ei ddysgu ar hyd y ffordd iddynt. Byddaf yn eu cefnogi ar ba drywydd y byddant yn dewis dilyn. Dwi am bwysleisio iddynt fod unrhywbeth yn bosib; weithiau, mae’r llwybrau mwyaf anodd yn gallu arwain at y mannau prydferthaf felly canolbwyntiwch ar yr hyn a garwch a bydd phopeth arall yn cwympo i’w le!

Oes un peth yr hoffech wedi gwybod amdano pan oeddech yn iau?

Hoffwn pe bawn i wedi gwybod am yr ystod eang o opsiynau gyrfa oedd gen i yn y byd gwaith. Gan fy mod wedi gwneud yn dda yn fy arholiadau TGAU, y llwybr naturiol i mi ddilyn, yn fy meddwl i, oedd astudio cwrs Safon Uwch ac yna cwrs mewn Prifysgol. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r amryw o opsiynau galwedigaethol oedd ar gael. Doeddwn i ddim chwaith yn deall nac yn gwerthfawrogi bod fy sgiliau a’m diddordebau yn gallu fy helpu i ddarganfod fy swydd ddelfrydol. Dylwn i fod wedi canolbwyntio’n llwyr ar fy mhynciau Safon Uwch ac wedi dechrau meddwl am fy nyfodol yn gynt, yn hytrach na chopïo fy nghyfoedion a gwneud unrhywbeth o fewn rheswm am fywyd ‘hawdd’. Yn lle bod yn hunanfodlon, hoffwn pe bawn wedi gwybod mai fi yn unig oedd yn gyfrifol am fy nyfodol fy hun – os oeddwn am lwyddo, fi oedd yn gwybod sut oedd gwneud hynny.

Unrhyw gyngor i rhywun sy’n ymgeisio am swydd?

Ymchwiliwch, ymchwiliwch, ymchwiliwch! Ymchwiliwch mewn i’r cwmni; dysgwch bopeth posib am bethau megis gwerthoedd y cwmni a’i ddatganiadau cenhadaeth. Siaradwch ag aelod o’r staff sy’n gweithio yno’n barod er mwyn cael rhyw fewnwelediad bach i’r cwmni. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried yn ddwys y rhesymau dros ymgeisio ar gyfer y swydd – ni fydd rhesymau diog yn ddigon da! Byddwch yn bendant ac yn ddidwyll. Gwerthwch eich hun a pheidiwch â bod ofn rhag herio eich hun. Bu bron imi beidio ag ymgeisio am swydd gan fod ymgeisydd mewnol, oedd yn fy marn i, yn ffefryn, wedi ymgeisio hefyd. Fi oedd yn llwyddiannus yn y pendraw, felly ni ddylwn wedi gorfod poeni am fater dibwys oedd yn fy atal rhag cyrraedd fy nod. Canolbwyntiwch ar eich hun a mentrwch ymlaen, does dim modd rhag-weld canlyniad unrhyw brofiad, felly cerwch amdani! Byddwch yn unigryw, yn ddewr ond yn onest.

Beth yw eich cyngor gorau?

Dwi’n aml yn gor-feddwl pethau, sydd wedi fy atal ar adegau rhag cyrraedd fy nod. Er dweud hyn, dwi wedi gwella gydag amser a nawr dwi’n medru gweld pwysigrwydd fy hunan-hyder a’m gallu. O safbwynt ymarferol, byddaf yn argymell i chi wirfoddoli ar gyfer unrhyw brofiad posib; ymunwch â phrosiectau a gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed. Lleisiwch eich barn mewn modd gall ac enynnwch barch eich cyfoedion. Os nad yw’r cyfle’n ymddangos fel un perthnasol neu amserol, cerwch amdani ta waeth gan nad oes modd rhag-weld y bobl y byddwch yn cyfarfod, yr heriau y byddwch yn profi yn ogystal â’r sgiliau a’r profiad y byddwch yn ennill. Gyda’r posibiliadau’n ddi-ben-draw, beth sydd i’w golli? Peidiwch a gorfeddwl am y peth, mentrwch ymlaen!