Andrew Walsh – Stori Gyrfa

 

“Mae gwaith caled yn arwain at lwc”

 

Eisteddon ni gyda’r Hyfforddwr Gyrfa, Andrew, i drafod sut y gall bob gyrfa amrywio o ran ei daith, ond rhaid cofio, byddwch chi bob tro yn cyrraedd lle’r rydych chi am ei gyrraedd. Y canlyniad? Stori gyrfa ysbrydoledig sy’n profi nad oes rhai i chi weithio popeth allan i barhau i symud ymlaen.

A wnaethoch chi astudio cwrs addysg bellach/uwch?

Tua diwedd fy amser yn yr ysgol uwchradd, doeddwn i ddim siŵr pa gamau i’w dilyn nesaf. Er hyn, penderfynais fynd i’r coleg gan mai dyna oedd fy ffrindiau yn ei wneud ar y pryd, a dyma oedd yr opsiwn mwyaf synhwyrol yn fy marn i. Ro’n i’n dwlu ar chwaraeon bryd hynny felly ro’n i’n gobeithio sicrhau gyrfa yn y sector honno. Penderfynais astudio cwrs gwyddorau chwaraeon yng ngholeg Castell-nedd port Talbot. Roedd hwn yn gyfnod pontio heriol iawn, o’r ysgol i’r coleg, ac roedd gen i lawer o gyfrifoldebau newydd yn fy ysgogi i reoli fy hun ac i reoli fy amser; ro’n i wedi dod i arfer â derbyn llawer o gymorth ac arweiniad yn yr ysgol felly ro’n i’n cael trafferth ymdopi â’r diffyg cyfeiriad ac anogaeth ar y cychwyn. Fe wnes i ddyfalbarhau a phasio’r cwrs, ond doeddwn i ddim yn barod am gyflogaeth amser llawn a byd gwaith. Ond, gan nad oed gennyf i lawer o opsiynau, a heb unrhyw gymorth neu gyngor, fe es i ati i barhau gyda fy addysg ac archwilio i gyrsiau prifysgol gwahanol.

Penderfynais astudio cwrs Hyfforddi Chwaraeon ym Mhrifysgol Morgannwg, lle ces i gyfle i symud oddi cartref am y tro cyntaf. Dyma gyfnod heriol iawn, ond fe ddatblygais annibyniaeth a sgiliau personol a phroffesiynol. Roedd symud oddi cartref yn agoriad llygad o ran gweld y byd mewn ffordd wahanol; magais hunanhyder a dysgu llawer am y farchnad lafur leol, yn ogystal â’r amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael. Chwaraeodd y cwrs hyfforddi rhan bwysig o ran lansio fy ngyrfa broffesiynol, ac yn ystod cyfnod o brofiad gwaith, ces i gyfle i weithio mewn ysgol leol yn hyfforddi plant fel rhan o’u gwersi Addysg Gorfforol.

Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ar ôl i chi gwblhau eich addysg?

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn y brifysgol, ro’n i’n ddigon ffodus i dderbyn swydd amser llawn yn adran Addysg Gorfforol yr ysgol lle cwblheais fy mhrofiad gwaith; ro’n i’n gyfrifol am weithio gyda’r adran i gyflwyno gwersi, sesiynau hyfforddi, ac fe ddysgais lawer am fy addysg yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y cyfnod hwn o fy mywyd yn gyfle i bontio o addysg i fyd gwaith, a ches gyfle i ddysgu rhagor am feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol, amgylchoedd ac anghenion gwahanol o fewn y gweithle, yn ogystal â phwysigrwydd teilwra cymorth i anghenion unigol.

Ar ôl 2 flynedd wych yn y rôl, penderfynais fy mod am wynebu her newydd felly symudais i ysgol wahanol i weithio gyda myfyrwyr ag anghenion ymddygiadol. Dyma rôl wahanol iawn i’r hyn roeddwn i wedi arfer ag ef, ond roedd y swydd yn ddiddorol iawn ac roedd gofyn i mi ddarparu cymorth a hwyluso datblygiad personol pobl ifanc. Ro’n i’n gyfrifol am reoli cwricwlwm amgen i grŵp o fyfyrwyr a darparu cymorth cynhwysfawr i fyfyrwyr er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt i lwyddo.

Ym mha ffordd mae eich taith gyrfa wedi datblygu?

Fe symudais o rôl i rôl am ddegawd mewn amrywiaeth o ysgolion, ond yn y pendraw fe benderfynais geisio cyflogaeth mewn sector gwahanol; ymgeisiais am swydd mewn cartref i blant, yn cefnogi pobl ifanc o gefndiroedd heriol. Fe wnaeth gweithio gyda’r unigolion hyn, o dan ofal y gwasanaethau cyhoeddus, ddarparu cymhelliant newydd i mi weithio â phobl ifanc mewn angen, gan ddarparu’r amgylchedd mwyaf cefnogol posibl iddyn nhw a rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw sicrhau bywydau hapus ac ystyrlon. Ar ôl 18 mis yn y swydd, fe ddes i ar draws rôl a oedd yn ymwneud â chanolbwyntio ar atal myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol uwchradd rhag dod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Roedd y swydd yn cynnwys trefnu lleoliadau gwaith, cysylltu â cholegau lleol a gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu hanghenion, gan wneud yn siŵr eu bod yn eu diwallu. Ro’n i’n dwlu ar y rôl hon ac yn teimlo ei bod yn dir canol perffaith o ran darparu hyfforddiant a gweithio gyda phobl ifanc o fewn amgylchedd addysg. Yn anffodus, daeth y cyllid ar gyfer y rôl hon i ben, felly roedd gofyn i mi chwilio am swydd newydd. Fe ddes i o hyd i swydd Hyfforddwr gyrfa gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd y swydd yn teimlo fel dilyniant naturiol i mi felly ro’n i wrth fy modd o dderbyn y rôl. Fe ddechreuais ym mis Mai 2022 ac rwy’n dwlu ar fy swydd hyd yma; dw i’n gweithio yn Hybiau Dyfodol ledled y campysau, sy’n golygu fy mod yn cael cyfle i gwrdd ag ystod eang o fyfyrwyr bob dydd ac yn eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Dw i’n helpu pobl i ddiwallu eu nodau a braint yw chwarae rhan fach yn nhaith gyrfa pob unigolyn.

Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu difaru?

Dw i ddim yn difaru unrhyw benderfyniadau rydw i wedi eu gwneud mewn perthynas â’m gyrfa, mae pob cam hyd yma wedi dysgu rhywbeth newydd i mi. Mae symud o rôl i rôl wedi gwneud i mi sylweddoli’r hyn rydw i’n angerddol amdano, yn ogystal â’r hyn sy’n fy ysgogi i fynd i’r gwaith a mwynhau fy swydd. Mae bod yn hyblyg o fewn fy rolau hefyd wedi fy helpu i nodi fy sgiliau a’m cryfderau ac felly wedi fy ysgogi i ddeall sut y gallaf ddefnyddio fy rhinweddau mewn perhynas â fy nghyfrifoldebau.

Oes un peth penodol yr hoffech fod wedi ei wybod pan oeddech yn iau?

Hoffwn pe bawn i wedi cael gwybod ei bod hi’n iawn i fod yn ‘wahanol’! Mae cryfderau a gwendidau pawb yn wahanol, a rhinweddau a gwahaniaethau unigryw sy’n gwneud i dimau a sefydliadau lwyddo! Dw i’n angerddol am ddathlu unigoliaeth a gwneud y mwyaf o gryfderau unigolion, ac rwy’n hapus iawn pan fydd amrywiaeth eang o bobl yn dod at ei gilydd i greu tîm anhygoel. Hoffwn pe bawn i wedi bod yn fwy hyderus pan oeddwn yn iau, gan sylweddoli’r rhinweddau positif roeddwn i’n cyfrannu i bob tîm roeddwn i’n rhan ohonyn nhw – ond mae hyn oll yn rhan o’r broses ddysgu! Gwerthfawrogwch eich hun; dewch o hyd i bethau sy’n eich gwneud yn hapus, a dathlwch eich unigolaeth a’ch cyflawniadau!

Canllawiau gorau ar gyfer ymgeisio am swyddi?

Mae gen i 3 gair allweddol: paratowch, ymarferwch ac ymchwiliwch! Mae hi mor syml â hynny.

Cyngor gorau?

Peidiwch â thanseilio pwysigrwydd y tîm. Byddwch yn broffesiynol a sicrhewch eich bod yn garedig i’ch cydweithwyr, a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu parchu. Trwy gydol fy ngyrfa dw i wedi helpu unigolion sydd yn difaru sut maen nhw wedi ymddwyn yn y gwaith ac unigolion sy’n difaru sut maen nhw wedi ymdrin â materion penodol yn y gwaith. Mae’n bwysig iawn bod yn gwrtais a phroffesiynol, ond yn bwysicaf oll, byddwch yn berson da; mae pobl dda yn annog eraill i fod yn dda, a dyna yw gwir ystyr llwyddiant!