Samantha Crowley – Stori Gyrfa

“Nid yw llwyddiant yn derfynol; nid yw methiant yn angheuol: Y dewrder i barhau sy’n cyfrif.”

 

Eisteddon ni i lawr gyda’r Cydlynydd Prosiect Sam i drafod pwysigrwydd dilyn gyrfa bwrpasol a chanfod ystyr yn y gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd.

Y canlyniad? Stori gyrfa galonogol sy’n ein hatgoffa bod heriau yn bodoli i’w goresgyn a’ch bod chi’n tyfu trwy’r hyn rydych chi’n mynd drwyddo.

Wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu addysg uwch?

Mwynheais i’r ysgol yn fawr a ches i brofiad cadarnhaol ar y cyfan, felly roeddwn i’n awyddus i barhau â’m haddysg. Penderfynais i fynd i Goleg Gorseinon i astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Bioleg, Seicoleg a Llenyddiaeth Saesneg. Doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa roeddwn i eisiau ei ddilyn, felly dewisais i amrywiaeth o bynciau oedd yn cadw fy opsiynau ar agor gan roi amser i mi benderfynu ar fy nghamau nesaf. Yn dilyn fy nghyfnod yn y coleg, roeddwn i’n dal yn ansicr beth i’w wneud nesaf. Penderfynais i fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg. Roedd y brifysgol yn anodd iawn i mi ac roeddwn i’n amau fy hun ar sawl pwynt ar hyd y ffordd, roeddwn i’n ansicr ynghylch ble roeddwn i’n mynd a beth roeddwn i wir eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Fodd bynnag, wnes i ddyfalbarhau a graddio yn 2012 gyda 2:1 ac roeddwn i wrth fy modd. Wnes i ddysgu llawer mewn dim o dro, ond oherwydd i mi ddod dros yr her roeddwn i wedi magu llawer o hyder oedd mawr ei angen arna i ac roeddwn i’n teimlo ychydig yn fwy optimistaidd am fy nyfodol.

Sut ddatblygodd eich gyrfa ar ôl addysg?

Yn ystod fy amser ym myd addysg roedd gen i swydd ran-amser bob amser oherwydd roeddwn i eisiau ennill fy arian fy hun a bod mor annibynnol â phosibl o oedran cynnar iawn – roedd gen i fywyd cymdeithasol prysur ac felly roedd angen arian! Gweithiais i mewn amrywiaeth o rolau gweinyddol gwahanol, a dysgodd hyn oll i mi ystyr gwaith caled a llawer iawn o wersi bywyd pwysig eraill fel dyfalbarhad, gwydnwch, ymrwymiad a rheoli amser. Ar ôl graddio o’r brifysgol, doedd gen i ddim syniad o hyd pa swydd neu broffesiwn roeddwn i eisiau ei ddilyn. Roeddwn i’n teimlo ar goll ac yn ansicr, a hefyd roeddwn i’n teimlo o dan bwysau mawr i gael popeth at ei gilydd; roedd nifer o’m ffrindiau i wedi graddio ac wedi mynd yn syth i yrfaoedd gwych fel meddygon, athrawon a chyfreithwyr, a theimlais i’n syth fy mod i’n methu ac ar ei hôl hi ar daith gyrfa nad oedd wedi dechrau hyd yn oed. Penderfynais i ganolbwyntio ar gyfleoedd cynlluniau graddedigion oherwydd roedden nhw’n edrych fel petaen nhw’n pontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth, ac yn darparu rhaglen hyfforddi strwythuredig gyda’r nod o helpu graddedigion i symud ymlaen i rolau arwain mewn sefydliad. Felly, penderfynais i fanteisio ar un o’r cynlluniau mwyaf cystadleuol yn y wlad, a gwnes i gais i fod yn Rheolwr Ardal i gadwyn archfarchnad fawr. Roedd y broses ymgeisio 5 cam yn cynnwys cais ysgrifenedig, asesiad grŵp, cyfweliad panel a phrofion cymhwysedd, a galla i ddweud yn onest mai hwn oedd y profiad recriwtio mwyaf heriol a thrylwyr i mi ei wynebu hyd yma. Gan fy mod i’n berson hynod gystadleuol a gwydn fy meddwl, fe wnes i daflu fy hun i mewn i’r broses ac roeddwn i’n benderfynol o wneud popeth i sicrhau llwyddiant i mi fy hun. Po bellaf yr es i drwy’r broses, y mwyaf awyddus a chystadleuol roeddwn i i gyrraedd fy nod; Ces i’m cyfareddu gan amrywiaeth y rôl, ac roeddwn i’n edrych am rywbeth i roi her i mi mewn ffyrdd cwbl newydd – roedd yn ymddangos fel y ffit perffaith. Rhan anoddaf y broses oedd cyfweliad un-i-un 90 munud gyda Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni. Hwn oedd fy nghyfweliad swydd go iawn cyntaf ac roeddwn i’n nerfus iawn, ond roeddwn i’n gwybod y gallwn i werthu fy hun a’i ddarbwyllo mai fi oedd y person iawn ar gyfer y swydd. Llwyddais i wneud hynny, ac allwn i ddim credu’r peth pan gynigiwyd y swydd i mi ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Roeddwn i newydd raddio o’r brifysgol yn 21 oed ac roeddwn i wedi sicrhau cyfle gwaith anhygoel gyda chyflog gwych (a char cwmni)! Roedd y cyfan yn teimlo’n rhy dda i fod yn wir.

Sut mae’ch taith gyrfa wedi datblygu?

Ar ôl cyfnod byr ar y cynllun graddedigion, sylweddolais i nad oedd yn berthnasol i mi; roedd y gwaith yn teimlo’n ddi-enaid a doeddwn i ddim yn teimlo bod ‘na bwrpas ystyrlon y tu ôl i’r cyfrifoldebau. Roedd pwysau a disgwyliadau’r swydd yn anodd iawn ac yn feichus iawn ac fe gymerodd hyn dros fy mywyd yn gyflym – roedd disgwyl i mi dreulio llawer o amser oddi cartref ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gweithio drwy’r amser. Plymiodd fy hunan-barch a dioddefodd fy mywyd cartref a’m perthnasoedd, ac felly roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi wneud newid cyn i’r rôl gymryd drosodd yn llwyr. Roeddwn i dan straen, yn bryderus ac yn anhapus ac felly yn anffodus, fe wnes i ymddiswyddo. Roeddwn i’n teimlo fel methiant ond ceisiais i atgoffa fy hun fy mod i’n rhoi fy iechyd a’m hapusrwydd yn gyntaf, yn hytrach na statws ac enw da swydd ‘wych’. Symudais i i Gaerdydd a chwilio am gyfle newydd; Roeddwn i eisiau rôl 9-5 syml lle gallwn i ddechrau magu hyder eto a darganfod fy hun eto. Fe wnes i gais am rôl yn Ysbyty’r Mynydd Bychan fel Cydlynydd Cymorth y Gyfarwyddiaeth ar gyfer yr adran Obstetreg a Gynaecoleg. Ar ôl mynd drwy’r broses ymgeisio, roeddwn wrth fy modd i dderbyn cynnig y swydd. Mwynheais i’r swydd hon yn fawr; Roeddwn i’n gyfrifol am gydlynu myfyrwyr israddedig Prifysgol Caerdydd ar eu lleoliadau, ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cwrdd â’r myfyrwyr, a’u cefnogi nhw trwy eu profiad a sicrhau eu bod nhw’n gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gynigiwyd iddun nhw. Gan fod y GIG yn brysur, doedd fy rôl i ddim yn un syml, a thrwy gydol y 2 flynedd yn y swydd roeddwn i hefyd yn gyfrifol am reoli rhestrau aros a chydlynu clinigau. Roedd yn amser hynod o brysur ond cwrddais i â phobl anhygoel ar hyd y ffordd a dysgais i lawer mewn cyfnod byr. Dyma’r rôl lle dechreuais i deimlo fel fi eto; Roeddwn i’n gweithio’n galed ond roeddwn i’n gallu gweld y gwahaniaeth roeddwn i’n ei wneud i fywydau’r cleifion a’r myfyrwyr, ac fe wnaeth hyn fy ysgogi i barhau i wthio fy hun.

Ar ôl 2 flynedd, symudais i yn ôl i Abertawe a gweld rôl Swyddog Gwybodaeth Recriwtio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Roeddwn i’n chwilfrydig ac yn hoff iawn o weledigaeth a chenhadaeth y rhaglen gyflogadwyedd yn ei chyfanrwydd – dull eang, cyfannol o helpu pobl i gael cyflogaeth. Ymgeisiais i am y rôl a llwyddo a dyma ddechrau fy nhaith gyda GSGD! Ers i mi weithio yn yr adran rydw i wedi gweithio fel Cydlynydd Ymgysylltu, Ymgynghorydd Recriwtio, ac erbyn hyn Cydlynydd Prosiect ydw i – rydw i wedi symud ymlaen trwy nifer o rolau gwahanol sydd i gyd wedi rhoi sgiliau a phrofiad gwerthfawr i mi, a rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r tîm ers y cychwyn cyntaf. Rydw i wedi gweithio gyda phobl anhygoel ac wedi datblygu cymaint yn bersonol ac yn broffesiynol – mae’r swydd hon wir wedi newid fy mywyd.

Oes unrhyw beth yr hoffech chi fod wedi’i wybod pan oeddech chi’n iau?

Rydw i bob amser wedi bod yn rhywun sy’n pryderu ac yn meddwl gormod, a hoffwn i fod wedi treulio mwy o amser yn mwynhau fy hun a pheidio â phoeni am y pethau bach. Rydw i’n meddwl bod llawer o bwysau ar bobl ifanc i gael popeth mewn trefn; beth maen nhw ei eisiau a sut maen nhw’n mynd i gyrraedd yno, ond y gwir amdani yw ei bod hi’n anodd iawn cynllunio ar gyfer eich dyfodol os nad oes gennych chi lawer o brofiad ac yn teimlo’n ansicr ac yn ofnus i wneud rhywbeth yn anghywir. Os nad ydych chi’n gwybod beth yw’ch camau nesaf mae hynny yn berffaith iawn ac yn normal; Rydw i wedi gwneud nifer o rolau, rhai roeddwn i’n eu caru, a rhai doeddwn i ddim yn eu mwynhau, ond drwy wneud y rolau hyn rydw i wedi dysgu llawer am fy hun a’m blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Mae mor bwysig pwyllo a pheidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun i gael y bywyd perffaith, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael cymaint o ddylanwad mawr ar y pethau hyn erbyn hyn. Bydd popeth yn iawn yn y pen draw ac os na, dydy hi ddim yn ddiwedd y byd!

Y cyngor gorau ar gyfer gwneud cais am swyddi?

Y cyngor gorau fyddai bod yn driw i chi’ch hun a gwneud y mwyaf o’ch sgiliau, eich cryfderau a’ch pwyntiau gwahaniaeth i’ch darpar gyflogwr – beth allwch chi ei gynnig na all pobl eraill ei gynnig? Pam ddylen nhw eich cyflogi chi ac nid eich cystadleuydd agosaf? Gall fod yn anodd iawn cael eich sylwi mewn marchnad swyddi orlawn, ond mae’n rhaid i chi fod â hyder a chred yn eich gallu i wneud y swydd a chynnig cyfraniad cadarnhaol i’r sefydliad. Dylech chi fod â meddylfryd ‘beth sydd ‘da fi i’w golli’ a thaflu popeth ato; o leiaf gallwch chi edrych yn ôl wedyn gan wybod eich bod chi wedi gwneud eich gorau glas, ac os nad yw’n gweithio allan, doedd hi ddim i fod.

Beth yw’ch gair o gyngor pwysicaf?

Fel rhywun sydd bob amser dan straen ac yn poeni am rywbeth, fy nghyngor yn y pen draw fyddai, beth bynnag yw’ch sefyllfa neu’ch amgylchiadau, ceisiwch leihau’r pwysau, byddwch yn amyneddgar a byddwch yn garedig wrthoch chi’ch hun. Mae bywyd mor brysur a gall fod yn llethol iawn ar adegau, felly mae’n bwysig gofalu amdanoch chi’ch hun ac ymddiried yn y broses o beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo; mae popeth yn dysgu rhywbeth i ni, hyd yn oed os nad yw’n teimlo felly ar y pryd. Cofiwch – daw eto haul ar fryn, bydd popeth bob amser yn troi allan yn well na’r disgwyl.