Ffair Recriwtio Dyfodol 2023

Ffair Recriwtio 2022

Ailagor yr Hyb Cyflogaeth

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ac yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’r adeilad ac wedi rhoi ar waith yr holl ragofalon a’r mesurau angenrheidiol er mwyn darparu ein gwasanaeth mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a hamddenol.

I ddarganfod sut y gallwn ni helpu eich taith cyflogaeth chi, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales

 

Recriwtio – y farchnad sy’n newid yn ddyddiol

Mae gwybod am ‘hanfodion recriwtio’ yn hollbwysig i unrhyw fusnes sy’n edrych i gyflwyno talent newydd i’w sefydliad, ac mae rhagweld a pharatoi ar gyfer thueddiadau recriwtio’r dyfodol yn gallu bod o fudd sylweddol i natur gystadleuol unrhyw fusnes. Mae’n Hymgynghorydd Gweithlu, Zoe Williams, wedi bod yn archwilio tirlun aml newidiol recriwtio, felly darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich helpu chi fod ar flaen y gad wrth recriwtio talent newydd i’ch busnes. Read more

Gwella cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle: 6 awgrym cyflym

Ydy’ch gweithlu chi mor gyfartal o ran rhywedd a allai fod? Os na, gallech fod yn colli allan ar lawer o’r manteision sy’n gysylltiedig â gwella cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle, a bydd rhai o’r rhain yn llai amlwg nag eraill. Yn ogystal â manteisio ar y ddawn fenywaidd bosib sydd efallai’n ddigyffwrdd yn eich busnes, gall cwmnïau sy’n dangos arferion cyfartal a theg ar draws eu sefydliad wella ysbryd ac ymrwymiad gweithwyr yn sylweddol, ac nid yn unig mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y sefydliad ac ymagweddau ymhlith y gweithlu, ond gall hefyd fod yn atyniad mawr i gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill. Gallai mwy o hyblygrwydd i ddynion a menywod yn y gweithle hefyd ddod â buddion o ran gwella ansawdd a chynhyrchiant. Read more

Yr hyn y mae gweithwyr gwir ei eisiau gan eu cyflogwyr (a sut y gall yr wybodaeth hon eich helpu i recriwtio a chadw’r staff cywir)

Bydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau brofiad uniongyrchol o ran pa mor anodd gall fod i ddod o hyd i’r bobl gywir gyda’r sgiliau cywir ar yr adeg gywir. Heb os, gall recriwtio staff fod yn dir peryglus, ond gall gadw gweithwyr da fod yr un mor heriol, yn enwedig mewn marchnad lafur gystadleuol iawn. Felly gall ddeall yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr (ac, yn wir, ddarpar weithwyr) fod yn hanfodol er mwyn llwyddo i gael y fantais gystadleuol hollbwysig honno wrth recriwtio a chadw staff. Read more

Sut i weithredu strategaeth rheoli talent

Os yw’ch cwmni yn cael problemau o ran recriwtio a chadw’r bobl iawn efallai mai strategaeth rheoli talent yw’r hyn sydd ei angen arnoch i gryfhau’ch gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. Darllenwch ymlaen i gael gwybod ble i ddechrau. Read more

CYNLLUNIO AR GYFER OLYNIAETH: 4 rheswm pam mae’n rhaid i’ch cwmni ei fabwysiadu.

Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i sicrhau bod eich busnes yn gallu rhedeg yn effeithiol pan gaiff aelodau allweddol o staff eu dyrchafu, yn ymddeol neu’n symud ymlaen am resymau eraill.

Mae adnabod pa rai o’ch cyflogeion allweddol fydd yn camu i rolau arweinyddiaeth, uwch-reoli a/neu rolau sy’n bwysig i fusnes felly yn hanfodol i gynnal parhad busnes. Ond mae manteision eraill hefyd. Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth ydyn nhw. Read more

HANFODION RECRIWTIO

Mae recriwtio effeithiol yn hanfodol ar gyfer pob busnes, ond mae’n broses y mae llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd. Dyma drosolwg  byr ar gamau hanfodol y broses recriwtio i’ch helpu i ddechrau arni. Read more