HANFODION RECRIWTIO

Mae recriwtio effeithiol yn hanfodol ar gyfer pob busnes, ond mae’n broses y mae llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd. Dyma drosolwg  byr ar gamau hanfodol y broses recriwtio i’ch helpu i ddechrau arni.

1. DIFFINIO’R SWYDD

Cyn drafftio’r swydd-ddisgrifiad mae’n werth treulio rhywfaint o amser yn dadansoddi’r hyn rydych am ei gyflawni yn y rôl; yr hyn mae’r swydd yn ei olygu, ei diben, yr hyn sy’n rhaid i ddeiliad y swydd ei wneud  a sut mae’n cydweddu â strwythur y sefydlaid. Yn ogystal â helpu i ddatblygu swydd-ddisgrifiad cadarn, gall y broses hon nodi cyfleoedd i drefnu pethau’n wahanol fel bod y gwaith yn gallu cael ei gyflawni mewn rôl arall, o bosib fel cyfle datblygu mewnol ar gyfer aelod o staff presennol. Bydd hefyd yn eich helpu i ystyried a oes modd gwneud y swydd yn hyblyg a/neu a oes angen ateb dros dro/parhaol ar ei chyfer.

Dylai’r swydd-ddisgrifiad a manyleb yr unigolyn ddarparu canllaw clir ynghylch gofynion y rôl a nodi’r meini prawf hanfodol a dymunol y byddwch yn asesu ymgeiswyr yn eu herbyn. Gellir ei defnyddio hefyd i gyfleu disgwyliadau i gyflogeion a rheolwyr i helpu i sicrhau perfformiad effeithiol yn y swydd.  Cofiwch mai dyma’ch cyfle i werthu’r manteision o weithio i’ch cwmni ac felly dylech ystyried pam byddai unigolyn yn dymuno gweithio i’ch busnes; beth sy’n gwneud eich busnes yn llwyddiannus a gwahanol, a pham rydych yn gwmni da i weithio iddo. Os ydych yn gobeithio denu’r talent gorau rhaid i chi werthu’r manteision o weithio i chi.

2. DENU CEISIADAU

Gall recriwtio fod yn broses gostus ac felly mae’n werth ystyried eich opsiynau cyn neidio’n syth i recriwtio’n allanol. Efallai y byddwch am ystyried a yw’r sgiliau rydych yn chwilio amdanynt ar gael o fewn eich gweithlu presennol. Yn ogystal â chynnig ateb mwy cost-effeithiol, mae datblygiad staff a dilyniant mewn swydd yn gallu gwella ymgysylltu â gweithwyr ar raddfa ehangach a chadw gweithwyr hefyd ac felly bydd cymryd y llwybr hwn yn arwain at fanteision ychwanegol.

Os na allwch lenwi’r swydd yn fewnol, mae amrywiol ddulliau o recriwtio’n allanol. Gall dod â staff newydd i mewn ddod â manteision ehangach, syniadau newydd a phersbectif newydd hefyd, yn ogystal â gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol. Cofiwch fod ymgeiswyr yn disgwyl fwyfwy y bydd swyddi yn cael eu hysbysebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ac felly mae’n werth ystyried pa sianeli fydd orau i ddenu yr ymgeiswyr iawn.

Os oes angen help arnoch i gyrraedd cynulleidfa ehangach neu gymorth gyda rhannau o’r broses recriwtio gallai asiantaeth recriwtio ateb yr angen hwn. Bydd cryfderau ac arbenigeddau gwahanol gan asiantaethau gwahanol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael hyd i’r un sy’n iawn i chi a bod yn glir ynghylch sut y byddwch yn mesur yr elw ar eich buddsoddiad. Nid yw pob darparwr recriwtio yn codi tâl am ei wasanaethau, ac felly mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth am ddim. Os ydych yn fusnes yn ardal Abertawe, gallai’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol roi cymorth recriwtio wedi’i deilwra i chi yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni i wybod rhagor.

3. RHEOLI CEISIADAU

Ar ôl penderfynu pa sianeli recriwtio rydych am eu defnyddio, bydd rhaid i chi benderfynu pa fformat rydych am i’r ceisiadau fod ynddo a sut rydych yn mynd i asesu pa mor addas yw pobl ar gyfer y rôl. Er enghraifft, bydd rhaid i chi ystyried ffurflenni cais yn erbyn CVs. Mae manteision ac anfanteision i’r ddau, ac felly nid oes dull cywir nag anghywir yma. Mae CV yn rhoi cyfle i ymgeiswyr werthu eu hunain mewn ffordd anghyfyngedig ond mae hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth nad yw’n berthnasol i’r swydd-ddisgrifiad, tra bod ffurflenni cais yn rhoi modd i ni gyflwyno gwybodaeth mewn fformat cyson ar gyfer pob ymgeisydd, ac felly bydd yn haws i gasglu gwybodaeth gan ymgeiswyr swyddi yn fwy systematig. Pa bynnag opsiwn a ddewiswch, cofiwch y dylid trin yr holl geisiadau’n gyfrinachol a dim ond y rhai sy’n ymwneud â’r broses recriwtio ddylai gael mynediad iddynt.

Wrth benderfynu ar ddulliau dethol, sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer creu rhestr fer. Bydd cael y rhan hon o’r broses yn iawn yn sicrhau bod yr ymgeiswyr iawn yn symud ymlaen i’r cam nesaf a bydd yn rhoi darlun da i chi o’r meysydd yr hoffech eu harchwilio yn ystod cyfweliad. Efallai y byddwch am gyflwyno asesiad ysgrifenedig neu ymarferol i brofi sgiliau neu alluoedd penodol sy’n berthnasol i’r rôl, neu ymarfer grŵp i weld sut mae ymgeiswyr yn rhyngweithio ag eraill. Pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn siŵr i gymhwyso’r broses yn gyson i bob ymgeisydd. 

4. GWNEUD Y CYNNIG

Pan fyddwch wedi penderfynu ar yr ymgeisydd cywir ac rydych yn barod i gynnig y swydd iddo/iddi, sicrhewch eich bod yn dilyn unrhyw gynnig cyflogaeth geiriol gyda chynnig ysgrifenedig. Cofiwch wirio cymhwyster yr ymgeisydd i weithio yn y DU a gofyn am eirdaon – mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn gwneud hyn ar ôl i’r ymgeisydd gael ‘cynnig dros dro’. Wrth hysbysu ymgeiswyr aflwyddiannus mae’n ddefnyddiol cynnig adborth ac felly bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i ddarparu hyn os bydd ymgeiswyr yn derbyn eich cynnig.

Os hoffech gael cymorth gyda recriwtio cysylltwch â’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i drafod sut y gallwn eich cynorthwyo. Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen wedi’i hariannu’n llawn sy’n gallu cynnig gwasanaeth cynllunio a datblygu gweithlu, gwasanaeth recriwtio wedi’i deilwra i’ch cwmni a, thrwy fynediad i’r ddarpariaeth ehangach sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, pecyn llawn o gyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu neu wedi’u hariannu’n rhannol.