CYNLLUNIO AR GYFER OLYNIAETH: 4 rheswm pam mae’n rhaid i’ch cwmni ei fabwysiadu.

Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i sicrhau bod eich busnes yn gallu rhedeg yn effeithiol pan gaiff aelodau allweddol o staff eu dyrchafu, yn ymddeol neu’n symud ymlaen am resymau eraill.

Mae adnabod pa rai o’ch cyflogeion allweddol fydd yn camu i rolau arweinyddiaeth, uwch-reoli a/neu rolau sy’n bwysig i fusnes felly yn hanfodol i gynnal parhad busnes. Ond mae manteision eraill hefyd. Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth ydyn nhw.

1. ADNABOD ARWEINWYR Y DYFODOL

Gall cynllunio ar gyfer olyniaeth fod yn ffordd bwysig o adnabod cyflogeion sydd â’r sgiliau a’r potensial i ddatblygu o fewn y cwmni. Yn ogystal, mae’r broses o gynllunio ar gyfer olyniaeth ei hun yn gallu helpu i nodi pa gymorth sydd ei angen ar gyflogeion i fod yn arweinydd effeithiol a pha hyfforddiant allai eu helpu i reoli a gwella eu perfformiad. Un ffordd o adnabod arweinwyr y dyfodol o fewn eich cwmni yw rheoli perfformiad yn effeithiol a rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant iawn i reolwyr i’w galluogi i adnabod talent y dyfodol.

2. ADNABOD ANGHENION DATBLYGU

Mae adnabod arweinwyr y dyfodol yn datgelu’r cryfderau o fewn eich gweithlu, ond mae hefyd yn gallu datgelu meysydd a allai gael eu gwella. Mae monitro perfformiad a datblygiad cyflogeion yn gallu helpu i adnabod timau neu unigolion y mae angen hyfforddiant a chymorth ychwanegol i gyrraedd eu potensial.

3. CREU ARBEDION EFFEITHIOLRWYDD

Trwy roi sylw i anghenion datblygu fel rhan o’r broses barhaus o reoli perfformiad, mae cynllunio ar gyfer olyniaeth felly yn gallu cael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lefelau cynhyrchiant yn ogystal â darparu ffrwd bosibl o ymgeiswyr mewnol ar gyfer cyfleoedd dilyniant y dyfodol. Gallai llenwi swyddi yn fewnol arbed amser ac arian gwerthfawr i’ch cwmni, yn uwch na’r effeithlonrwydd a enillir trwy weithlu cynhyrchiol sy’n perfformio’n well.

4. GWELLA YMGYSYLLTU Â CHYFLOGEION

Mae mwy o gyfleoedd ar gyfer dilyniant a datblygu staff, gwell arweinyddiaeth a rheolaeth, a gweithlu mwy effeithlon ac effeithiol i gyd yn ffactorau sy’n debygol o gadw staff a chyfrannu at ymgysylltiad cryfach â chyflogeion. Felly, nid oes dwywaith y bydd y manteision i’w gweld ar draws eich busnes!

Os hoffech gael cymorth i fabwysiadu cynllunio ar gyfer olyniaeth yn eich busnes cysylltwch â’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i drafod sut y gallwn eich cynorthwyo. Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen wedi’i hariannu’n llawn sy’n gallu cynnig gwasanaeth cynllunio a datblygu gweithlu, gwasanaeth recriwtio wedi’i deilwra i’ch cwmni a, thrwy fynediad i’r ddarpariaeth ehangach sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, pecyn llawn o gyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu neu wedi’u hariannu’n rhannol.