Her fawr y gweithlu

Ar yr wyneb, mae’r newyddion diweddar sy’n tynnu sylw at lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth fel pe bai’n awgrymu darlun iach iawn ar gyfer busnesau ledled Cymru, ond o edrych dan yr wyneb, mae’n ymddangos bod y gostyngiad parhaus sydd i’w groesawu mewn lefelau diweithdra’n celu’r her wirioneddol i’r gweithlu. Mae’n ymddangos bod y mater yma’n ymwneud mwy yn awr â thangyflogaeth, a thanddefnyddio’r gweithlu presennol, sy’n cael effaith uniongyrchol ar lefelau cynhyrchiant.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol: ‘er bod lefelau cyflogaeth yn uwch nag erioed, ceir tystiolaeth bod rhai gweithwyr dal eisiau gweithio mwy o oriau nag y maent yn eu gweithio ar hyn o bryd. Mae canran y gweithwyr rhan amser sydd eisiau gweithio’n llawn amser dal yn uwch nag yn 2008, yn 15% o weithwyr rhan amser o gymharu a 10% yn 2008.’

Mae problemau cynhyrchiant wedi cael eu trafod ers degawdau, gan fynd yn ôl i ddirywiad y diwydiant gweithgynhyrchu, ond mae’r pwnc hwn wedi dod yn nodwedd amlycach ar y cyfryngau’n ddiweddar.

Yn ôl y siart isod, mae’r broblem cynhyrchiant yn waeth ers yr argyfwng ariannol. Ers hynny, mae cyfraddau llog wedi parhau i ddirywio, sy’n golygu bod benthyca wedi bod yn rhad, a hefyd cafwyd lefelau chwyddiant cyson isel, gan arwain at gefndir economaidd anaddas i wella cynhyrchiant. Mae cwmnïau wedi mynd ati i dalu llai i staff a chyflogi mwy o unigolion ar gontractau rhan amser a chyfradd sero.

(Woodford Funds, 2017)

Gellir dweud bod yr amgylchedd cyfraddau llog isel wedi helpu llawer o gwmnïau i oroesi ac y byddent wedi diflannu fel arall, o dan amodau economaidd gwahanol. Yn fwy na hynny, mae’r busnesau hynny nad oeddent yn perfformio’n gynhyrchiol cyn yr argyfwng economaidd yn yr un sefyllfa heddiw. I’r gwrthwyneb, mae’r cyfnod hwn wedi cyflwyno cyfle i gwmnïau a allai gael credyd rhad dyfu neu ailfodelu eu strategaethau busnes. Hefyd, mae’r newydd-ddyfodiaid gyda llawer o arian oedd yn gallu gweithio drwy’r amodau economaidd anodd a thyfu drwy uno a phrynu wedi ffynnu hefyd.

Gwella amodau economaidd           

“Cumulative net finance raised in 2016, up to and including November was higher than in the equivalent period of any year since 2008.” (Banc Lloegr, 2016)

Mae swm y cyllid sydd wedi bod ar gael i fusnesau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n raddol. Fodd bynnag, mae’n werth nodi, ers yr argyfwng ariannol, bod newidiadau arwyddocaol wedi bod mewn rheoliadau cyllid byd-eang. Mae banciau wedi bod o dan bwysau aruthrol i wella eu gofynion cymhareb cyfalaf ac mae hyn wedi tynhau sut maent yn benthyca i fusnesau. Cyn 2007/2008, roedd rheoliadau llac ar gyfer benthyca ond, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae busnesau wedi gorfod dangos enw da proffidiol er mwyn cael cyfalaf. Mae hyn wedi arwain at newydd-ddyfodiaid ar ffurf banciau her, gan alluogi mwy o fusnesau i gael cyfalaf y mae ei wir angen. Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad yw llif y cyfalaf wedi treiddio i lawr i gwmnïau BBaCh.

“The rate of growth in bank lending to large businesses has strengthened, while lending to small and medium-sized enterprises (SMEs) has slowed gradually since mid-2016.” (Banc Lloegr, 2017)

Er gwaetha’r lefelau is o gyllid, mae’n ymddangos bod hyder y gymuned BBaCh yn gadarn a chryf. Yng Nghymru, mae hyder busnesau wedi bod ar gynnydd yn ddiweddar ac, yn nes at adref, mae cymuned fusnes Abertawe wedi parhau i fod yn galonogol, gyda chyhoeddi’r Fargen Ddinesig wedi bod yn hwb i hynny yn sicr.

“Mae busnesau ledled Bae Abertawe’n parhau’n hyderus am drydydd chwarter 2017. Dywedodd 39 y cant o’r busnesau a arolygwyd eu bod wedi perfformio’n gryfach yn ystod y tri mis diwethaf o gymharu â’r chwarter yn rhagflaenu hynny.” (Clwb Busnes Bae Abertawe, 2017)

Hefyd mae disgwyl i lansiad diweddar Banc Datblygu Cymru gynyddu lefel a hyblygrwydd y cyllid i fusnesau ledled Cymru.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau?

Mae lefelau gwell o hyder busnes, amodau economaidd gwell a mwy o gyfalaf yn llifo i gymuned fusnes Cymru i gyd fel pe baent yn arwydd o economi sy’n tyfu’n raddol. Does bosib felly bod hyn yn golygu mwy o gwmnïau newydd, twf ymhlith y cwmnïau sy’n bodoli eisoes ac, yn y pen draw, yr angen am sicrhau mwy o allbwn gan y gweithlu presennol yn ogystal â recriwtiaid newydd. Ond arhoswch am funud, mae lefelau cyflogaeth yn uwch nag erioed ac mae problem cynhyrchiant yn y farchnad lafur bresennol eisoes? Yr unig ateb i’r maes dyrys hwn yw mwy o ffocws ar ddatblygu gweithlu’n fwy effeithiol i gefnogi gwell recriwtio, cadw a rheoli talent.

Yn ‘Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell’, mae gennym ni dîm o Gynghorwyr Gweithlu penodol sydd yma i gefnogi busnesau i gynllunio a datblygu eu gweithlu’n well. Ffoniwch ni ar 01792 284450 i gael gwybod sut gallwn ni eich helpu chi i ddatrys heriau mawr eich gweithlu a chynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Ffynonellau

  • (2017) The UK labour market: where do we stand now? https://www.ifs.org.uk/publications/9170
  • Lamacraft (2017) https://woodfordfunds.com/words/blog/productivity-puzzle-2/
  • (2016) Credit Conditions Review http://www.bankofengland.co.uk/publications/Documents/creditconditionsreview/2016/ccrq416.pdf
  • (2017) Credit Conditions Review http://www.bankofengland.co.uk/publications/Documents/creditconditionsreview/2017/ccrq317.pdf
  • (2017) https://businessnewswales.com/businesses-across-swansea-bay-continue-to-remain-confident-for-2017s-third-quarter/