3 ffordd sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu busnesau ar draws Abertawe

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen newydd sbon gan Goleg Gŵyr Abertawe sydd â’r nod o helpu busnesau i recriwtio, cadw a datblygu eu staff. Rydym yn gweithio gyda busnesau sy’n cyflogi pobl o Abertawe a’r cyffiniau i ddarparu ystod eang o gymorth i wella ymgysylltu â chyflogeion a gwella cynllunio, dilyniant a chynhyrchiant yn y gweithle. Trwy hyfforddwyr gyrfa arbenigol a mynediad i bortffolio ehangach o gymorth sgiliau gan y coleg, rydym yn gweithio gydag unigolion sy’n chwilio am waith newydd neu well i’w paru â’r cyfleoedd iawn gyda chyflogwyr lleol ac i’w paratoi i fod yn gyflogeion effeithiol.

Dyma’r tair ffordd sut y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu’ch busnes:

  1. Rydym yn gweithio gyda chi i ddeall anghenion penodol eich gweithlu a darparu pecyn cymorth pwrpasol

Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i gael hyd i’r cymorth iawn i ddatblygu gweithlu eich busnes ac felly, yn lle disgwyl i chi fynd trwy lu o raglenni ar wahân, byddwn yn datblygu pecyn cyflawn o gymorth sydd wedi’i deilwra i’ch gweithlu. Byddwch yn elwa ar gymorth Ymgynghorydd Gweithlu penodol fydd yn rheoli’r berthynas gyda’ch cwmni i sicrhau ein bod yn deall eich busnes yn llawn ac yn gallu ymateb gyda chymorth hyblyg fydd yn sicr o ateb eich anghenion.

 

  1. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu’ch staff presennol, ond byddwn hefyd yn eich helpu i ehangu a chryfhau’ch gweithlu

Trwy ddarparu gwasanaeth recriwtio cyflawn, a thynnu ar gronfa ddoniau eang, byddwn yn gweithio gyda chi i recriwtio’r cyflogeion iawn ar gyfer eich gweithlu presennol a’ch gweithlu yn y dyfodol. Bydd ein tîm ymroddedig a phrofiadol yn gweithio gyda chi i gael y talentau gorau i’ch busnes, gan eich cynorthwyo gyda chymorth wedi’i deilwra trwy’r broses recriwtio a dethol.

 

  1. Rydym yn darparu gwasanaeth hollgynhwysol sy’n rheoli talentau ac yn datblygu’r gweithlu

Rydym yn cydnabod na fydd y gweithlu sydd ei angen arnoch nawr o reidrwydd y gweithlu fydd ei angen arnoch yn y dyfodol. Rydym hefyd yn awyddus i’ch helpu i recriwtio cyflogeion sydd â’r potensial i dyfu a datblygu ac ar yr un pryd gallwn lenwi unrhyw fylchau sydd gennych yn eich gweithlu. Felly, byddwn yn eich helpu i recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol, ond byddwn hefyd yn darparu pecyn cyflawn o gymorth integredig o’r broses recriwtio gychwynnol i’r broses datblygu staff yn y gwaith, gan gynnwys cymorth recriwtio, cymorth datblygu gweithlu a chymorth uwchsgilio.
Hoffech chi glywed rhagor? Cysylltwch a ni ar 01792 284450 neu dilynwch ni ar Twitter: @SwanseaBJBF

Instagram: @Swanseabjbf

Facebook: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

LinkedIn: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol