Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol: 3 rheswm pam mae menter cyflogadwyedd newydd sbon Abertawe yn unigryw

Mae ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ yn rhaglen cyflogadwyedd newydd sy’n helpu pobl yn Abertawe i chwilio am gyflogaeth newydd neu well a busnesau sy’n ceisio datblygu ac ehangu eu gweithlu. Yma, mae’r Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd, Cath Jenkins, yn esbonio pam mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn wahanol i unrhyw raglen cyflogadwyedd arall.

Pan benderfynon ni lansio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roedden ni’n gwybod y byddai tasg sylweddol o’n blaenau. O ystyried bod rhannau sylweddol o Abertawe â’r gyfradd diweithdra uchaf yng Nghymru, roedd helpu pobl i gael gwaith wrth wraidd ein cenhadaeth. Fodd bynnag, roedden ni hefyd yn gwybod, fel mewn sawl rhan arall o Gymru, bod gormod o bobl yn Abertawe yn cael trafferthion mewn cyflogaeth ansicr neu o safon isel, sy’n golygu nad yw gwaith yn aml yn ffordd allan o dlodi fel y dylai fod. Ar yr un pryd, bydd datblygiadau cyffrous yn Abertawe megis y Fargen Ddinesig yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddysgu sgiliau newydd i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr, a llawer o’n gweithlu presennol, os ydym am wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn yn llawn a sicrhau bod y manteision yn cael eu rhannu’n eang. Felly, ein prif fwriad oedd creu rhaglen a fyddai’n rhoi hwb i gyflogaeth, ond a fyddai hefyd yn creu gwell cyflogaeth.

I wneud hyn, roedd yn rhaid i ni fod yn wahanol i unrhyw raglen cyflogadwyedd arall, trwy ddarparu gwasanaeth unigryw sy’n rhoi anghenion a dyheadau ei chleientiaid wrth wraidd yr hyn a wnawn. Dyma sut:

  1. Rydym yn ffynhonnell gyson o gymorth wedi’i deilwra’n unigol

Mae ein tasglu ymroddedig yn arbenigwyr cyflogadwyedd sy’n ymrwymedig i ganfod yr ateb gyrfa cywir i bawb. Trwy gyngor a mentora wedi’u teilwra’n unigol, rydym yn cadw draw o ymyriadau pendant eu strwythur, gan fod yn well gennym gynnig pecyn o gymorth pwrpasol i weithwyr a busnesau fel ei gilydd.

Rydym yn cefnogi pobl am faint bynnag o amser sydd ei angen arnynt ac rydym yn gweithio gyda chyflogeion a’u cyflogwyr i wneud y mwyaf o’r posibilrwydd y bydd pobl yn aros mewn cyflogaeth, hyd yn oed pan fydd anawsterau’n codi. Mae hyn yn golygu na fydd y cymorth a gynigiwn yn dod i ben pan fydd pobl yn cael gwaith; mae’n parhau am faint bynnag o amser sydd ei angen fel y gall unigolion gynnal a symud ymlaen yn eu cyflogaeth. Felly, mae’n wasanaeth hollgynhwysol go iawn.

 

  1. Nid oes rhaid i chi fod yn ddi-waith i ni eich helpu

Nid ydym ond yn helpu unigolion i gael gwaith – rydym hefyd yn rhoi cyfleoedd i unigolion ddod o hyd i well gwaith. Mae gan Gymru y gyfradd tangyflogaeth uchaf ar draws y DU, sy’n golygu bod nifer o bobl yn rheolaidd yn chwilio am oriau ychwanegol, sefyllfa waith fwy sefydlog, neu swydd sy’n defnyddio eu sgiliau’n fwy effeithiol. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ddod o hyd i ffyrdd y gallant gynnig cyflogaeth o well safon a gallwn alw ar y ddarpariaeth helaeth sydd ar gael ar draws Coleg Gŵyr Abertawe i sicrhau bod pobl Abertawe yn cael eu hannog a’u hysgogi ac yn meddu ar y sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

 

  1. Rydym yn helpu busnesau hefyd!

Nid ydym yn canolbwyntio ar weithwyr yn unig – rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol a all ddarparu cyflogaeth fuddiol ar gyfer yr unigolion a gefnogwn. Golyga hyn ein bod yn rhoi pecyn cyflawn o gymorth integredig i gyflogwyr o’r broses recriwtio gychwynnol i ddatblygu staff yn y gwaith fel y gallant recriwtio a chadw gweithwyr talentog a sylweddoli’r manteision o gael gweithlu brwdfrydig, effeithlon ac effeithiol.
Os hoffech wybod rhagor am Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ewch i gwellswyddigwelldyfodol.cymru neu dilynwch ni ar:

 

Twitter: @SwanseaBJBF

Instagram: @Swanseabjbf

Facebook: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

LinkedIn: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol