Ailagor yr Hyb Cyflogaeth

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ac yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’r adeilad ac wedi rhoi ar waith yr holl ragofalon a’r mesurau angenrheidiol er mwyn darparu ein gwasanaeth mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a hamddenol.

I ddarganfod sut y gallwn ni helpu eich taith cyflogaeth chi, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales

 

Cydraddoldeb Rhyw mewn Busnes

Gydag achosion proffil uchel diweddar yn tynnu sylw at y broblem o gydraddoldeb rhyw yn y gweithle, ydy Cymru yn gwneud yn well neu’n waeth na’r DU yn gyffredinol, a pha gymorth sydd ar gael i fusnesau sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn o fewn eu gweithlu nhw? Read more

Busnesau Bach a Chanolig: Mae gennych chi’r grym

“Mae cwmnïau bach yn anadl einioes economi Cymru, gan gynrychioli 99% o’r holl fusnesau cofrestredig.” Read more

Her fawr y gweithlu

Ar yr wyneb, mae’r newyddion diweddar sy’n tynnu sylw at lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth fel pe bai’n awgrymu darlun iach iawn ar gyfer busnesau ledled Cymru, ond o edrych dan yr wyneb, mae’n ymddangos bod y gostyngiad parhaus sydd i’w groesawu mewn lefelau diweithdra’n celu’r her wirioneddol i’r gweithlu. Mae’n ymddangos bod y mater yma’n ymwneud mwy yn awr â thangyflogaeth, a thanddefnyddio’r gweithlu presennol, sy’n cael effaith uniongyrchol ar lefelau cynhyrchiant.

Read more