Recriwtio – y farchnad sy’n newid yn ddyddiol

Mae gwybod am ‘hanfodion recriwtio’ yn hollbwysig i unrhyw fusnes sy’n edrych i gyflwyno talent newydd i’w sefydliad, ac mae rhagweld a pharatoi ar gyfer thueddiadau recriwtio’r dyfodol yn gallu bod o fudd sylweddol i natur gystadleuol unrhyw fusnes. Mae’n Hymgynghorydd Gweithlu, Zoe Williams, wedi bod yn archwilio tirlun aml newidiol recriwtio, felly darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich helpu chi fod ar flaen y gad wrth recriwtio talent newydd i’ch busnes.

Prosesau Cyfweld

Credir 49% o reolwyr cyflogi bod newid dulliau cyfweld yn bwysig ‘iawn’ i ddyfodol recriwtio[1], gan fod dulliau traddodiadol o gyfweld yn gallu bod yn aneffeithiol wrth fesur sgiliau meddal yr ymgeiswyr, yn ogystal â bod yn tra aneffeithiol wrth ddeall gwendidau’r ymgeisydd a diddymu tueddiadau’r cyfwelydd.

Gall y newidiadau yma gynnwys asesiadau arlein cyn y cyfweliad, er mwyn mesur sgiliau megis hyblygrwyd yr ymgeisydd a’i allu i weithio mewn tîm. Bydd gwneud hyn felly yn darparu adlewyrchiad mwy realistig o bersonoliaeth yr ymgeisydd. Mae cyfnodau prawf yn galluogi’r ymgeisydd i brofi awyrgylch gwaith ac yn gyfle i’r cyflogwyr gael gweld ac archwilio sgiliau’r ymgeisydd yn uniongyrchol. Yn ogystal, mae cynnal dulliau cyfweld lled anffurfiol yn gyfle i gwrdd â’r ymgeisydd mewn awyrgylch mwy ymlaciedig, ac yn galluogi’r ymgeisydd i ateb y cwestiynnau’n fwy naturiol. Trwy wneud hyn, mae’r cyfwelydd hefyd yn cael cyfle i weld ochr naturiol yr ymgeisydd.

Mae’r defnydd o fideo’n dod yn fwyfwy amlwg yn y broses o recriwtio, a hefyd yn y gweithle, gan fod tuedd gydag ymgeiswyr o fod yn symudol. Gwelir bod Realiti Estynedig a Rhith Realiti (VR) yn dod yn fwy poblogaidd yn ogystal, wrth i ddatblygiadau arloesol megis profiadau VR yn y gweithle, Asesiadau VR a hysbysebion rhyngweithiol ddod yn rhan fwy flaenllaw o’r broses recriwtio.[2]

Deallusrwydd Artiffisial a Thechnoleg ar Ffonau Symudol

Mae datblygiadau technolegol eraill eisoes yn cael dylanwad cryf ar dueddiadau recriwtio, gyda 28% o ymatebwyr y DU yn cytuno taw Deallusrwydd Artiffisial bydd thema bwysicaf 2018. Ar gyfer rheolwyr sy’n cyflogi ac yn derbyn symiau niferus o C.V(iau), mae Deallusrwyrr Artiffisial yn ddull effeithiol iawn o ddod ar draws yr ymgeiswyr gorau.[3]

Yn ogystal â’i rhinweddau effeithlon, mae gan Ddeallusrwydd Artiffisial fuddion eraill, gan gynnwys help yn y broses o waredu unrhyw dueddiadau isymwybodol. Mae’r defnydd o ‘chatbots’ yn galluogi’r ymgeiswyr i ofyn cwestiynau ar unrhyw amser o’r dydd, sy’n gwneud cyfleoedd yn fwy hygyrch ac yn galluogi’r rheolwyr i roi sylw manylach ar agweddau  eraill recriwtio.[4] Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi Rheolwyr sy’n cyflogi i gael mewnwelediad i farchnad amhersonol yr ymgeiswyr, gan graffu a manylu ar yr ymgeiswyr sydd ganddynt ddiddordeb ynddynt.

Mae’r defnydd byd-eang o ffonau symudol clyfar wedi trawsnewid a hwyluso’r broses o chwilio am waith, i ymgeiswyr yn ogystal â chyflogwyr. Darperir mynediad unionsyth at ystod eang o swyddi gwag. Nid yw’n syndod felly bod 89% o bobl sy’n chwilio am waith o’r farn bod ffonau symudol yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses chwilio, gyda 45% yn chwilio am swyddi ar eu ffonau symudol yn ddyddiol.

Profiad yr ymgeisydd a brandio cyffredinol y cyflogwr

Mae dennu a chadw talent mewn sefydliad yn profi i fod yn anodd mewn marchnad mor gystadleuol. Mae hyn yn golygu bod gofal ymgeiswyr yn bwysicach nag erioed, gyda disgwyliadau’n uchel a gwerthoedd y cyflogwyr megis uniondeb, gonestrwydd ac empathi yn rhan bwysig o ystyriaethau’r ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio.

Mae Cyflogwyr yn ymwybodol bellach o bwysigrwydd brandio deniadol a chyson er mwyn denu talent newydd, gyda phresenoldeb arlein a chyfryngau cymdeithasol yn profi i fod yn ffactor hollbwysig. Yn ôl Indeed, dywedodd 70% o bobl oedd yn chwilio am waith na fyddant yn ymgeisio ar gyfer swydd cyn gwirio enw da’r cwmni arlein, a nododd 56% na fyddant yn ymgeisio ar gyfer swydd mewn cwmni os nad oedd presenoldeb arlein ganddynt[5]. Defnyddir gwefannau megis Facebook, LinkedIn, Instagram a Thrydar gan 67% er mwyn cael mewnwelediad i ddiwylliant y cwmni, yn ogystal.

Rhaid i gyflogwyr fod yn ymwybodol bod cael presenoldeb arlein ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu cyrraedd cynulleidfa eang iawn o ymgeiswyr, a gall hefyd fod yn ffordd o hybu a hyrwyddo diwylliant a gwerthoedd y cwmni i’r ymgeiswyr yma.

Buddion a Lles

Yn ein herthygl ddiweddar ar gymhelliant gweithwyr a’r hyn yr oeddent eisiau derbyn o’u cyflogwyr, ni fyddai’n syndod darganfod taw cyflog oedd ar frig y rhestr. Er dweud hyn, fodd bynnag, mae ffactorau eraill yn dechrau dylanwadi ar unigolion i ymuno neu ymadael â chwmnïau. Mae’r tueddiadau yma wedi bod yn amlwg ymhlith phobl a chafodd eu geni rhwng 1981-1996, sy’n gweld mwy o werth mewn hyfforddi, cyfleoedd datblygu ac oriau gweithio hyblyg, yn hytrach na buddion ariannol. Nid yw’n syndod felly bod nifer cynyddol o gyflogwyr yn sylwi ar yr effaith bositif a geir ar ôl darparu rhaglen hyfforddiant neu ddatblygu, nid yn unig fel modd o ddenu a chadw staff, ond hefyd fel modd o ddatblygiad a chynhyrchiant gwaith effeithlon.

Sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu

Mae’n Ymgynghorwyr Gweithlu yma yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn defnyddio’u gwybodaeth weithredol arbenigol i’ch helpu chi fod un cam ar y blaen ynglŷn â recriwtio staff newydd. Darperir cymorth recriwtio arbenigol, yn ogystal â chymorth ar ddod o hyd i swydd. Mae’n tîm rheoli talent arbenigol yn gweithio’n agos â busnesau lleol er mwyn sicrhau bod yr  ymgeiswyr yn addas ar gyfer y cyfle/swydd. Maent hefyd yn darparu amrywiaeth eang o gymorth wedi’i anelu at wella cymhelliant y gweithiwr, cynllunio gweithle, mesur cynydd a chynhyrchedd personol.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar: 01792 284450 neu danfonwch ebost at: info@betterjobsbetterfutures.wales.

 

[1] http://www.hrmagazine.co.uk/article-details/recruiters-call-for-changes-to-hiring-process-run-2018

[2] https://www.hrgrapevine.com/content/article/insight-2018-01-10-the-year-ahead-2018s-recruitment-trends

[3] https://www.forbes.com/sites/valleyvoices/2018/01/29/how-ai-is-changing-the-game-for-recruiting/

[4] https://ideal.com/recruitment-chatbot/

[5] https://www.thehrdirector.com/business-news/jobseekers/company-reputation-jobs/