Gradd Sylfaen Chwaraeon– Blog Cymorth Cyflogadwyedd

Yn ddiweddar, bu tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cefnogi myfyrwyr Datblygu a Rheoli Chwaraeon Goleg Gŵyr Abertawe.

Cymerodd y myfyrwyr ran yn ein rhaglen gyflogadwyedd Dyfodol, oedd yn cyfri tuag at fodiwl “Cyflogadwyedd Cynaliadwy a Sgiliau Awdurdodol” eu graddau.

Gofynnwyd i’r myfyrwyr ymgymryd â’r modiwl er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith a’r diwydiant y byddant yn dewis gweithio ynddo. Yn ogystal â mynd ar leoliad gwaith, roedd gofyn i’r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth o’u diwydiannau dewisedig a gwella eu sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Gan roi pwyslais ar ganlyniadau allweddol y modiwl a thrwy weithio ar y cyd â’r tiwtor Marc O’Kelly, darparodd tîm Dyfodol weithdai gweddus oedd yn cefnogi cyrhaeddiad modiwlau’r myfyrwyr. Roedd y sesiynau yn cynnwys:

  • Sgiliau CV a ffurflenni cais
  • Datblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gyrfa
  • Cydnabod cryfderau a rhinweddau personol
  • Sgiliau cyflogadwyedd gan gynnwys hydwythedd, creadigrwydd, arweinyddiaeth, trafod, a chyfathrebu
  • Ymddygiad yn y gweithle
  • Y Cyfryngau cymdeithasol ag ôl troed digidol
  • Sgiliau mewn cyfweliadau
  • Ffug gyfweliadau

Cynhaliwyd sesiwn olaf y rhaglen ar ffurf “The Apprentice”, ble bu’r myfyrwyr yn gorfod cwblhau ffug gyfweliadau gan arbenigwyr o’r diwydiant. Profwyd y myfyrwyr ar yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu, gyda’r canlyniadau yn ffurfio rhan o gredydau eu haseiniad. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn tri chyfweliad yr un, ac roedd yr adborth gan y cyfwelwyr, (o ystyried nad oeddent wedi cwrdd â’r myfyrwyr o’r blaen) yn anhygoel o gadarnhaol. Clodforwyd y myfyrwyr ar safon uchel eu CV’s, eu hagwedd bositif a’r ffordd y cyflwynid eu hunain ar faterion, sgiliau a phrofiadau perthnasol. Roedd rhai o’r cyfwelwyr wedi rhoi sylw i broffiliau cyfryngau cymdeithasol y myfyrwyr, a chafwyd eu plesio’n fawr gan bresenoldeb proffesiynol y myfyrwyr ar-lein, yn enwedig ar eu proffiliau LinkedIn, sef pwnc a gwmpaswyd yn un o weithdai’r rhaglen.

Un o arbenigwyr y diwydiant oedd Anthony Bowen, Pennaeth Recriwtio Ieuenctid yng nghlwb Stoke F.C:

“Roedd hi’n amlwg bod y myfyrwyr wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer eu cyfweliadau a aseswyd. Gwnaeth y lefelau uchel o broffesiynoldeb a’r cyfathrebu soffistigedig a ddefnyddiwyd gan yr holl unigolion argraff fawr arnaf. Roedd hi’n bleser cael cyfarfod â grŵp mor frwdfrydig o unigolion ifanc a dymunaf bob lwc iddynt ar eu gyrfaoedd cyfredol.”

I lawer o gyflogwyr, mae recriwtio’r bobl gywir yn golygu edrych tu hwnt i gymwysterau cymhwysol. Mae llawer yn edrych am ystod eang o sgiliau, phrofiad a’r potensial i gyfrannu i lwyddiant a hirhoedledd y cwmni. Mae’r rhaglen Dyfodol wedi rhoi mantais gystadleuol i’r grŵp yma o fyfyrwyr ac wedi eu rhoi mewn sefyllfa dda er mwyn rhoi hwb cychwynnol i’w siwrneiau gyrfaol cyffrous.

Dywedodd y Tiwtor Marc O’Kelly:

“Mae’r gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn anhygoel. Mae’r myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd cymhwysol a’u hyder i ymgeisio ar gyfer swyddi priodol sy’n ymwneud â chwaraeon. Mae’r broses wedi bod yn hynod o fuddiol i’r cwrs ac edrychwn ymlaen at gydweithio yn y dyfodol agos.”

Mae Diana, un o’r myfyrwyr gradd eisoes wedi cymhwyso’r cyfan a ddysgodd drwy’r rhaglen. Ar ôl derbyn cymorth uniongyrchol er mwyn ymgeisio ar gyfer swydd rhan amser â Phwll Cenedlaethol Cymru, cafodd Dianna ei rhoi ar y rhestr fer a’i chyfweld. Cynigiwyd y swydd i Diana ar ôl cyfweliad anhygoel, ac mae bellach yn gweithio yn ei rôl newydd yn unol â’i hastudiaethau.

Mae Louise Dempster, un o Ymgynghorwyr Gweithlu’r prosiect Dyfodol wedi estyn cymorth i’r myfyrwyr trwy gydol y rhaglen:

“Mae Diana wedi llwyddo’n fawr ers cwblhau rhaglen Dyfodol. Trwy waith caled a meddu ar feddylfryd positif, mae Diana’n ysbrydoliaeth i unrhyw berson ifanc sydd am ennill sgiliau newydd, ehangu eu gorwelion a gwella eu disgwyliadau gyrfaol. Mae cefnogi Diana, a’r myfyrwyr eraill sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi bod yn bleser.”

Bydd tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn parhau i gefnogi’r myfyrwyr, gan ddarparu cyngor ac arweiniad wrth iddynt baratoi i ddechrau eu taith yrfaol. Mae cymorth hefyd ar gael i fyfyrwyr ar draws y Coleg ehangach drwy gyfres o weithgareddau teulu ‘Dyfodol’. Mae’r cymorth yn cynnwys:

  • ‘Academi Dyfodol’, sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr Lefel A nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ar lefel Addysg Uwch ar ddiwedd eu cwrs. Mae’r Academi’n darparu rhaglen o weithgareddau a gynlluniwyd i ddatblygu llwybr cyflogaeth unigol ar gyfer pob myfyriwr, gyda’r nod o symud yn syth i gyflogaeth neu brentisiaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Lefel A.
  • ‘Hybiau Dyfodol’, sy’n cynnwys cyngor a chymorth cyflogadwyedd uniongyrchol ar gampysau Tycoch a Gorseinon. Nod yr hybiau yw cefnogi’r myfyrwyr i drosglwyddo’n llwyddiannus i fyd gwaith drwy gyfuniad o wybodaeth a sgiliau gyrfaol, cyngor gyflogadwyedd uniongyrchol a chymorth a chyngor. Gallant hefyd gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i gyflogaeth ran-amser wrth ymgymryd â’u hastudiaethau yn y coleg.
  • Cymorth ar gyflogadwyedd sydd wedi’i deilwra ar gyfer cwricwla ac ardaloedd dysgu unigol.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’n teulu Dyfodol, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ffoniwch 01792 284450, ewch i’n canolfan yn Ffordd y Brenin (gwasgwch yma am gyfarwyddiadau ac amserau agor) neu e-bostiwch info@betterjobsbetterfutures.wales.