Gwella cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle: 6 awgrym cyflym

Ydy’ch gweithlu chi mor gyfartal o ran rhywedd a allai fod? Os na, gallech fod yn colli allan ar lawer o’r manteision sy’n gysylltiedig â gwella cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle, a bydd rhai o’r rhain yn llai amlwg nag eraill. Yn ogystal â manteisio ar y ddawn fenywaidd bosib sydd efallai’n ddigyffwrdd yn eich busnes, gall cwmnïau sy’n dangos arferion cyfartal a theg ar draws eu sefydliad wella ysbryd ac ymrwymiad gweithwyr yn sylweddol, ac nid yn unig mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y sefydliad ac ymagweddau ymhlith y gweithlu, ond gall hefyd fod yn atyniad mawr i gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill. Gallai mwy o hyblygrwydd i ddynion a menywod yn y gweithle hefyd ddod â buddion o ran gwella ansawdd a chynhyrchiant.

Felly os ydych chi’n argyhoeddedig ynghylch buddion gweithlu sy’n fwy gyfartal o ran rhywedd ond dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau, dyma 6 awgrym euraidd i’ch helpu.

  • Hybu a chefnogi amrywiaeth yn y gweithle a gwerthfawrogi pawb yn y sefydliad fel unigolion.

 

  • Sicrhau bod polisïau tryloyw ar waith a’u cadw’n agored i fonitro ac adolygu rheolaidd

 

  • Hyrwyddo straeon am fenywod llwyddiannus y busnes, ni waeth eu gradd neu lefel eu swydd

 

  • Cynnig hyfforddiant i bob aelod o staff ar weithio’n gynhwysol, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â hyfforddiant cydraddoldeb i’r holl staff sy’n rhan o’r broses recriwtio

 

  • Adolygu data am y gweithlu a recriwtio’n rheolaidd er mwyn galluogi’r cwmni i nodi unrhyw ardaloedd o anghydraddoldeb rhywedd a allai fod yn destun pryder a chymryd camau cadarnhaol

 

  • Ymgysylltu ag ysgolion a cholegau er mwyn mynd i’r afael ag ystrydebau rhywedd yn gynnar ac atgyfnerthu niwtraledd rhywedd y rolau

Chwilio am ragor o gymorth?

Yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae ein tîm o Ymgynghorwyr Gweithlu’n gweithio gyda busnesau er mwyn nodi heriau allweddol y gweithlu a mynd i’r afael â nhw drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cynllunio. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr er mwyn adolygu a gwella strategaethau a pholisïau gweithle, gyda’r nod o wella amrywiaeth, recriwtio a chadw staff, ymroddiad gweithwyr a rheoli sgiliau yn y gweithle.  Rydym yn cefnogi busnesau cyhyd â bo angen hynny arnynt, ac rydym hefyd yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu harfogi i allu manteisio ar y cyfleoedd a grëir.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi elwa o’r gefnogaeth sydd ar gael drwy raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01792 284450 neu e-bostio info@betterjobsbetterfutures.wales.