Yr hyn y mae gweithwyr gwir ei eisiau gan eu cyflogwyr (a sut y gall yr wybodaeth hon eich helpu i recriwtio a chadw’r staff cywir)

Bydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau brofiad uniongyrchol o ran pa mor anodd gall fod i ddod o hyd i’r bobl gywir gyda’r sgiliau cywir ar yr adeg gywir. Heb os, gall recriwtio staff fod yn dir peryglus, ond gall gadw gweithwyr da fod yr un mor heriol, yn enwedig mewn marchnad lafur gystadleuol iawn. Felly gall ddeall yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr (ac, yn wir, ddarpar weithwyr) fod yn hanfodol er mwyn llwyddo i gael y fantais gystadleuol hollbwysig honno wrth recriwtio a chadw staff.

Ymchwiliwyd i’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu penderfyniadau gweithwyr mewn amrywiaeth o faterion cyflogaeth mewn adroddiad diweddar gan Hays[1]  a seiliwyd ar arolwg a gwblhawyd ledled y DU. Mae’r tabl isod yn ystyried sut y mae amrywiaeth o ffactorau yn dylanwadu penderfyniadau gweithwyr i aros yn eu rôl bresennol neu ystyried derbyn swydd newydd. Er nad yw’n syndod mai tâl sy’n dylanwadu fwyaf efallai, caiff ei ddilyn yn agos iawn gan ddiwylliant, dilyniant gyrfa a manteision eraill. Mewn gwirionedd, wrth ei gilydd, mae’r tri ffactor hyn yn bwysicach na chyflog fel sail i weithwyr sy’n penderfynu ai aros neu adael.

[1] Hays – Adroddiad “What Workers Want” – 2017

Ffynhonnell: Adroddiad Hays, “What Workers Want” – 2017

Datgelodd 78% o’r rheiny y gofynnwyd iddynt fod hunanddatblygiad a dilyniant yn bwysig iddynt mewn swydd, felly mae creu cyfleoedd i staff gael eu dyrchafu i rolau mwy heriol yn sicr o gael effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, gall opsiynau eraill, megis cynnig hyfforddiant arwyddocaol a chyfleoedd datblygu, fod yr un mor effeithiol wrth annog ac ysgogi staff.

Nid yw llawer o fusnesau’n sylweddoli pa mor ddylanwadol y gall diwylliant gweithio fod i ddewisiadau gweithwyr ond yn ôl yr arolwg hwn, byddai 62% o’r rheini a atebwyd yn barod i gymryd toriad cyflog i weithio i fusnes y maent yn ei ystyried yn well ddewis o ran diwylliant gweithio. Mae gweithwyr hefyd yn chwilio am gyflogwr â diwylliant amrywiol a dymunol, felly mae’n werth ystyried a allai diwylliant sefydliadol fod yn rhwystr i wella recriwtio a chadw gweithlu yn eich busnes.

Er bod gan fanteision llai o ddylanwad ar ddewisiadau gweithwyr na thâl, dilyniant gyrfa a diwylliant, yn aml gall cyflogwyr wella canfyddiadau eu gweithwyr o’r busnes yn rhwydd yn syml iawn drwy bwysleisio manteision ehangach wrth hysbysebu swyddi gwag. Y newyddion da yw nid yw hyn o reidrwydd yn gostus. Canfu darn o ymchwil arall[1]  fod 40% o bobl wedi datgan yr oedd te a choffi am ddim yn un o fanteision y swydd yr oeddent yn ei gwerthfawrogi fwyaf!

I lawer, gall yr amgylchedd gweithio iawn fod yn ‘fantais’ anariannol bwysig ac un y mae ganddi ddylanwad pwysig ar fodlonrwydd gweithwyr, ond nid yw llawer o gyflogwyr yn cydnabod y gall newidiadau bach i’r amgylchedd gwaith gael effaith sylweddol ar gynhyrchiant, presenoldeb, iechyd a hapusrwydd y gweithlu.  Er gwaetha’r effeithiau cadarnhaol hyn, mae llawer o gwmnïau’n anghofio holi barn yr union bobl y maent yn gobeithio a fydd yn elwa fwyaf wrth wneud newidiadau i fannau gweithio.

[1] Reno, sef sefydlwr a chyfarwyddwr cwmni arddangosfeydd a digwyddiadau Enigma Visual Solutions – adroddiad 2017 “What Employees Want”

Ffynhonnell: Savills a British Council for Offices, “What Workers Want 2016”

Dengys y graff uchod y gwahaniaeth rhwng lle y caniateir i weithwyr weithio a lle yr hoffent weithio fwyaf, ac mae’n hynod ddiddorol. Er bod y gweithle wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwmnïau sy’n mabwysiadu rhannu desgiau, cydweithio a gweithio gartref, dengys yr ymchwil hwn fod yn well gan 60% o’r sawl a ofynnwyd gael eu man gweithio pwrpasol eu hunain. Fodd bynnag, yr hyn sydd hyn yn oed yn fwy annisgwyl yw’r ffaith bod gweithio gartref yn apelio i 28% o weithwyr, sef cwymp sylweddol o 45% yn 2013. Gallai hyn gefnogi’r farn fod yn well gan lawer o weithwyr ymdeimlad o gydweithio y mae amgylchedd swyddfa’n ei gynnig a’r cyswllt cymdeithasol â chydweithwyr.

Er y dylai busnesau ystyried y casgliadau hyn yn ofalus, mae’n bwysig i’w pwyso a mesur manteision trefniadau gweithio mwy hyblyg ac ystwyth, gan fod y rhain yn cynnig gwelliannau mawr i rai o ran cyfathrebu ar draws timau a chydweithio, heb sôn am gydbwysedd rhwng bywyd personol a bywyd gwaith. Y pwynt allweddol efallai yw ystyried amrywiaeth eang y farn ac opsiynau a chadw cymaint o hyblygrwydd â phosib i staff er mwyn iddynt allu dewis eu hamgylchedd gweithio gorau heb effeithio’n andwyol ar anghenion eangach y busnes.

Felly pa gasgliadau a geir ynghylch ysgogiad gweithwyr a’i effaith berthynol ar recriwtio a chadw staff?

Yn gyffredinol, mae’n glir bod cyfuniad o ffactorau’n creu profiad gyrfa cadarnhaol i weithwyr a gall ddibynnu ar un o’r rhain yn unig, boed yn dâl, diwylliant, dilyniant gyrfa, manteision, gweithle neu weithio hyblyg, fod yn andwyol i allu eich busnes i recriwtio a chadw’r staff iawn.

Mae deall yr hyn sydd fwyaf perthnasol i’ch busnes, sector neu’r math o ymgeiswyr yr hoffech eu denu’n hanfodol, a bydd yn eich galluogi i dargedu’r hyn sydd gennych i’w gynnig i’r grŵp iawn o ddarpar weithwyr. Mae cyfathrebu effeithiol hefyd yn hollbwysig wrth reoli disgwyliadau gweithwyr, gan roi mynediad mwy i chi i’r bobl ddawnus y mae eu hangen arnoch.

Sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu?

Gall ein Hymgynghorwyr Gweithlu ymroddedig weithio gyda’ch busnes i gyflwyno amrywiaeth eang o gefnogaeth wedi’i theilwra er mwyn gwella ymroddiad gweithwyr a gwella cynllunio, dilyniant a chynhyrchiant yn y gweithle.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd yn cynnig recriwtio arbenigol a chefnogaeth baru drwy ein tîm o arbenigwyr mewn rheoli sgiliau sy’n gweithio gyda busnesau a’n banc eang o gleientiaid i baru’r ymgeisydd iawn â’r cyfle iawn.

Gall weithio gyda ni eich helpu i wella eich proses recriwtio, cadw staff a rheoli sgiliau er mwyn mwyafu potensial eich gweithlu. Ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael gwybod sut y gallwn ni helpu eich busnes:

Rhif ffôn: 01792 284450

E-bost: info@betterjobsbetterfutures.wales