Fel rhan o ddatblygiad parhaus ei ddarpariaeth cyflogadwyedd, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o garchardai er mwyn ehangu’r gefnogaeth a gynigir i gyn-droseddwyr.
Trwy ei raglen cyflogadwyedd blaenllaw sydd wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae’r Coleg wedi datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i gyn-droseddwyr sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar a’r rheini sy’n gwneud dedfrydau di-garchar yn y gymuned.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig rhaglenni unigol, penagored a hyblyg sydd yn helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib ar ôl cwblhau dedfrydau mewn carchardai. Yn ogystal, mae parhau i ddarparu cymorth i gyn-droseddwyr ar ôl iddynt ddod o hyd i waith yn ffactor bwysig iawn o’r rhaglen. Rydym yn gwneud hyn i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n ymwneud â chadw gwaith ac i hwyluso unrhyw ddarpar gynnydd i’r cyn-droseddwyr.
Hyd yma, mae’r rhaglen wedi ymgysylltu â dros 500 o unigolion sy’n adsefydlu eu hunain yn Abertawe, gan gynnwys Ashleigh a Jason. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud am y gefnogaeth a gawsant:
“Oherwydd fy euogfarn, roeddwn i’n bryderus iawn am ddod o hyd i swydd, ond rhoddodd y gefnogaeth a dderbyniais y fframwaith a’r hyder yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy ngyrfa ddelfrydol. Diolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydw i nawr yn cyflawni fy amcanion ac wedi ennill cymaint o sgiliau newydd. Rydw i wedi ennill llawer o brofiad hefyd wrth weithio mewn gyrfa gyffrous gydag elusen leol wych.”
Ashleigh
“Llwyddodd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cyfweliad i fi tra oeddwn yn y carchar. I mi, roedd hyn yn syfrdanol a theimlais ryddhad wrth ddarganfod fy mod i yn unigolyn cyflogadwy. Ar ôl cael fy rhyddhau, fe es i i’r Hyb Cyflogaeth i gwrdd â rhagor o’r tîm. Roedden nhw i gyd yn bositif iawn, ond yn bwysicach na hynny rodden nhw’n awyddus i siarad am fy sgiliau, fy mhrofiad, fy ngwybodaeth a fy amcanion ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na gweld fy euogfarn yn rhwystr. Roedd agwedd y tîm yn sicr wedi codi fy hyder, ac fe wnes i sicrhau swydd gyffrous iawn. Rydw i mor lwcus fy mod i’n gallu dweud bod fy nyfodol yn argoeli yn bositif ac yn addawol, diolch i gefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.”
Jason
Gwaith mewn carchardai
Mae’r rhaglen yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg er mwyn diwallu anghenion pob carchar a’i boblogaeth. Fel rheol, byddwn yn cyflwyno camau cyn-ymgysylltu cyn gynted a bo modd drwy gynnal sesiynau ymgynghori rhwng cleientiaid a Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig. Bwriad y sesiynau hyn yw ceisio meithrin ymddiriedaeth rhwng y cleient a’r hyfforddwr, yn ogystal â cheisio:
- ennill dealltwriaeth o anghenion cyflogadwyedd ac amcanion gyrfaol y cleient;
- trafod opsiynau a chyfleoedd cyflogaeth posib; a
- chreu cynllun unigol i bob cleient a fydd yn weithredol ar ôl eu rhyddhau
I gyd-fynd â’r gefnogaeth a gynigir mewn carchardai, mae Hyfforddwyr Gyrfa yn gweithio law yn llaw â’n Cynghorwyr Recriwtio a Gweithlu arbenigol er mwyn brocera cyfleoedd cyflogaeth priodol fel y gall cyn-droseddwyr sicrhau cyflogaeth mewn modd llyfn ar ôl cael eu rhyddhau.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda charchar HMP Parc, a dyma oedd gan Chris Roberts, Rheolwr Cyfundrefnau a Llwybrau Cyflogaeth i’w ddweud am y berthynas:
“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol (Coleg Gŵyr Abertawe) wedi bod yn cefnogi troseddwyr yn HMP Parc am ddeuddeg mis. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau cyflogadwyedd i garcharwyr sydd bron â gorffen eu dedfrydau, er mwyn eu cefnogi i ennill cyflogaeth cynialadwy ar ôl iddynt adael y carchar. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran adsefydlu troseddwyr, ac yn eu helpu i beidio â throseddu eto. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn rhoi ail gyfle i’r troseddwyr ac yn eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol a phositif i’w bywydau, er mwyn cefnogi eu cymunedau lleol.”
HMP Parc
Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu partneriaeth sefydlog gyda HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, er mwyn darparu llwybr cymorth tebyg i droseddwyr benywaidd sy’n adsefydlu yn ardal Abertawe. Dyma ddywedodd David Durrant, Pennaeth Lleihau Aildroseddu am y bartneriaeth:
“Mae’n wych ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol o Goleg Gŵyr Abertawe, ac rydyn ni’n hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r berthynas yn datblygu rhwng y ddau sefydliad. Rydyn ni’n hyderus y bydd y berthynas yn darparu cefnogaeth ychwanegol i droseddwyr benywaidd i sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth.” HMP Eastwood Park
Er gwaethaf yr heriau rydym yn eu profi oblegid Covid 19, mae’r coleg yn parhau i weithio gyda charchardai a gwasanaethau prawf i addasu dulliau darparu er mwyn sicrhau cysondeb o ran cynnig cefnogaeth i gyn-droseddwyr. Os hoffech wybod rhagor am y gefnogaeth rydym yn ei chynnig, cysylltwch â ni drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales
Rhian Noble
/in Straeon GyrfaTaith yw bywyd, nid cyrchfan – byddwch yn amyneddgar, gweithiwch yn galed a byddwch yn falch o’ch hun!
Read more
Dyma Courtney!
/in Dyfodol, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, NewyddionFe wnaeth Ashmole & Co, un o gwmnïau cyfrifyddiaeth mwyaf blaenllaw Cymru, recriwtio Courtney fel Prentis Gweinyddu Busnes ym mis Medi, ar ôl iddi gwblhau ei chyrsiau safon uwch mewn Saesneg (iaith a llen) a Chymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae hi’n mynd o nerth i nerth yn ei phrentisiaeth ac yn ennill profiad gwerthfawr iawn ym mhob agwedd ar weithrediadau busnes megis TG, AD a’r Gyflogres. Mae Courtney hefyd yn derbyn cymorth gwych gan ei chyflogwr, yn ymgymryd ag ystod eang o gyrsiau ar-lein ac mae hi’ gweithio tuag at ennill cymwysterau er mwyn cyflawni cynnydd yn gynt.
“Roedd dechrau swydd newydd yn ystod y pandemig yn anodd, ond mae’r cymorth a gefais gan Well Swyddi, Gwell Dyfodol, fy nheulu ac Ashmole & Co wedi bod yn galonogol iawn. Mae ymgymryd â phrentisiaeth yn opsiwn gwych i unrhyw un sydd eisiau ennill cyflog wrth ennill profiad yn y gweithle. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau busnes newydd er mwyn eu cyfuno a’m sgiliau presennol. Rydw i a’m teulu yn hapus fy mod wedi derbyn y cyfle hwn i ennill cymwysterau wrth ennill profiad ymarferol cyfatebol.” – Courtney, Prentis
“Roedd angen unigolyn aml-ddawnus ar y busnes i ddarparu cefnogaeth gyffredinol, ac roedd gennym lawer i’w gynnig i rywun a oedd am ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd busnes. Mae recriwtio prentis wedi yn ffordd wych o ddatblygu gweithle hyfforddedig Ashmole & Co, a braint yw chwarae rhan yn natblygiad gyrfaol Courtney. Un o’r manteision mwyaf sy’n gysylltiedig â recriwtio prentisiaid yw eu bod nhw’n meddu ar agwedd wych, maent yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu. Os ydych chi’n cael cyfle i recriwtio prentis, ewch amdani, gwnewch y mwyaf o’r cyfle.” – Sarah Stallard, Rheolwr AD, Ashmole & Co
“Wnaethon ni weithio gyda Sarah o Ashmole & Co i’w helpu nhw gyda’r broses ynghylch recriwtio a chyflwyno prentis i’w busnes, ac fe wnaethon ni’n siŵr bod y brentisiaeth yn addas i’r rôl ac i’r busnes. Wnaethon ni weithio gyda’n gilydd i hysbysebu’r brentisiaeth a dod o hyd i’r ymgeisydd cywir. Rwy’n hapus iawn ein bod wedi dod o hyd i Courtney, sydd bellach yn mwynhau ennill cyflog a phrofiad.” – Beth Fisher, Ymgynhorydd Gweithlu
Dyma Alina…
/in Dyfodol, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, NewyddionYn wreiddiol o Latvia, mae Alina wedi bod yn byw yn y DU am ddegawd, bellach. Mae hi’n 17 oed. Roedd hi’n awyddus i ddod o hyd i swydd yn y sector Peintio ac Addurno, ac fe wnaeth hi i dderbyn cymorth gan Well Swyddi, Gwell Dyfodol i ddiweddaru ei C.V, ennill cerdyn CSCS a chwilio am gyfleoedd priodol
Nid Saesneg yw mamiaith Alina, ac mae hi’n dod o deulu nad ydynt yn gweithio, felly mae hi wedi gorfod dibynnu ar lwfans cynhaliaeth addysg i’w chynnal ei hun yn ariannol. Roedd hi’n gwybod y byddai ceisio ffeindio prentisiaeth Peintio ac Addurno yn anodd, gan nad yw hi’n gyrru, ac mae’r rhan fwyaf o brentisiaethau Peintio ac Addurno yn nodi hyn fel gofyniad allweddol. Doedd hi ddim yn medru sicrhau cyflogaeth ran-amser chwaith gan ei bod yn gorfod gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Gyda chymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sicrhaodd Alina brentisiaeth yn syth a chwblhaodd hi bob un o’r arholiadau gofynnol. Cynigwyd y brentisiaeth iddi ar raddfa gyflog uwch ac mae cyflogwr Alina wedi bod yn gefnogol tu hwnt, ac maent am ei gweld yn datblygu mewn pob ffordd posib. Maen nhw hyd yn oed wedi cyfrannu’n ariannol tuag at wersi gyrru Alina.
“Yn ystod y cyfnod heriol hwn, wnes i dderbyn lot o gymorth. Ces lawer o help mewn gwersi a chydag adnoddau er mwyn ennill cerdyn CSCS, ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi fy helpu i ddod o hyd i’m prentisiaeth. Roedd y tîm yn cysylltu â mi i yn barhaus, felly doeddwn ddim yn poeni o gwbl am fy nyfodol.” – Alina, Client
“Mae Alina Newydd gychwyn ei phrentisiaeth addurno gyda ni ac mae hi’n barod yn rhoi o’i gorau. Mae hi’n barod yn aelod gwerthfawr o’r tîm ac rydyn ni’n siŵr y bydd hi’n datblygu llawer yn y dyfodol. Ni fyddwn ni wedi dod o hyd i Alina oni bai am help Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae’r cymorth parhaus wedi bod yn wych ac rydyn yn sicr yn argymell eu gwasanaeth i unrhyw un sydd yn recriwtio.” – Gweithiwr, Gower Paint Pro
Creu CV sy’n eich gwneud chi’n unigryw yng nghanol y dorf
/in CVsRydyn ni’n gwybod beth sydd ar eich meddwl … gyda chymaint o ymgeiswyr a chymaint o CV’s, sut mae bod yn unigryw yng nghanol y dorf a sicrhau fy mod yn cael cyfweliad am swydd fy mreuddwydion? Read more
Byddwch ar flaen y gad – gwnewch argraff gyntaf wych
/in Chwilio am swyddPan fyddwch yn ddi-waith, gall aros am y cyfle swydd iawn eich gadael yn teimlo’n ddigalon ac yn ddiegni. Mae’n hawdd teimlo ofn a chywilydd ynghylch eich statws cyflogaeth, ond mae’n hynod bwysig i barhau i wthio’ch hun. Beth am gymryd rheolaeth dros y sefyllfa a chynyddu’r tebygolrwydd y byddwch yn y lle cywir ar yr adeg gywir pan mae’r cyfle swydd delfrydol hwnnw’n codi? Read more
Craffu ar y cyfyngiadau symud!
/in Gwell Swyddi, Gwell DyfodolGyda’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, a’r Hyb Cyflogaeth yn ailagor ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb, nawr yw’r amser perffaith i edrych yn ôl ar bopeth sydd wedi cael ei gyflawni dros y misoedd diwethaf.
Addasodd yr Adran Gyflogadwyedd yn gyflym i weithio o bell, ac fe gyrhaeddodd a chefnogodd y gwasanaeth dros 3000 o unigolion. Ymatebodd cleientiaid a busnesau yn gadarnhaol iawn i’r newidiadau hyn, ac fe wnaethant elwa o’r gefnogaeth barhaus a oedd ar gael iddynt. Trwy gydol y cyfnod clo fe sicrhaodd nifer o gleientiaid rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol amrywiaeth o gyfleoedd gwych, ac fe wnaeth unigolion eraill barhau i wneud cynnydd parhaus mewn perthynas â’u ceisiadau. Fe wnaeth unigolion Reach+ wella eu sgiliau iaith a chyflogadwyedd drwy ein technegau dysgu rhithwir, ac fe barhaodd unigolion ‘Dyfodol Mentrus’ i wneud cynnydd gwych ar eu cynlluniau entrepreneuraidd.
Roedd ein cleientiaid newydd a’n cleientiaid presennol yn ddiolchgar iawn bod ein gwasanaeth wedi parhau trwy’r cyfnod hwn, oherwydd roedd lawer ohonynt yn ddi-waith ac yn dymuno cael gafael ar gymorth i’w helpu nhw i symud ymlaen i sicrhau swyddi. Roedd gan Lowrie, cleient Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol rhwystrau o ran sicrhau ei swydd delfrydol oherwydd nad oedd ganddi’r profiad, y cymwysterau na’r hyder i gwblhau cais. Derbyniodd gefnogaeth gan ei Hyfforddwr gyrfa Lynsey, i ddatblygu ei hyder yn ei gallu ac i ymgeisio ar gyfer rolau, cyn symud ymlaen i sicrhau ei swydd ddelfrydol.
Roedd hi hefyd yn galonogol i weld nifer o’n myfyrwyr coleg yn sicrhau swyddi a phrentisiaethau gwych o ganlyniad i’n cefnogaeth cyflogadwyedd. Roedd y myfyriwr Jade yn chwilio am y cyfle cywir i gydfynd â’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygodd wrth astudio cwrs mewn Bwyd a Diod.
Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol, mae nifer o sefydliadau wedi parhau i dyfu trwy gydol y cyfod clo, ac mae ein tîm o Ymgynghorwyr Gweithlu wedi bod yn barod i gefnogi cyflogwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau recriwtio a gweithlu.
Mae Order Uniform UK yn un sefydliad a welodd galw cynyddol am eu cynnyrch, sy’n golygu roedd angen iddynt gyflogi staff arbenigol ychwanegol mewn bach iawn o amser. Er i’r tîm rhoi nifer o’u gweithwyr ar gynllun ffyrlo (oherwydd roeddent yn meddwl y byddai llai o bobl yn prynu eu nwyddau), fe welwyd cynnydd mewn archebion, wrth i’w cystadleuwyr orfod cau dros dro. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu dod â staff yr oedd ar ffyrlo yn ôl i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl. Yn ogystal, roedd angen iddynt recriwtio aelodau tîm ar unwaith, a phrynu offer cynhyrchu newydd er mwyn ateb y galw o ran archebion.
Kelly Jenkins
Cyfarwyddwr Order Uniform UK.
Wrth i Abertawe weld cynnydd o ryw 70% yn y niferoedd sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra, a 20% o weithluoedd lleol yn gorfod rhoi eu staff ar ffyrlo, rydym yn paratoi ar gyfer cynnydd sylweddol mewn graddfa a sgôp yr unigolion a fydd angen ein cefnogaeth. Wrth i’r economi ailagor yn araf, rydym yn rhagweld galw cynyddol hefyd gan gyflogwyr i ddefnyddio ein gwasanaeth cymorth recriwtio, er mwyn inni helpu busnesau i fynd i’r afael â’u heriau gweithlu ac i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i unigolion rydym yn eu cefnogi i gael gwaith newydd neu well.
Os ydych chi’n chwilio am gyflogaeth newydd neu wahanol, neu os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cael gafael ar gymorth ar recriwtio neu’r gweithlu, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales neu ffoniwch 01792 284450.
Gwirfoddoli – rhowch gynnig arni!
/in CVsBydd unrhyw un sydd wedi rhoi o’i amser er budd achos da yn gwybod pa mor wych mae’n gallu teimlo i wneud cyfraniad gwerthfawr. Ond wyddech chi y gall gwirfoddoli gynnig nifer o fanteision personol a phroffesiynol eraill i bobl? Rydym ni wedi llunio rhestr gyflym o’r hyn a allai gwirfoddoli ei wneud i chi a’ch gyrfa, felly darllenwch ymlaen a rhowch gynnig arni! Read more
Beth mae’ch Olion Rhithiol yn dweud amdanoch chi?
/in Chwilio am swyddP’un ai’ch bod yn aficionado sy’n ymroddedig i gyfryngau cymdeithasol, neu rydych chi ond yn defnyddio rhai llwyfannau, gall y ffordd rydych chi’n portreadu’ch hun ar-lein gael mwy o effaith na fyddwch chi’n meddwl! Mae pob fideo rydych yn ei uwchlwytho, pob llun rydych yn ei ‘hoffi’ neu neges mae’ch post yn arwain at lunio darlun o bwy ydych chi, sef darlun y gall cyflogwyr gael mynediad hawdd iddo pan fyddant yn ceisio deall mwy am ddarpar weithiwr. Ond peidiwch â phoeni, mae bod yn graff ar gyfryngau cymdeithasol yn rhwydd os ydych chi’n gwybod pa faglau i’w hosgoi, ac rydym wedi casglu awgrymiadau euraidd i sicrhau bod eich olion rhithiol chi yn amlwg am y rhesymau iawn. Read more
Ailagor yr Hyb Cyflogaeth
/in Dyfodol, Fusnes, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, Newyddion, Uncategorized, Ymchwil a dadansoddiadRydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ac yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’r adeilad ac wedi rhoi ar waith yr holl ragofalon a’r mesurau angenrheidiol er mwyn darparu ein gwasanaeth mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a hamddenol.
I ddarganfod sut y gallwn ni helpu eich taith cyflogaeth chi, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales
Craffu ar … cyn-droseddwyr
/in NewyddionFel rhan o ddatblygiad parhaus ei ddarpariaeth cyflogadwyedd, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o garchardai er mwyn ehangu’r gefnogaeth a gynigir i gyn-droseddwyr.