Craffu ar … cyn-droseddwyr

Fel rhan o ddatblygiad parhaus ei ddarpariaeth cyflogadwyedd, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o garchardai er mwyn ehangu’r gefnogaeth a gynigir i gyn-droseddwyr.

 

Trwy ei raglen cyflogadwyedd blaenllaw sydd wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae’r Coleg wedi datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i gyn-droseddwyr sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar a’r rheini sy’n gwneud dedfrydau di-garchar yn y gymuned.

 

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig rhaglenni unigol, penagored a hyblyg sydd yn helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib ar ôl cwblhau dedfrydau mewn carchardai. Yn ogystal, mae parhau i ddarparu cymorth i gyn-droseddwyr ar ôl iddynt ddod o hyd i waith yn ffactor bwysig iawn o’r rhaglen. Rydym yn gwneud hyn i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n ymwneud â chadw gwaith ac i hwyluso unrhyw ddarpar gynnydd i’r cyn-droseddwyr.

 

Hyd yma, mae’r rhaglen wedi ymgysylltu â dros 500 o unigolion sy’n adsefydlu eu hunain yn Abertawe, gan gynnwys Ashleigh a Jason. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud am y gefnogaeth a gawsant:

 

“Oherwydd fy euogfarn, roeddwn i’n bryderus iawn am ddod o hyd i swydd, ond rhoddodd y gefnogaeth a dderbyniais y fframwaith a’r hyder yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy ngyrfa ddelfrydol. Diolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rydw i nawr yn cyflawni fy amcanion ac wedi ennill cymaint o sgiliau newydd. Rydw i wedi ennill llawer o brofiad hefyd wrth weithio mewn gyrfa gyffrous gydag elusen leol wych.”
Ashleigh

 

 

“Llwyddodd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cyfweliad i fi tra oeddwn yn y carchar. I mi, roedd hyn yn syfrdanol a theimlais ryddhad wrth ddarganfod fy mod i yn unigolyn cyflogadwy. Ar ôl cael fy rhyddhau, fe es i i’r Hyb Cyflogaeth i gwrdd â rhagor o’r tîm. Roedden nhw i gyd yn bositif iawn, ond yn bwysicach na hynny rodden nhw’n awyddus i siarad am fy sgiliau, fy mhrofiad, fy ngwybodaeth a fy amcanion ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na gweld fy euogfarn yn rhwystr. Roedd agwedd y tîm yn sicr wedi codi fy hyder, ac fe wnes i sicrhau swydd gyffrous iawn. Rydw i mor lwcus fy mod i’n gallu dweud bod fy nyfodol yn argoeli yn bositif ac yn addawol, diolch i gefnogaeth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.”
Jason

 

Gwaith mewn carchardai

 

Mae’r rhaglen yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg er mwyn diwallu anghenion pob carchar a’i boblogaeth. Fel rheol, byddwn yn cyflwyno camau cyn-ymgysylltu cyn gynted a bo modd drwy gynnal sesiynau ymgynghori rhwng cleientiaid a Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig. Bwriad y sesiynau hyn yw ceisio meithrin ymddiriedaeth rhwng y cleient a’r hyfforddwr, yn ogystal â cheisio:

 

  • ennill dealltwriaeth o anghenion cyflogadwyedd ac amcanion gyrfaol y cleient;
  • trafod opsiynau a chyfleoedd cyflogaeth posib; a
  • chreu cynllun unigol i bob cleient a fydd yn weithredol ar ôl eu rhyddhau

 

I gyd-fynd â’r gefnogaeth a gynigir mewn carchardai, mae Hyfforddwyr Gyrfa yn gweithio law yn llaw â’n Cynghorwyr Recriwtio a Gweithlu arbenigol er mwyn brocera cyfleoedd cyflogaeth priodol fel y gall cyn-droseddwyr sicrhau cyflogaeth mewn modd llyfn ar ôl cael eu rhyddhau.

 

Mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda charchar HMP Parc, a dyma oedd gan Chris Roberts, Rheolwr Cyfundrefnau a Llwybrau Cyflogaeth i’w ddweud am y berthynas:

 

“Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol (Coleg Gŵyr Abertawe) wedi bod yn cefnogi troseddwyr yn HMP Parc am ddeuddeg mis. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau cyflogadwyedd i garcharwyr sydd bron â gorffen eu dedfrydau, er mwyn eu cefnogi i ennill cyflogaeth cynialadwy ar ôl iddynt adael y carchar. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran adsefydlu troseddwyr, ac yn eu helpu i beidio â throseddu eto. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn rhoi ail gyfle i’r troseddwyr ac yn eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol a phositif i’w bywydau, er mwyn cefnogi eu cymunedau lleol.”

HMP Parc

Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu partneriaeth sefydlog gyda HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, er mwyn darparu llwybr cymorth tebyg i droseddwyr benywaidd sy’n adsefydlu yn ardal Abertawe. Dyma ddywedodd David Durrant, Pennaeth Lleihau Aildroseddu am y bartneriaeth:

 

“Mae’n wych ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol o Goleg Gŵyr Abertawe, ac rydyn ni’n hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r berthynas yn datblygu rhwng y ddau sefydliad. Rydyn ni’n hyderus y bydd y berthynas yn darparu cefnogaeth ychwanegol i droseddwyr benywaidd i sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth.” HMP Eastwood Park

 

Er gwaethaf yr heriau rydym yn eu profi oblegid Covid 19, mae’r coleg yn parhau i weithio gyda charchardai a gwasanaethau prawf i addasu dulliau darparu er mwyn sicrhau cysondeb o ran cynnig cefnogaeth i gyn-droseddwyr. Os hoffech wybod rhagor am y gefnogaeth rydym yn ei chynnig, cysylltwch â ni drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales