Rhian Noble

 

Taith yw bywyd, nid cyrchfan – byddwch yn amyneddgar, gweithiwch yn galed a byddwch yn falch o’ch hun!

 

Cawsom sgwrs gyda’r Cydlynydd Rhaglen Cyflogadwyedd, Rhian Noble. Buom yn trafod sut mae gan bawb y gallu i greu eu taith gyrfa eu hunain a’r gwahanol deithiau gall bobl eu cymryd er mwyn bod yn llwyddiannus. Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa rymus sy’n profi nad yw’r daith yn un llyfn bob tro, ond yn sicr mi fydd yn un gwerth chweil yn y pendraw.

 

A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?

Ar ôl i fi orffen yn yr ysgol uwchradd, fe astudiais gwrs NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch yng Ngholeg Gŵyr. Roeddwn i hefyd yn gweithio rhan-amser mewn salon harddwch, er mwyn ennill rhywfaint o brofiad a oedd yn berthnasol i fy nghwrs. Ar ôl treulio dwy flynedd yn y coleg, ac ar ôl cwblhau cymhwyster lefel 3, fe es i weithio’n llawn amser. Dyma ddechrau fy stori yrfa!

Pa gyfeiriad wnes di ddilyn ar ôl cwblhau dy addysg?

Ar ôl cwblhau’r cwrs lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr, fe ges i swydd amser llawn mewn rôl therapi harddwch gyda Chlwb Iechyd a Raced Morgannwg. Fe weithiais yno am 4 blynedd cyn i glinig newydd o’r enw Parc Oaktree ofyn i fi helpu nhw i lansio eu cwmni. Roeddwn i’n gyffrous iawn am y cyfle newydd hwn, ac ro’n i wrth fy modd yn helpu busnes newydd sbon i sefydlu ei hun, fel petai. Fe weithiais yn galed yn y rôl hon ac fe wnaeth fy nghymhelliant ac a’m meddylfryd cadarnhaol talu ar ei ganfed, wrth i fi symud ymlaen i weithio fel Rheolwr Cynorthwyol. Her newydd i fi, ond fe wnes i wneud y mwyn ohoni; ro’n i’n angerddol am hyfforddiant a datblygiad staff felly wnes i fynd i’r afael â gwaith o’r fath mewn unrhyw ffordd bosib. Rwy’n hoff o weld pobl yn datblygu ac yn magu hyder, ac mae fy angerdd am hyfforddiant a DPP yn rhywbeth sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod fy nhaith gyrfa.

Ym mha ffordd mae dy lwybr gyrfa wedi datblygu?

Fe es i ar gyfnod mamolaeth yn ystod fy nghyfnod gyda Pharc Oaktree i roi genedigaeth i fy mab cyntaf, ac ar ôl dychwelyd i’r rôl, fe benderfynais weithio oriau rhan-amser am ddwy flynedd. Ar ôl hyn, fe ges i swydd fel Cynorthwyydd Dysgu mewn Ysgol Gynradd Gymraeg lleol, yn cefnogi plant o’r meithrin hyd at flwyddyn 6. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ddechreuais weithio hefyd fel Darlithydd ac Asesydd Therapïau Harddwch a Holistaidd, ac fe benderfynais astudio cwrs TAR. Roedd hwn yn gyfnod prysur iawn i fi, wrth i fi geisio cadw cydbwysedd rhwng gwaith a fy mywyd personol, ond, fe wnaeth hyn yn sicr fy helpu fi i fagu ychydig o hyder, a dyma’r cyfnod lle wnes i ddechrau credu ynof fy hun i greu gyrfa lwyddiannus (gan barhau i jyglo fy nheulu ifanc!). Ar ôl cwblhau’r cwrs TAR, fe ddechreuais weithio fel Darlithydd mewn Therapïau Harddwch a Holistaidd i Goleg Gŵyr Abertawe. Profais sawl cyfle gwahanol yn y rôl hon, ac roeddwn i’n gorfod fetio a monitro lleoliadau gwaith, cefnogi gyda dysgu seiliedig ar waith, asesu yn y gweithle a darparu cymorth a chyngor mewn perthynas â chyflogaeth i fyfyrwyr a oedd yn ceisio sicrhau rolau o fewn y diwydiant harddwch. Yn y rôl hon ces i fy mhrofiad cyntaf o ddarparu cymorth cyflogadwyedd, ac roedd diddordeb gen i mewn dysgu rhagor am y sector a’r ddarpariaeth a oedd ar gael i bobl ifanc ar ddechrau eu taith gyrfa.

A wnaeth dy lwybr gyrfa newid cyfeiriad ar ôl i ti gael plant?

Pan oeddwn i’n disgwyl fy nhrydydd plentyn, fe ges i gyfweliad ar gyfer rôl Hyfforddwr Gyrfa gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Ar y pryd, roeddwn i’n barod i ganolbwyntio’n llwyr ar un rôl ac adeiladu gyrfa ddiogel a cadarn, er lles fy hun a’m teulu. Roeddwn i wrth fy modd pan wnes i sicrhau’r rôl, ac roeddwn i’n teimlo fy mod wedi dechrau pennod newydd, cyffrous o fy mywyd, yn bersonol ac yn broffesiynol. Galluogodd y rôl hyfforddi i fi ddefnyddio fy sgiliau trosglwyddadwy a fy mhrofiad o ddarparu cymorth, ac fe wnes i fwyaf o’r cyfle, gan geisio dysgu cymaint â phosib am gyflogadwyedd. Rwy’n caru dysgu, ac roedd hyn yn gyfnod hyfryd o fy ngyrfa, ac wrth edrych nôl, rwy’n hapus iawn pan rydw i’n meddwl am yr holl atgofion. Ro’n i’n hapus iawn pan ofynnwyd i fi gefnogi staff newydd i integreiddio i’w rôl; ac fe ges i gyfle i roi fy mhrofiad mewn hyfforddi ac addysgu ar waith. Roeddwn i wrth fy modd yn mentora cydweithwyr newydd. Ces i gyfle hefyd i gwblhau cymhwyster lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, ac fe ddysgais wybodaeth werthfawr y gwyddwn a fyddai’n helpu rhoi hwb i fy ngyrfa. Ar ôl 2 flynedd yn gweithio fel Hyfforddwr Gyrfa, fe gododd cyfle yn y sefydliad i weithio fel Cydlynydd Prosiect Cyflogadwyedd, ac ro’n i’n gwybod yn syth fy mod am ymgeisio am y rôl. Roeddwn i wedi datblygu cymaint yn broffesiynol mewn cyn lleied o amser, ac roeddwn i eisiau gweld faint yn fwy roeddwn i’n gallu ei wneud, a beth arall roeddwn i’n gallu ei gyflawni! Roeddwn i’n gwybod fy mod yn gweithio mewn amgylchedd a oedd yn cefnogi fy natblygiad, ac roeddwn i eisiau rhoi fy sgiliau, fy mhrofiad a’m cymwysterau newydd ar waith. Roeddwn i wrth fy modd ar ôl sicrhau’r swydd.

Rydw i’n ddiolchgar iawn fy mod yn gweithio i sefydliad sy’n gefnogol iawn o famau sydd eisiau cyflawni eu potensial a’u nodau, wrth gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd personol a gwaith. Mae fy nheulu yn bwysig iawn i fi ac nad oeddwn eisiau i’r ffaith fy mod yn fam fy rhwystro mewn unrhyw ffordd. Mae fy swydd yn dweud wrth bobl fy mod i’n llawer mwy na ‘mam’ yn unig, ac mae’r ymdeimlad hyn o annibyniaeth yn bwysig iawn i fi. Mae fy ngwaith yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi y tu allan i’r cartref, ac rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso achos fy mod i’n gallu creu teulu a gyrfa lwyddiannus ar yr un pryd.

Oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?

Rhywbryd yn ystod fy addysg, hoffwn pe bawn wedi dysgu sut i greu ceisiadau swydd. Sgil pwysig yw gwybod sut i ddarllen swydd ddisgrifiad yn effeithiol a sut i nodi’r wybodaeth hanfodol ynddi er mwyn paru sgiliau a phrofiad â’r gofynion yn llwyddiannus. Mae sgiliau cyflogadwyedd y hanfodol, a hoffwn pe bawn wedi gwybod ynghynt sut i nodi fy sgiliau trosglwyddadwy er mwyn creu gwell geisiadau. Rwy’n falch iawn fy mod i nawr mewn sefyllfa lle dw i’n gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth i’r rhai sydd yn dechrau eu taith gyrfa, neu i’r rhai sydd eisiau newid cyfeiriad eu bywyd. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu ac i wneud newidiadau cadarnhaol. Rwy’n ceisio canolbwyntio ar beth rwy’n ei wybod, a sut ydw i’n gallu defnyddio’r wybodaeth hyn i helpu eraill.

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ymgeisio am swyddi?

Peidiwch â rhuthro! Rhowch amser i chi’ch hun i weithio ar geisiadau, a threuliwch digon o amser yn prawfddarllen yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu a pheidiwch â bod ofn gofyn i rywun ddarllen eich cais; mae gofyn am help yn arwydd o gryfder, nid gwendid, a pho fwyaf o help a gewch, y mwyaf tebygol ydych chi o greu cais gwych a fydd yn dal sylw’r cyflogwr. Mae’n bwysig hefyd i chi ymchwilio’r cwmni rydych yn gwneud cais i weithio ynddo, gan ffeindio allan am eu diwylliant a’u gwerthoedd; gan wneud yn siŵr eich bod yn addas i weithio i’r buses a darganfod a yw’r busnes yn addas ar eich cyfer chi – mae’n gweithio’r ddwy ffordd.

Cyngor gorau?

Byddwch yn weithgar – mae amheuaeth yn dinistrio mwy o freuddwydion na methiant! Mae diffyg hyder a nerfusrwydd yn hollol naturiol wrth wneud ceisiadau ac wrth gymryd rhan mewn cyfweliadau, ond rhaid i chi roi popeth i mewn i’r broses – mi fydd dawn a sgiliau yn ddigon ichi gael eich troed trwy’r drws, ond eich cymeriad fydd yn eich cadw yn yr ystafell. Arhoswch yn driw i’ch hun a’ch gwerthoedd; mae dangos gonestrwydd a pharch yn ffordd hawdd o feithrin ymddiriedaeth a pherthynas da rhyngoch chi a’r cyflogwr. Credwch yn eich hun, ac mi fydd popeth arall yn cwympo i’w le!