Cath Jenkins

“Peidiwch â gadael i’r ofn o wneud y penderfyniad anghywir lywio eich dewisiadau”

A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?

Es i Goleg Gorseinon i astudio cyrsiau safon uwch mewn Saesneg (iaith a llenyddiaeth) a Seicoleg. Roedd yn well gen i’r coleg na’r ysgol o lawer, ac fe wnaeth y profiad fy ngwneud yn llawer mwy annibynnol. Trwy fynychu’r Coleg, fe wnes i osod sylfeini cadarn ar gyfer fy nyfodol. Fe wnes i’n well na’r disgwyl yn fy nghyrsiau Safon Uwch ac fe ges i le i astudio gradd mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, ond, nid dyma beth roeddwn i wirioneddol am ei wneud – roeddwn i’n barod i ddechrau gweithio. Felly, symudais yn ôl i Abertawe ac fe wnes i sicrhau rôl gyda Gwasanaeth Gyflogaeth Canolfan Waith Abertawe. Dyma oedd ddechrau fy ngyrfa mewn cyflogadwyedd, er, doeddwn i ni ddim yn gwybod hynny ar y pryd!

Pa gyfeiriad wnes di ddilyn ar ôl cwblhau dy addysg?

Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o rolau dros dro yn y Ganolfan Waith, fe dderbyniais swydd fel derbynnydd yng Nghanolfan Ffordd y Brenin Coleg Abertawe, ac fe wnes i hefyd ddychwelyd i fyd addysg trwy’r Brifysgol Agored. Roeddwn i wedi synnu o weld pa mor effeithiol oedd y dull hwn o ddysgu, ac fe wnaeth hyn fagu fy hyder. Ar ôl i’r Coleg sicrhau contract menter Cyflogadwyedd newydd, ces fy annog i ymgeisio am rôl Mentor, ac roeddwn yn falch iawn o dderbyn y swydd. Ychydig ar ôl hynny, ces fy nyrchafu i rôl Cydlynydd, wrth i’r rhaglen fynd o nerth i nerth.

Ym mha ffordd mae dy lwybr gyrfa wedi newid?

Ar ôl gweithio fel rhan o ystod eang o raglenni Cyflogadwyedd, fe ddaeth cyfle i fi newid cyfeiriad fy llwybr gyrfa yn llwyr, felly, fe wnes i ymuno ag Adran Addysg y gwasanaeth sifil yng Nghynulliad Cenedlaethol Crymu (enw’r sefydliad ar y pryd!). Roedd yn brofiad anhygoel, a cyffrous oedd gweithio yn ystod cyfnod pwysig iawn lle gwelwyd pwerau’n cael eu datganoli i Gymru. Dyma oedd dechrau fy llwybr gyrfa yn y gwasanaeth sifil. Er hyn, fe dreuliais rhai blynyddoedd gwych yn gweithio ym maes Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, cyn ail-ymuno â’r hyn a elwid ar y pryd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roeddwn i’n lwcus iawn i sicrhau swydd gyda Chynllun Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil. Fe ges i gyfleoedd gwych yn y swydd hon gan weithio mewn nifer o rolau uchel eu proffil, gan gynnwys ysgrifennu areithiau i weinidogion, datblygu polisïau a rhaglenni i weithwyr hŷn a  phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant ac arwain adolygiad sgiliau yn y sector gofal. Yn y diwedd, fe wnes i setlo mewn rôl yn gweithio ar bolisi a rhaglenni cyllido’r UE, a oedd yn faes newydd i fi. Roeddwn i’n eithaf nerfus oherwydd fy niffyg profiad yn y maes! Er hyn, roeddwn i’n lwcus iawn i weithio gyda chydweithwyr gwych a oedd yn gefnogol iawn. Fe wnaethon nhw gymaint o wahaniaeth i fi ac i’r hyn roeddwn i’n gallu ei gyflawni.

Ar ôl hyn, fe weithiais mewn rolau gwahanol gyda Llywodraeth Cymru, ac fe ges i gyfle i ddychwelyd i fyd Cyflogadwyedd, yn gyntaf fel Pennaeth Cyflogadwyedd ac yna fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Sgiliau. Yn dilyn y rolau hyn, ces gyfle i weithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Chyllid yr UE – gan osod cyfeiriad i’r math o raglenni roeddwn i wedi eu darparu ar ddechrau fy ngyrfa, ac fe wnaeth hyn i fi sylweddoli pa mor bell roeddwn i wedi mynd yn yrfaol.

Er hyn, fe wnaeth i fi sylweddoli hefyd yr hyn roeddwn i wedi’i adael ar ei ôl, ac ar ôl treulio bron i 17 o flynyddoedd yn gweithio yn y gwasanaeth sifil, fe benderfynais symud yn ôl i’r man lle cychwynnodd fy llwybr gyrfa, ond yn bwysicach, i weithio mewn rôl roeddwn i’n angerddol amdani. Fe welais swydd yn cael ei hysbysebu yng ngholeg Gŵyr Abertawe i ddatblygu mentrau Cyflogadwyedd newydd. Roedd yr amseru yn berffaith. Roeddwn i’n ymwybodol bod sawl person yn credu ei fod yn benderfyniad rhyfedd i roi’r gorau i swydd a gyrfa a oedd wedi cynnig cyfleoedd gwych i fi (ac rwy’n dal i ddiolch i’r rhai a ddywedodd fy mod n ‘ddewr’, hyd yn oed os oedden nhw’n meddwl fel arall!), ond roedd gen i deimlad yn fy stumog mai dyma oedd y peth iawn i’w wneud, felly es i amdani! Bedair blynedd yn ddiweddarach, ac yn gweithio fel rhan o dîm anhygoel sydd wedi darparu cymorth i dros 6,755 o bobl a 450 o fusnesau (hyd yma), rydw i wedi dychwelyd i’r union un adeilad ag yr oeddwn yn gweithio fel derbynnydd 20 mlynedd yn ôl – mae dilyn fy ngreddf wedi talu ar ei ganfed!

Oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?

Roeddwn i’n lwcus iawn i gael rhieni cefnogol ac ysgogol, ni waeth pa gyfeiriad gyrfaol  roeddwn am ei ddilyn. Er bod rhai wedi ystyried fy nghamau gyrfaol cynnar yn gamgymeriadau, neu hyd yn oed fy nghamau gyrfaol diweddar, rydw i wedi dysgu o bob profiad ac wedi symud ymlaen. Dyma pam rydw i wastad wedi eisiau helpu pobl nad ydynt wedi derbyn llawer o gymorth. Pe bawn i’n gwneud yr holl beth unwaith eto, byddwn i’n derbyn y ffaith nad oes gen i ateb i bob her, ac mi fyddwn yn cadw fy meddwl yn agored i bosibiliadau, gan weithio’n galed iawn. Byddwch yn dod ar draws cyfleoedd delfrydol yn ystod eich bywyd – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ymddangos mor berffaith ag yr oeddech wedi’u dychmygu!

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ymgeisio am swyddi?

Ymchwiliwch – bydd hyn yn talu ffordd! Gofynnwch i rywun wirio eich cais a chywiro unrhyw gamsillafiadau neu gamgymeriadau gramadegol – byddwch chi wedi treulio cymaint o amser yn perffeithio eich cais fel na fyddwch yn medru gweld y camgymeriadau amlwg. Byddwch yn driw i chi eich hun a gadewch i’ch personoliaeth serenni – bydd gwenu yn eich ymlacio chi a’r cyfwelwyr, sydd bob tro yn arwain at well gyfweliad!

Cyngor gorau?

Peidiwch â gadael i’r ofn o wneud y penderfyniad anghywir lywio eich dewisiadau. Os oes gennych deimlad cryf dros wneud rhywbeth, hyd yn oed os yw’r holl gyngor rydych chi’n ei dderbyn yn dweud fel arall, ewch amdani. Wedi’r cyfan, chi sydd yn adnabod eich hun yn well na neb arall!