Craffu ar y cyfyngiadau symud!

Gyda’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, a’r Hyb Cyflogaeth yn ailagor ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb, nawr yw’r amser perffaith i edrych yn ôl ar bopeth sydd wedi cael ei gyflawni dros y misoedd diwethaf.

Addasodd yr Adran Gyflogadwyedd yn gyflym i weithio o bell, ac fe gyrhaeddodd a chefnogodd y gwasanaeth dros 3000 o unigolion. Ymatebodd cleientiaid a busnesau yn gadarnhaol iawn i’r newidiadau hyn, ac fe wnaethant elwa o’r gefnogaeth barhaus a oedd ar gael iddynt. Trwy gydol y cyfnod clo fe sicrhaodd nifer o gleientiaid rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol amrywiaeth o gyfleoedd gwych, ac fe wnaeth unigolion eraill barhau i wneud cynnydd parhaus mewn perthynas â’u ceisiadau. Fe wnaeth unigolion Reach+ wella eu sgiliau iaith a chyflogadwyedd drwy ein technegau dysgu rhithwir, ac fe barhaodd unigolion ‘Dyfodol Mentrus’ i wneud cynnydd gwych ar eu cynlluniau entrepreneuraidd.

Roedd ein cleientiaid newydd a’n cleientiaid presennol yn ddiolchgar iawn bod ein gwasanaeth wedi parhau trwy’r cyfnod hwn, oherwydd roedd lawer ohonynt yn ddi-waith ac yn dymuno cael gafael ar gymorth i’w helpu nhw i symud ymlaen i sicrhau swyddi. Roedd gan Lowrie, cleient Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol rhwystrau o ran sicrhau ei swydd delfrydol oherwydd nad oedd ganddi’r profiad, y cymwysterau na’r hyder i gwblhau cais. Derbyniodd gefnogaeth gan ei Hyfforddwr gyrfa Lynsey, i ddatblygu ei hyder yn ei gallu ac i ymgeisio ar gyfer rolau, cyn symud ymlaen i sicrhau ei swydd ddelfrydol.

“Roeddwn i wedi cael llond bol ar fy swydd bresennol ac roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw swyddi eraill ar gael i mi, felly wnes i gysylltu â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael help a chyngor. Fe helpon nhw fi i wirio fy CV ac fe sgwrsiais gyda nhw am y swyddi roeddwn i eisiau. Ar ôl rhyngweithio a thrafod â’r tîm yn ddyddiol am swyddi, dw i bellach wedi sicrhau fy swydd ddelfrydol yn y sector Gofal. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael y swydd hon, yn enwedig yn ystod y pandemig.”

Roedd hi hefyd yn galonogol i weld nifer o’n myfyrwyr coleg yn sicrhau swyddi a phrentisiaethau gwych o ganlyniad i’n cefnogaeth cyflogadwyedd. Roedd y myfyriwr Jade yn chwilio am y cyfle cywir i gydfynd â’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygodd wrth astudio cwrs mewn Bwyd a Diod.

“Yn ystod y cyfnod heriol hwn dw i wedi derbyn cefnogaeth gan Lisa, fy Hyfforddwr gyrfa. Heb help Lisa, fyddwn i ddim wedi cyflawni llawer o ddim. Fe helpodd hi fi gyda fy CV ynghyd â darparu cymorth i mi yn ddyddiol. O’r diwedd, dw i wedi dod o hyd i swydd berffaith mewn bwyty.”

Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol, mae nifer o sefydliadau wedi parhau i dyfu trwy gydol y cyfod clo, ac mae ein tîm o Ymgynghorwyr Gweithlu wedi bod yn barod i gefnogi cyflogwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau recriwtio a gweithlu.

Mae Order Uniform UK yn un sefydliad a welodd galw cynyddol am eu cynnyrch, sy’n golygu roedd angen iddynt gyflogi staff arbenigol ychwanegol mewn bach iawn o amser. Er i’r tîm rhoi nifer o’u gweithwyr ar gynllun ffyrlo (oherwydd roeddent yn meddwl y byddai llai o bobl yn prynu eu nwyddau), fe welwyd cynnydd mewn archebion, wrth i’w cystadleuwyr orfod cau dros dro. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu dod â staff yr oedd ar ffyrlo yn ôl i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl. Yn ogystal, roedd angen iddynt recriwtio aelodau tîm ar unwaith, a phrynu offer cynhyrchu newydd er mwyn ateb y galw o ran archebion.

“Diolch i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am y cymorth datblygu a chynllunio parhaus. Rydyn ni wedi gallu addasu disgrifiadau swyddi ac wedi hysbysebu rolau yn gyflym. Rydyn ni hefyd wedi rhoi proses recriwtio deg ar waith sy’n defnyddio matricsau sgorio cyfweliadau er mwyn gallu recriwtio’r staff cywir i ymuno â’r tîm yn syth yn ystod y cyfnod clo.”

Kelly Jenkins
Cyfarwyddwr Order Uniform UK.

Wrth i Abertawe weld cynnydd o ryw 70% yn y niferoedd sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra, a 20% o weithluoedd lleol yn gorfod rhoi eu staff ar ffyrlo, rydym yn paratoi ar gyfer cynnydd sylweddol mewn graddfa a sgôp yr unigolion a fydd angen ein cefnogaeth. Wrth i’r economi ailagor yn araf, rydym yn rhagweld galw cynyddol hefyd gan gyflogwyr i ddefnyddio ein gwasanaeth cymorth recriwtio, er mwyn inni helpu busnesau i fynd i’r afael â’u heriau gweithlu ac i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i unigolion rydym yn eu cefnogi i gael gwaith newydd neu well.

Os ydych chi’n chwilio am gyflogaeth newydd neu wahanol, neu os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cael gafael ar gymorth ar recriwtio neu’r gweithlu, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio: info@betterjobsbetterfutures.wales neu ffoniwch 01792 284450.