CYNLLUNIO AR GYFER OLYNIAETH: 4 rheswm pam mae’n rhaid i’ch cwmni ei fabwysiadu.

Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i sicrhau bod eich busnes yn gallu rhedeg yn effeithiol pan gaiff aelodau allweddol o staff eu dyrchafu, yn ymddeol neu’n symud ymlaen am resymau eraill.

Mae adnabod pa rai o’ch cyflogeion allweddol fydd yn camu i rolau arweinyddiaeth, uwch-reoli a/neu rolau sy’n bwysig i fusnes felly yn hanfodol i gynnal parhad busnes. Ond mae manteision eraill hefyd. Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth ydyn nhw. Read more

HANFODION RECRIWTIO

Mae recriwtio effeithiol yn hanfodol ar gyfer pob busnes, ond mae’n broses y mae llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd. Dyma drosolwg  byr ar gamau hanfodol y broses recriwtio i’ch helpu i ddechrau arni. Read more

Her fawr y gweithlu

Ar yr wyneb, mae’r newyddion diweddar sy’n tynnu sylw at lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth fel pe bai’n awgrymu darlun iach iawn ar gyfer busnesau ledled Cymru, ond o edrych dan yr wyneb, mae’n ymddangos bod y gostyngiad parhaus sydd i’w groesawu mewn lefelau diweithdra’n celu’r her wirioneddol i’r gweithlu. Mae’n ymddangos bod y mater yma’n ymwneud mwy yn awr â thangyflogaeth, a thanddefnyddio’r gweithlu presennol, sy’n cael effaith uniongyrchol ar lefelau cynhyrchiant.

Read more

3 ffordd sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu busnesau ar draws Abertawe

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen newydd sbon gan Goleg Gŵyr Abertawe sydd â’r nod o helpu busnesau i recriwtio, cadw a datblygu eu staff. Rydym yn gweithio gyda busnesau sy’n cyflogi pobl o Abertawe a’r cyffiniau i ddarparu ystod eang o gymorth i wella ymgysylltu â chyflogeion a gwella cynllunio, dilyniant a chynhyrchiant yn y gweithle. Trwy hyfforddwyr gyrfa arbenigol a mynediad i bortffolio ehangach o gymorth sgiliau gan y coleg, rydym yn gweithio gydag unigolion sy’n chwilio am waith newydd neu well i’w paru â’r cyfleoedd iawn gyda chyflogwyr lleol ac i’w paratoi i fod yn gyflogeion effeithiol. Read more

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol: 3 rheswm pam mae menter cyflogadwyedd newydd sbon Abertawe yn unigryw

Mae ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ yn rhaglen cyflogadwyedd newydd sy’n helpu pobl yn Abertawe i chwilio am gyflogaeth newydd neu well a busnesau sy’n ceisio datblygu ac ehangu eu gweithlu. Yma, mae’r Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd, Cath Jenkins, yn esbonio pam mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn wahanol i unrhyw raglen cyflogadwyedd arall. Read more

Rhaglen newydd yn barod i gryfhau gweithlu’r ddinas

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio menter newydd sbon gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar gyflogadwyedd a dilyniant yn y gwaith yn ardal Abertawe.

Bydd y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni uwchsgilio presennol y coleg i helpu pobl ddi-waith i gael hyd i swydd, a helpu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth i gael gwell swyddi trwy gyngor a mentora wedi’u teilwra’n unigol. Read more

BJBF team with Trundle

Rhwydweithiau tîm newydd yn ystod gêm yr Elyrch

Yn ddiweddar, aeth tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i weld Dinas Abertawe yn chwarae yn erbyn Newcastle yn un o gemau cartref cyntaf y tymor yn Stadiwm Liberty. Roedd cynrychiolwyr o Fusnes Cymru a Dinas a Sir Abertawe wedi ymuno â’r tîm.

“Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â busnesau ar draws Abertawe a rhwydweithio gyda nhw,” dywedodd Cath Jenkins, Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd.

“Roedden ni hefyd yn gallu dechrau codi ymwybyddiaeth o’n rhaglen newydd sef Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol fydd yn cael ei lansio ar ddydd Gwener 29 Medi.”

BJBF Team

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – ar agor nawr!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio menter newydd sbon gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar gyflogadwyedd a dilyniant yn y gwaith yn ardal Abertawe.

Bydd y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni uwchsgilio presennol y coleg i helpu pobl ddi-waith i gael hyd i swydd, a helpu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth i gael gwell swyddi trwy gyngor a mentora wedi’u teilwra’n unigol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01792 284450.