Byddwch ar y blaen – gwnewch eich gwaith ymchwil

Mae dangos eich bod chi wedi gwneud eich gwaith ymchwil ar gwmni yn hollbwysig ar gyfer unrhyw gyfweliad, ond ni fydd gwybod pryd y cafodd y cwmni ei sefydlu yn ddigon da yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.  Dyma dri o’r cynghorau gorau a fydd yn sicrhau bod eich gwaith ymchwil yn eich helpu i sefyll allan.

  1. Gwybod y manylion

Dylech ystyried agweddau fel maint y cwmni, pwy yw ei gwsmeriaid a phwy yw ei brif gystadleuwyr.  Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i ymchwilio’n ddyfnach a chael hyd i’r atebion i gwestiynau megis ydy’r cwmni yn cefnogi mentrau lleol?  Ydy’r cwmni yn arwain y farchnad yn ei faes?  Oes polisi “masnach deg” gan y cwmni?  Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan y cwmni felly neilltuwch amser i ddarllen trwy’r wybodaeth yn fanwl; mae deall gweledigaeth a gwerthoedd yn dangos bod gennych chi wir ddiddordeb yn y cwmni sydd y tu ôl i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

  1. Bod yn gymdeithasol

Mae pawb yn hoffi brolio am eu llwyddiannau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n debyg na fydd y cwmni rydych yn gwneud cais i ymuno ag ef yn wahanol yn hynny o beth.  Boed yn llun “dydd Gwener gwisgo dillad eich hun” ar Instagram neu ymgyrch codi arian ar Twitter, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o weld sut mae’r cwmni yn gweithredu.  Edrychwch ii weld pa sianeli cyfryngau cymdeithasol y mae’r cwmni yn eu defnyddio, y tôn a’r math o neges sydd fel petai’n cael ei chyfleu.  Bydd hyn yn helpu i lunio eich atebion yn y cyfweliad i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â syniadau’r cwmni ac yn eu hadlewyrchu’n briodol.

  1. Math o gyfweliad

Gall y math o gyfweliad amrywio o gwmni i gwmni ac mae mathau gwahanol o gyfweliad yn gofyn am ddulliau gwahanol.  Boed yn gyfweliad grŵp neu un-i-un, bydd pob cyfweliad yn gofyn am wahanol fath o baratoi.  Fel arfer caiff y math o gyfweliad ei esbonio i chi ymlaen llaw, ond gall gofyn am ragor o wybodaeth wneud argraff dda.  Gall awydd i wybod cynifer o fanylion â phosibl roi’r argraff eich bod chi’n frwdfrydig ynghylch cael y swydd, a gwneud argraff gyntaf gadarnhaol ar unrhyw ddarpar gyflogwr.

Os hoffech chi gael cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliad neu unrhyw gymorth arall sy’n gysylltiedig â gyrfa, cymerwch y cam cyntaf a ffoniwch ni ar 01792 284450.

 

 

 

Bod ar flaen y gad: sut i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y cyfweliad hollbwysig ‘na

Symud rhwng rolau, wedi bod allan o waith ers tro, neu oes gennych ormod o gymwysterau ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani? Trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd rydych yn gwneud cais am rolau gallech osgoi gwneud rhai camgymeriadau cyffredin a sicrhau bod eich cais ar ben y pentwr ‘Ie’. Read more

Test

Beth yw profion crebwyll sefyllfaol a sut ddylech chi ymdopi â nhw?    

Mae profion Crebwyll Sefyllfaol yn cael eu defnyddio gan rai cyflogwyr fel rhan o’u proses recriwtio ac maent yn debyg i brofion personoliaeth/seicometreg. Maent yn asesu sgiliau a medrusrwydd ymgeiswyr yn seiliedig ar ymatebion aml-ddewis i sefyllfaoedd, ac mae disgwyl i chi wneud un o’r canlynol:

  • Gosod ymatebion mewn trefn o’r mwyaf effeithiol i’r lleiaf effeithiol;
  • Dewis y weithred fwyaf priodol a lleiaf priodol; neu
  • Dewis y dull o weithredu cywir.

Ni fyddwch yn gwybod beth yw’r sefyllfaoedd ymlaen llaw ac efallai eich bod yn meddwl ei bod yn amhosib paratoi ar eu cyfer, ond dyma rai camau syml ddylai eich helpu i fod ar eich gorau.

Deall y cwmni   

Gwnewch ymchwil ar ei wefan fel byddech yn gwneud wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd ei ddatganiad o werthoedd a chenhadaeth yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau gweithredu y byddai’n disgwyl i’w staff eu cymryd yn y sefyllfaoedd yma.

Deall y rôl

Edrychwch ar y disgrifiad swydd a manyleb y person. Ystyriwch y sgiliau sy’n ofynnol a’r math o unigolyn mae’r cwmni’n chwilio amdano.

Ymarfer, ymarfer, ymarfer

Bydd gwneud amser i ymarfer profion crebwyll sefyllfaol yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae’r cwestiynau’n cael eu geirio o leiaf, neu eu cynllun, a’r mathau o atebion a ddisgwylir.

Os hoffech gael cefnogaeth gyda pharatoi ac ymarfer ar gyfer profion barn sefyllfaol, ffoniwch ni ar 01792 284450.

Job Search

Ffordd Fwy Effeithlon o Chwilio am Swydd

Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa yma – chwilio drwy sawl peiriant chwilio sy’n honni mai nhw yw’r ‘ateb i ddod o hyd i swydd’. Rydych chi wedi cael hyd i’r swydd berffaith, wedi uwchlwytho eich CV ddiweddaraf wedi’i haddasu’n fedrus ac wedi clicio ar y botwm ‘ymgeisio nawr’ – ond does dim ymateb o gwbl.

Beth pe baem yn dweud wrthych chi bod ffordd fwy effeithlon o chwilio am swydd? Read more

Blwg Academi’r Defodol

Newyddion cyffrous! Mae’n amser i gychwyn Academi’r Dyfodol am y trydydd tro!

Read more

£6.6m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi rhaglen cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe

Mae buddsoddiad o £6.6m gan yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sicrhau i ehangu ac ymestyn rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe tan 2021. Read more

O gleient i Hyfforddwr Gyrfa, dyma stori Sarah!

Ar ôl bod yn athro Ysgol Uwchradd am dros 20 o flynyddoedd, roedd Sarah yn chwilio am newid gyrfa. Cyn dod ar draws Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roedd Sarah yn ansicr am ei dyfodol a doedd hi ddim gwybod beth i’w wneud na sut i fanteisio ar ei sgiliau er mwyn cymryd camau tuag at ei bywyd newydd. Read more

Diwrnod Cyflogadwyedd 2019!

Ar ddydd Gwener 28 Mehefin fe gynhaliwyd digwyddiad agored yn ein Hyb Cyflogaeth i ddathlu Diwrnod Cyflogadwyedd 2019 y DU. Read more

Sgwrsio gyda Katy – Blwyddyn y ddiweddarach!

Ymwelodd Katy â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn ystod cyfnod tywyll iawn yn ei bywyd, ar ôl cael ei diswyddo o gwmni dechrau technegol. Read more

Mam a merch yn diolch i raglen gyflogadwyedd y Coleg

Mae Deb a Rebecca Harry ymhlith y rhai sydd wedi elwa fwyaf o raglen gyflogadwyedd arbenigol Coleg Gwyr Abertawe, sef Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Read more