Amelia Patterson
“Byddwch yn hyderus yn yr hyn ydych chi ac yn falch…
Mae gan Cath brofiad helaeth o ddatblygu strategaethau, polisïau a rhaglenni cyflogaeth. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes cyflogadwyedd a sgiliau, mae hi’n angerddol dros wella bywydau pobl trwy waith ystyrlon a datblygu sgiliau a gyrfaoedd.
Yn ogystal ag arwain yr adran Gyflogadwyedd, mae Cath yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol y tîm, ac mae hi o hyd yn meddwl am ffyrdd newydd o wella, ehangu ac arloesi wrth ddarparu cymorth cyflogaeth.
Yn ei hamser hamdden, mae Cath yn hoff o ddilyn unrhyw fath o chwaraeon ynghyd â threulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau.
Mae James wedi treulio ei yrfa gyfan yn gweithio ym maes cyflogadwyedd a hyfforddiant, ac mae hyn wedi rhoi gwybodaeth helaeth iddo am dueddiadau cyflogaeth a’r farchnad lafur leol sy’n datblygu. Fel ein Dirprwy Cyfarwyddwr, mae profiad James yn ei alluogi i sicrhau bod ein rhaglen yn greadigol, yn rhyngweithiol ac ar flaen y gad o ran cymorth cyflogadwyedd arloesol.
Mae ymagwedd James tuag at reolaeth yn ddeinamig ac yn ymarferol, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r tîm i sicrhau eu bod yn darparu cymorth o’r radd flaenaf sydd yn gyfredol ac, yn bwysicaf oll, yn sicrhau bod cleientiaid yn cael gwaith neu’n symud ymlaen i swyddi sy’n fwy addas i’w sgiliau a’u priodoleddau.
Y tu allan i’r gwaith, mae James yn hoffi meddwl ei fod yn unigolyn sy’n ymwybodol o iechyd, ond mae’n mwynhau ei fwyd ychydig yn ormodol ac mae’n llawn hwyl wrth drafod y pwnc hwn!
Mae gan Mark dros ddegawd o brofiad fel ymgynghorydd hyfforddiant corfforaethol, gan weithio gyda’r gymuned fusnes ar bob lefel i ddarparu atebion recriwtio a hyfforddiant. Mae ganddo brofiad o ddatrys anghenion recriwtio busnesau, gan gynnwys dylunio rhaglenni hyfforddiant addysgol sy’n cynyddu cynhyrchedd. Mae ganddo gysylltiadau da â byd busnes, a dealltwriaeth gadarn o’r economi leol ar ôl gweithio trwy gylchoedd busnes amrywiol.
Mae Mark wrth law i gynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau, gan gynnwys recriwtio a chynllunio ar gyfer olyniaeth a mapio a datblygu llwybrau dilyniant staff.
Y tu allan i’r swyddfa, mae Mark yn athletwr brwd ac yn ystod y blynyddoedd mae wedi cwblhau marathonau Berlin a Llundain.
Cyn ymuno â thîm GSGD, bu Dave yn gweithio’n y sector manwerthu am dros 20 o flynyddoedd, gyda dros 12 o’r blynyddoedd hynny mewn rôl Uwch Rheolwr Adnoddau Dynol. Mae gan Dave wybodaeth a phrofiad eang o weithio mewn amryw o leaoliadau ledled y wlad i un o manwerthwyr mwyaf y DU, ac hefyd y profiad o fod yn bwynt cyswllt i dros 350 o aelodau o staff. Gyda’r hanes yma felly, ynghyd a bod yn aelod o CIPD, Dave yw’n dyn sy’n gwybod ei bethau am faterion Adnoddau Dynol sy’n ymwneu â gwaith.
Yn gweithio fel Ymghynghorydd Gweithlu, mae Dave yn gallu cynnig sgiliau AD arbenigol i’r tîm, ac mae’n ymrwymedig i gefnogi ystod eang o fusnesau ar draws yr ardal gyda phrofiad cynhwysfawr, ac arbenigedd mewn datblygu a chynllunio materion sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol.
Ar ôl oriau gwaith, mae Dave yn hoff o feicio lan a lawr mynyddoedd De Cymru a threulio amser gyda’i blant a’r bartner, Bethan.
Mae gan Louise dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyflogadwyedd gyda chyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith. Mae hi wedi cefnogi cyflogwyr ar eu taith i ddod yn hyderus o ran anabledd ac i ddod yn gyfarwydd ag arferion a pholisïau cydraddoldeb yn y gweithle.
Mae Louise yn Rheolwr Prosiect profiadol ac mae hi wedi hwyluso datblygiad Dyfodol. Mae hi wedi mwynhau gweithio’n agos â’r tîm i ddarparu cymorth cyflogadwyedd i ddysgwyr ar draws Coleg Gŵyr Abertawe. Yn ei rôl fel Rheolwr Prosiect, mae Louise yn hoff o weithio gyda thîm cyfan GSGD, gan ddefnyddio dull ymarferol o wella a datblygu ein gwasanaeth.
Yn ei hamser hamdden, mae Louise yn hoffi treulio amser gyda’i theulu, sy’n cynnwys dau o blant egnïol iawn a Coco a Bonnie, ei phygs! Ar y penwythnos, mae hi’n mwynhau gwersylla (glampio, i fod yn fwy penodol!) a gwylio rhywfaint o deledu realiti!
Mae gan Matt brofiad sylweddol o gontractau lles-i-waith ac mae wedi ennill ystod o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy ym maes recriwtio. Mewn rolau blaenorol, mae Matt wedi datblygu amrywiaeth o systemau a phrosesau i sicrhau ei fod yn cynorthwyo ei gleientiaid yn y ffordd fwyaf effeithiol a llwyddiannus bosibl. Mae Matt bellach yn gallu defnyddio ei ymwybyddiaeth a’i ddealltwriaeth i ddarparu strwythur cymorth newydd ac arloesol ar gyfer cleientiaid a busnesau fel ei gilydd.
Fel Cydlynydd Prosiect, bydd Matt yn darparu gwasanaeth pwrpasol sydd wedi’i deilwra i bob unigolyn sy’n cerdded drwy’r drws. Mae’n frwd dros gynnydd cadarnhaol ac yn ymroddedig i ddarparu dull unigryw o gynnig cyngor ar gyflogadwyedd ac mae’n wirioneddol ymrwymedig i helpu pobl i dyfu, datblygu a chyflawni eu nodau, beth bynnag fo’r nodau hynny.
Mae Matt yn gefnogwr mawr o Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac yn fwy aml na pheidio ar y penwythnosau gallwch ei weld i lawr yn Stadiwm Liberty neu i ffwrdd ar gyfer gemau oddi cartref yn cymeradwyo’r tîm.
Mae gan Rhian ddegawd o brofiad o weithio yn y sector addysg fel Darlithydd, Tiwtor ac Asesydd i Goleg Gŵyr Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Rhian wedi cael profiad o ddatblygu cyfleusterau a darparu ystod eang o bynciau a lefelau gwahanol. Mae hi wedi gweithio â nifer o gyflogwyr gan feithrin perthynas waith gadarn â nhw, sydd yn ei dro wedi arwain at leoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth i’r myfyrwyr. Mae gan Rhian hefyd brofiad o weithio fel Cynorthwyydd Addysgu mewn ysgol Gymraeg lleol, ac mae ganddi hanes o ddarparu cymorth un i un trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ei rôl fel Cydlynydd Prosiect, bydd gofyn i Rhian feithrin cysylltiadau cryf â phartneriaid, cyflogwyr a chleientiaid. Mi fydd Rhian yn arwain tîm o Hyfforddwyr Gyrfa ac mae’n benderfynol o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pob unigolyn.
Yn ei amser hamdden mae Rhian fam brysur i dri o fechgyn ac mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau!
Mae gan Sam radd mewn Llenyddiaeth Saesneg, ac angerdd dros ysgrifennu. Hi yw ein harbenigwraig y cyfryngau cymdeithasol sydd wrth ei bodd yn creu a chyflwyno cynnwys i gysylltu â phobl o gwmpas y byd. Mae hi bob amser yn cynnig ymagwedd bersonol ac mae ei chryfderau’n cynnwys moeseg gwaith penderfynol a phendant ac agwedd gyfeillgar a chadarnhaol.
Mae Sam yn mwynhau mynd i galon busnes a’r bobl a’r syniadau y tu ôl iddo, a hi yw’r ferch i gysylltu â hi os oes angen cynllunio neu drefnu rhywbeth. Mae hi’n cyfaddef bod ganddi obsesiwn â rhestrau, nodiadau ‘post-it’ ac amserlenni, Sam yw’r fenyw sy’n gwybod sut i wneud i bethau ddigwydd.
Y tu allan i’r swyddfa, mae Sam yn hoffi coginio (a bwyta!) a threulio amser gwerthfawr gyda’i theulu a’i ffrindiau. Mae hefyd yn gefnogwraig chwaraeon frwd, yn chwarae pêl-rwyd yn rheolaidd ac yn mwynhau mynd i weld gemau rygbi neu bêl-droed.
Mae gan Beth brofiad helaeth ym maes cyflogadwyedd ac mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus mewn amrywiaeth o swyddi sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn amrywio o gwmnïau o’r radd flaenaf i gwmnïau annibynnol llai. Mae Beth yn llawn gwybodaeth o ran darparu strategaethau cyflogaeth i weddu i gyflogwyr a’u hanghenion busnes ac mae hi bob amser yn cymryd yr amser i ddarparu’r atebion gorau posibl i unrhyw broblemau.
Fel ymgynghorydd gweithlu, mae Beth yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â’i holl sgiliau a’i phrofiad ynghyd yn ogystal â gwella ei harbenigedd ymhellach. Cryfder Beth yw meithrin perthnasau proffesiynol ystyrlon ac mae hi’n angerddol dros weithio’n agos gyda busnesau i ddarparu gwasanaeth eithriadol.
Yn ei hamser hamdden, mae Beth wrth ei bodd yn cerdded ar hyd llwybrau arfordirol Bro Gŵyr gyda’i theulu.
Mae Zoe wedi gweithio ym maes recriwtio a chyflogadwyedd am dros 17 mlynedd, gan ddod â chyfoeth o wybodaeth i’r tîm. Arweiniodd ei diddordeb mewn cyflogadwyedd at newid gyrfa i’r sector lles-i-waith yn Abertawe, gan weithio gyda phobl ddi-waith tymor byr a hirdymor i’w helpu i gael gwaith cynaliadwy. Ar ôl pedair blynedd yn y sector hwn, symudodd Zoe i elusen cydraddoldeb rhywiol a oedd wedi gwella ei hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Wrth ddefnyddio ei phrofiad o sectorau cyflogadwyedd lluosog, mae Zoe yn gweithio gyda chyflogwyr i roi cyngor manwl i fusnesau ar faterion cynllunio a datblygu’r gweithlu.
Pan nad yw’n gweithio, mae Zoe wrth ei bodd yn cefnogi’r Gweilch a Chlwb Pêl-droed Portsmouth neu mae hi i’w gweld yn cerdded yn y mynyddoedd ac ar hyd llwybrau arfordirol yn Abertawe. Mae Zoe yn aelod bywiog o’r tîm, yn aml byddwch yn ei chlywed cyn ei gweld diolch i’w chwerthiniad enwog ac anhygoel!
Fe astudiodd Owen gwrs Hysbysebu a Dylunio Brand ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, cyn penderfynu dilyn trywydd mwy strategol. Felly, fe symudodd ymlaen i astudio cwrs MSc mewn Marchnata Strategol ym Mhrifysgol Abertawe, lle cafodd gyfle i astudio agweddau ‘tu ôl i’r llenni’ ar reoli brandiau, moeseg ac ystyriaethau marchnata a seicoleg defnyddwyr. Fel rhan o’i brofiad gwaith, fe aeth Owen i Ysgol Rheoli Prifysgol Abertawe i ddatblygu a gweithredu cynllun marchnata, er mwyn hyrwyddo cymorth cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth, digwyddiadau a gweithgareddau i fyfyrwyr.
Fel Cydlynydd Ymgysylltu Cyflogadwyedd, mae Owen yn gyfrifol am redeg a chynnal pob un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae gan Owen ystod enfawr o sgiliau mewn ffotograffiaeth a golygu fideo, sy’n golygu ei fod yn creu deunydd cyffrous a deniadol i’w rannu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. Mae Owen yn berson sy’n hawdd mynd ato, yn gyfeillgar a chreadigol ac mae e’n caru gweithio’n agos â’r tîm i greu a rhannu straeon am gleientiaid, gan roi sylw i’w llwybrau gyrfa a dathlu eu llwyddiannau.
Yn ei amser hamdden, mae Owen yn mwynhau coginio a phobi ar gyfer ei ffrindiau a’i deulu. Mae e’n dwlu ar y cyfryngau ac yn hoff o wylio ffilmiau, gwrando ar gerddoriaeth a phodlediadau a darllen llyfrau bachog. Mae Owen hefyd yn hoffi cadw’n heini trwy fynd i’r pwll nofio!
Mae gan Angela yrfa hir ac amrywiol ym maes cyflogadwyedd wedi gweithio yn y sector ers 2003. Gweithiodd Angela ar y Fargen Newydd i bobl ag anableddau gyda Shaw Trust tan 2011, gan weithio gyda phobl ag anableddau neu a oedd yn dod o gefndiroedd difreintiedig a’u grymuso i ddychwelyd i gyflogaeth addas.
Symudodd Angela i TGB Learning gan weithio gydag amrywiaeth o gleientiaid ar y Rhaglen Waith. Yma, ymgymhwysodd fel hwylusydd Cynllunio Camau ar gyfer Adfer Iechyd, gan helpu pobl i feithrin dulliau o gryfhau lles er mwyn gwella eu bywydau. Mae Angela’n frwdfrydig iawn dros helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn ac yn defnyddio ei holl brofiad yn ei rôl fel Hyfforddwr Gyrfa i barhau i gefnogi pobl ar eu taith.
Treuliodd Angela bron 11 o flynyddoedd yn byw ac yn gweithio yn Sydney nes iddi ddychwelyd i Abertawe ym 1999. Mae’n fegan ac yn dwlu ar anifeiliaid, bwyd iach, cerddoriaeth fyw, darllen, triniaethau naturiol a myfyrio yn ogystal â cherdded a chael hwyl gyda ffrindiau.
Cyn ymuno â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, bu Nicola yn gweithio i sefydliadau trydydd sector mewn amrywiaeth o rolau megis Gweithiwr Cymorth Cyflogadwyedd, Hyfforddwr Dosbarth Ffitrwydd a Hyfforddwr Personol. Mae gweithio mewn ystod eang o rolau wedi galluogi Nicola i weithio â chleientiaid amrywiol, gan eu helpu i gyflawni eu nodau iechyd, lles a chyflogaeth yn gydamserol. Gan fagu ymagwedd gyfannol tuag at gyflogaeth a lles, mae Nicola wedi helpu gwella hyder, cymhelliad a hunanhyder ei chleientiaid fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial.
Mae Nicola yn berson brwdfrydig a thrugarog sy’n mwynhau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill. Fel Hyfforddwr Gyrfa, mae Nicola llawn cymhelliant ac angerdd ac ac yn cyflwyno ei natur positif ac egnïol i’r rôl.
Yn ei amser hamdden, mae Nicola yn hoff o dreulio amser gyda’i theulu a’i chi, yn ogystal â cherdded ar y traeth a gwrando ar gerddoriaeth.
Cyn ymuno â GSGD, roedd Hayley yn gweithio i’r llywodraeth leol am 6 blynedd, cyn iddi symud ymlaen i weithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgol uwchradd, lle buodd hi’n darparu cyngor a chymorth i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol ac ymddygiad heriol.
Mae ganddi radd BSc mewn Astudiaethau Plentyndod o BCDDS, ac ar ôl treulio amser yn y sector addysg, fe symudodd ymlaen i weithio fel Gweithiwr Cymorth Tenantiaeth i gymdeithasau tai ac i elusen digartrefedd. Yn y rolau yma, fe enillodd Hayley gyfoeth helaeth o brofiad yn cefnogi cleientiaid ag anghenion iechyd meddwl, problemau ynghylch dyled a diweithdra, ac nod pennaf ei gwaith oedd ceisio atal digartrefedd. Mae Hayley yn angerddol am weithio gyda grwpiau amrywiol o bobl ac mae hi’n ymrwymedig i helpu unigolion i wneud y mwyaf o’u potensial ac i gyflawni eu nodau.
Yn ei hamser hamdden, mae Hayley wrth ei bodd yn cadw’n heini a threulio amser yn yr awyr agored, gan amlaf gyda’i dwy ferch. Mae hi’n dwlu ar gerddoriaeth ac yn hoff o fynd i gyngherddau i weld ei hoff fandiau.
Mae gan Andrew radd BSC mewn Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon o Brifysgol Morgannwg. Ar ôl graddio, mae Andrew wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol ac mae e wedi ennill dros 10 mlynedd o brofiad yn cefnogi myfyrwyr ag ymddygiadau heriol i sicrhau cyfleoedd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae Andrew yn Hyfforddwr Gyrfa brwdfrydig ac mae e’n angerddol am newid bywydau unigolion er gwell. Mae e’n mwynhau ei rôl ac yn defnyddio dulliau gweithio sy’n canolbwyntio ar unigolion, gan sicrhau bod ei gleientiaid yn derbyn cymorth personol sydd wedi’i deilwra, er mwyn diwallu pob un o’u hanghenion personol. Mae hapusrwydd Andrew yn heintus ac mae e bob amser yn gwneud y mwyaf o’i rôl, gan gefnogi ei gleientiaid a phob aelod o dîm GSGD!
Yn ei amser hamdden, mae Andrew yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, gwrando ar gerddoriaeth a gwylio pob math o chwaraeon. Gallwch ddod o hyd iddo ar benwythnosau gan amlaf yn dringo mynyddoedd y Bannau Brycheiniog, yn gwerthfawrogi tirwedd brydferth Cymru!
Daeth Kirsty i Abertawe i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac ar ôl ymweld â’r Gŵyr fe wnaeth hi benderfynu aros yma! Fe wnaeth hi gwblhau MSc yn 2018 cyn dechrau gweithio fel ymgynghorydd recriwtio yn y sector Ecoleg.
Fel unigolyn gofalgar a charedig, hoff ran Kirsty o’i rôl yw rhoi croeso cynnes i bawb sydd yn dechrau eu taith gyda GSGD. Kirsty yw pwynt cyswllt cyntaf GSGD ac mae hi’n fedrus iawn yn ei gwaith. Mae hi bob tro yn barod i ddarparu help a chefnogaeth ac yn hapus i ddelio ag ymholiadau, gan ymrwymo i ddarparu’r lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid.
Mae Kirsty yn dwlu ar gerddoriaeth ac wrth ei bodd yn mynd i wyliau cerddoriaeth. Mae hi hefyd yn hoff o ddarllen, treulio amser yn yr awyr agored a choginio bwydydd sbeislyd. Ffaith ddiddorol: mae Kirsty wedi bwyta tsili poethaf y byd!
Mae gan Ffion brofiad helaeth o wasanaeth cwsmeriaid gan ei bod wedi gweithio mewn sawl rôl wahanol yn y sector teithio a thwristiaeth. Mae ganddi hefyd llawer o brofiad mewn marchnata a chyfathrebu, ar ôl gweithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Yn drefnwr wrth reddf, mae Ffion yn gyfrifol am holl ddyletswyddau gweinyddol pencadlys GSGD, ac mae hi’n ymfalchïo yn ei gallu i gadw gweithrediadau dyddiol mor llyfn a di-dor â phosib i staff a chleientiaid. Hi yw pwynt cyswllt cyntaf GSGD ar gyfer ymholiadau, ac mae hi wrth ei bodd yn ymgysylltu â’n holl ymwelwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol.
Yn ei hamser hamdden, mae Ffion yn hoff o gerdded yng nghefn gwlad gyda’i theulu. Mae Ffion yn mwynhau bod yn greadigol a creu celf, yn enwedig peintio ac arlunio.
Yn ystod ei hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, fe astudiodd Amelia Harddwch, TG a Sgiliau Cyflogadwyedd. Gyda chefndir mewn cyflogadwyedd, ac ar ôl derbyn cymorth ein gwasanaeth yn ystod ei chyfnod yn y coleg, mae Amelia yn dod â phersbectif newydd i’w rôl fel Derbynnydd, ac mae ganddi ddealltwriaeth unigryw o anghenion ac amgylchiadau cleientiaid.
Ymunodd Amelia â GSGD yn 2022 ar interniaeth haf ac mae hi bellach yn aelod amser llawn o ‘r Tîm Derbynfa. Fel un o bwyntiau cyswllt cyntaf ein sefydliad, mae Amelia yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i bob cleient ac mae hi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.
Hoff ran Amelia o’r swydd yw cwrdd â chroesawu cleientiaid a’u gweld yn trawsnewid yn llwyr ar ôl eu hapwyntiadau cyntaf. Mae hi hefyd yn hoffi eu gwylio yn cwblhau eu nodau a gwneud y mwyaf o’u potensial. Yn eu hamser hamdden, mae Amelia yn hoff iawn o ganu ac mae hi’n aml yn cael gwersi canu (yn ogystal â chanu yn y dderbynfa o bryd i’w gilydd!)