Kirsty Drane – Straeon Gyrfa

“Byddwch yn falch o’r gwaith rydych yn ei gyflawni, o bwy ydych chi a’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud”

 

Cawsom sgwrs â Kirsty, Derbynydd, i drafod pwysigrwydd gwerthuso eich sefyllfa a sicrhau bod eich gwerthoedd yn cyd-fynd â’ch rôl.

Y canlyniad? Stori yrfa gymhellgar sy’n profi bod amser yn rhoi persbectif gwahanol i ni, a bod newid cyfeiriad o ran gyrfa yn beth hollol iawn i’w wneud!

A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?

Fe wnes i aros yn yr ysgol i gwblhau cymwysterau Safon uwch mewn Seicoleg, Cymraeg, Bioleg ac Addysg Grefyddol. Ro’n i’n teimlo y byddai gwneud hyn yn rhoi cyfle da i mi symud ymlaen i brifysgol, ac fe wnes i dderbyn llawer o gymorth a chyngor ar gynllunio gyrfa, pa gyrsiau i’w hastudio a sut i wneud cais i’w hastudio. Ar ddiwrnod canlyniadau, yn anffodus ni dderbyniais ganlyniadau digon da i ganiatáu lle i mi astudio yn fy mhrifysgol dewis cyntaf, ac o ganlyniad bu’n rhaid i mi ddewis Prifysgol Abertawe, fe ail opsiwn – gan symud oddi cartref ar y funud olaf un. Roedd hyn yn hunllefus ac yn gyfnod heriol iawn o fy mywyd; nid oedd fy nghynlluniau wedi dilyn y drefn roedden i wedi bwriadu iddynt ei ddilyn ac roedd fy nyfodol yn y fantol. Fodd bynnag, roedd symud i ffwrdd o’m cartref teulu yn benderfyniad da iawn; roedd bod yn annibynnol a chael profiad bywyd gwerthfawr yn help mawr i mi ddatblygu a chyflawni twf fel unigolyn, ac roeddwn yn dal i ymweld â fy nheulu a ffrindiau nôl adref gan nad oedd yn rhy bell i ffwrdd. Fe wnes i fwynhau fy amser yn y brifysgol, ac fe roedd y cydbwysedd rhwng fy astudiaethau a’m bywyd cymdeithasol yn wych. Er, hoffaf pe bawn wedi ymdrechu mwy i ymuno â chlybiau a chymdeithasau i ennill mwy o brofiadau a chwrdd â phobl a oedd yn debyg i mi, yn enwedig o ran y Gymraeg, gan ni ddefnyddiais fy sgiliau Cymraeg yn ystod fy amser yn y brifysgol. Roeddwn i wedi bwriadu symud ymlaen i astudio gradd meistr ond yn anffodus ni chefais lawer o lwc yn sicrhau cyllid i’m caniatáu i astudio ymhellach, felly fe benderfynais symud i fyd gwaith, gan gynilo ar gyfer cwrs meistr a chwblhau fy astudiaethau pan allwn fforddio gwneud hynny. Mewn dim o amser, daeth cyllid addysgol ar gael yng Nghymru a llwyddais i ariannu cwrs gradd meistr mewn Seicoleg Abnormal a Chlinigol. Er bod hwn yn gyfnod anodd iawn lle’r oedd gofyn i mi astudio llawer, rwy’n falch iawn fy mod wedi cwblhau’r cwrs, gan fy mod wedi gwella fy natblygiad personol ac wedi magu hyder yn fy ngwaith.

 Pa gyfeiriad wnes ti ddilyn ar ôl addysg?

Yn dilyn fy astudiaethau roeddwn i eisiau sicrhau gyrfa fel Seicolegwr achrededig, ond roedd dod o hyd i gyfleoedd yn y maes hwn yn Abertawe yn anodd iawn; felly fe wnes i ddechrau chwilio am swydd berthnasol yn y cyfamser wrth ystyried fy nghamau nesaf, gan ystyried symud i ardal lle roeddwn yn fwy tebygol o weithio yn y maes roeddwn am weithio ynddo. Treuliais lawer o amser yn dadansoddi’r farchnad swyddi (sy’n newid ar raddfa barhaus), gan chwilio am gyfleoedd a oedd yn cyd-fynd â fy sgiliau, diddordebau ac uchelgeisiau. Fe weithiais i’r undeb myfyrwyr trwy gydol fy amser yn y brifysgol ac roedd gen i reolwr cefnogol iawn a helpodd fi i gynllunio fy nghamau nesaf ar ôl addysg. Fe ddes i o hyd i nifer o rolau recriwtio lle’r oeddwn yn gymwys i gyflwyno cais amdanynt, ac roeddwn i’n medru gweld fy hun yn gweithio yn y maes hwn; ro’n i’n hoffi’r syniad o helpu pobl i sicrhau swyddi, ac roedd yr elfen o ddarparu cymorth a chyngor i bobl yn berthnasol i’r radd a astudiais.

Pa ffurf gymerodd dy yrfa ers hynny?

Fe ddechreuais weithio fel Ymgynghorydd Recriwtio mewn sefydliad bach, gan ddod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer rolau tirfesur ym maes adeiladu – ac roedd gofyn i mi wneud llawer o waith ymchwil a meithrin dealltwriaeth eang o’r maes. Cefais lawer o annibyniaeth yn gweithio yn y rôl hon. Ar ôl 10 mis, penderfynais nad oeddwn am ddilyn gyrfa yn y maes hwn; roedd yn well gen i ddulliau mwy cyfannol o ddarparu cymorth i bobl, ac roeddwn i’n angerddol am helpu pobl i oresgyn eu rhwystrau fel y gallant wella eu bywydau. Chwiliais am swyddi eraill, ond roeddwn i wedi colli rhywfaint o hyder a doeddwn i ddim yn siŵr sut i ddefnyddio fy sgiliau a’m profiadau. Fe ddes i o hyd i rôl derbynnydd yn Adran Gyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Fe wnaeth y rôl hon ddal fy llygad ac roeddwn i’n hyderus yn fy sgiliau trefnu, gweinyddu a gweithio gyda phobl, a oedd yn ofynion hanfodol ar gyfer y swydd. Ro’n i hefyd eisiau mabwysiadu ethos y sefydliad, ac roeddwn i’n gyffrous i gyfrannu at gynnig gwasanaeth cymorth cyflogadwyedd ystyrlon. Ar ôl gwneud cais (yn nerfus iawn!), ces wybod fy mod wedi sicrhau’r rôl ac roeddwn wrth fy modd â’r newyddion. Rydw i wedi bod yn gweithio i’r sefydliad ers dwy flynedd bellach ac mae fy rôl yn un boddhaus iawn; rwy’n dwlu ar weithio gyda thîm anhygoel yn hwyluso cymorth sydd yn y pen draw yn newid bywydau pobl er gwell. Fi yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unigolion sydd am gyrchu cymorth ac rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod yn gallu gweld eu llwybrau yn datblygu o’r cychwyn cyntaf. Mae eu hyder a’u gallu yn datblygu ar ôl eu hapwyntiadau cyntaf, ac maen nhw’n symud ymlaen i gyflawni pethau gwych.

Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rwyt ti’n eu difaru?

Dw i ddim yn difaru unrhyw beth o ran fy ngyrfa, gan fy mod o’r farn ni ddylech byth ddifaru pethau yn y lle cyntaf. Mae’r pethau rydych yn eu gwneud nad ydych yn eu mwynhau yn dysgu cymaint i chi â’r sefyllfaoedd rydych chi’n gyfforddus â nhw; yn y pen draw, rydyn ni dim ond yn difaru’r cyfleoedd nid ydym yn eu cymryd!

Beth yw’r un peth hoffet ti fod wedi gwybod pan oeddet yn iau?

Mae gweithio yn fy rôl bresennol wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor hawdd yw hi i gyrchu’r rhwydweithiau cymorth sydd ar gael. Pe bawn i wedi gwybod hyn byddwn i’n sicr wedi gwneud y mwyaf o gymorth tebyg pan nad oeddwn yn siŵr beth i’w wneud o ran fy ngyrfa. Byddai gwneud hyn wedi fy rhoi mewn gwell sefyllfa i wneud newidiadau a dod o hyd i rolau addas. Mae’r farchnad swyddi yn gallu bod yn gystadleuol a brawychus, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ansicr o’u camau nesaf i gyrchu cymorth er mwyn hwyluso’r broses hon.

Beth yw dy gyngor gorau?

Gwnewch eich gwaith cartref ar y cyflogwr, y sefydliad, y swydd ddisgrifiad a dyletswyddau’r rôl. Mae’n hanfodol eich bod yn cydweddu eich rôl i’ch sgiliau, profiadau, credoau, gwerthoedd, uchelgeisiau a nodau/amcanion hirdymor. Rydyn ni’n aberthu llawer o bethau dros ein gwaith, felly gwnewch yn siŵr bod y swydd yn ‘gweithio’ i chi, yn eich gwneud yn hapus, yn diwallu eich amcanion ac yn cydfynd â’r dyfodol sydd gennych chi mewn golwg.