Owen Davies

 

“Un dydd ar y tro mae creu bywyd llwyddiannus.”

 

Fe eisteddom i lawr gyda’n Cydlynydd Ymgysylltu Cyflogadwyedd, Owen, i drafod y gwahanol ddulliau sy’n rhaid eu hystyried i ddod o hyd i’ch rôl ddelfrydol. Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa mewnweledol sy’n nodi pwysigrwydd cymryd pethau cam wrth gam, un dydd ar y tro!

 

A wnest ti ddilyn addysg bellach neu uwch?

Fe astudiais gwrs Dylunio Graffig a TG yn y Coleg, gan obeithio sicrhau gyrfa ddigidol neu greadigol. Cefais drafferth yn symud ymlaen i’r coleg ac erbyn diwedd fy astudiaethau, doeddwn i ddim wedi setlo nac yn barod i sicrhau swydd yn y sector. Felly, penderfynais barhau ag addysg ac fe chwiliais am gwrs prifysgol addas. Fe ddes i o hyd i gwrs Hysbysebu a Dylunio Brandiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac fe benderfynais wneud cais i astudio yno. Treuliais 3 blynedd yn y brifysgol a dysgais gymaint am y sector, o ddylunio graffeg a fideos a chyfarwyddo sesiynau ffotograffiaeth i gyflogwyr lleol i drefnu arddangosfeydd. Fe weithiais ar brosiectau go iawn ac ymgyrchoedd marchnata ar gyfer busnesau lleol ac enillais llawer iawn o brofiad gwerthfawr a helpodd fy llwybr gyrfa.

Ar ôl cwblhau fy nghwrs prifysgol, penderfynais fy mod am wella fy ngwybodaeth strategol a rheolaethol ac es i ymlaen i astudio MSc mewn Marchnata Strategol ym Mhrifysgol Abertawe; fe ddysgais am ddamcaniaethau marchnata a phrosesau gwneud penderfyniadau, ac mae deall ystyriaethau strategol wedi dylanwadu’n fawr ar fy null gweithredu a’m dull personol o weithio. Cymerais dipyn o amser yn dod o hyd i’r llwybr cywir, ond os ydych chi’n ansicr o’ch camau nesaf, rwy’n argymell i chi astudio cwrs er mwyn ymchwilio eich diddordebau ymhellach a chael mwy o eglurder ynghylch y sector yr hoffech ei ddilyn.

Pa gyfeiriad wnaeth dy yrfa di ddilyn ar ôl cwblhau dy addysg?

Yn ystod fy MSc, fe gymerais ran mewn lleoliad gwaith 3 mis, gan gefnogi’r adran Arloesi ac ymgysylltu i ddatblygu a gweithredu cynllun marchnata. Roedd hyn yn cynnwys annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau, hyrwyddo cymorth cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd y brifysgol, ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Fe wnes i fwynhau fy amser yn y rôl hon ac fe daniodd fy niddordeb mewn gwasanaethau marchnata yn seiliedig ar gymorth ymarferol ac ystyrlon, yn enwedig o fewn y sector addysg. Dechreuais sylweddoli fy mod eisiau gweithio mewn rôl lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, a dyma pam wnes i wneud cais am rôl Cydlynydd Ymgysylltu Cyflogadwyedd gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol!Wyt ti’n difaru unrhyw beth o ran dy yrfa?

Rwy’n ceisio byw fy mywyd heb ddifaru unrhyw beth, ond, hoffwn pe bawn i wedi ymgysylltu â busnesau perthnasol a chymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli neu brofiad gwaith, yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol. Byddai hyn wedi bod o fudd i mi o ran medru profi gwahanol amgylcheddau gwaith, dod i adnabod y farchnad lafur leol yn well ac wedi fy helpu i nodi fy sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer darpar ragolygon cyflogaeth.

Beth yw’r un peth rwyt ti’n dyfaru peidio â gwybod pan oeddet ti’n ifancach?

Byddai’n dda gennyf pe bawn wedi sylweddoli pwysigrwydd cyrchu cymorth, a hoffwn pe bawn i wedi manteisio i’r eithaf ar gymorth, yn enwedig yn y coleg a’r brifysgol. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn meddwl bod y cymorth yn berthnasol i fi, ond erbyn hyn rydw i wedi dysgu pwysigrwydd y math hwn o ddarpariaeth. Pe bawn i’n cael cyfle arall, byddwn i wedi gwneud y mwyaf o’r holl help oedd ar gael! Tua diwedd fy nghwrs MA, fe wnes i gwrdd â thîm cyflogadwyedd yr Ysgol Rheoli ac fe sylweddolais yn o gyflym faint oedd gennyf i’w ddysgu, nid yn unig y broses o gyflwyno ceisiadau, creu CV a darllen disgrifiadau swyddi, ond hefyd pwysigrwydd do di adnabod sefydliad cyn gwneud cais, er mwyn sicrhau bod y gweithle’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd craidd.

Awgrym pwysicaf wrth ymgeisio am swyddi?

Mae ymgeisio am swyddi yn gallu bod yn heriol iawn, ond mae’n rhaid i chi gadw pethau yn syml! Yn bersonol, y peth pwysicaf yw’ch angerdd am y rôl, y sector neu’r sefydliad. Mae cyflogwyr am weld bod gan ymgeiswyr diddordeb yn y rôl a’u bod am wneud cyfraniad cadarnhaol. Mae’n bwysig i chi fod yn ddilys gan nodi a thynnu sylw at eich ymrwymiad i sicrhau’r cyfle. Rydych chi’n mynd i fod yn cystadlu yn erbyn unigolion dawnus a chymwys, felly pam ddylai’r cyflogwr eich dewis chi? Beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol i’r ymgeiswyr eraill?

Eich awgrym euraidd oll?

Rwy’n ceisio cymryd agwedd hamddenol at benderfyniadau, gwaith a bywyd. Mewn byd prysur sy’n newid yn barhaus, mae bod yn hyblyg a mynd i’r afael â materion mewn modd pwyllog yn sicrhau fy mod yn delio â phethau gyda meddylfryd cadarnhaol, ac yn ffordd o fy helpu i gyflawni’r canlyniad gorau neu amcanedig mewn ffordd effeithlon a strategol. Rwy’n sicrhau fy mod gen i amcanion da, ac rwy’n ceisio dysgu o’m holl brofiadau i wneud penderfyniadau call – a gobeithio gwneud gwelliannau ar hyd y ffordd!