David Freeman

 

“Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar greu bywoliaeth. Cofiwch greu bywyd i chi’ch hun”

 

Eisteddom i lawr gyda Dave, Rheolwr Rhaglen Cyflogadwyedd, i gael sgwrs am sut mae arwain eraill trwy ddulliau caredig a derbyn newid mewn ffordd raslon yn gallu llywio eich llwybr i gyfeiriad cyffrous a boddhaus.

 Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa sy’n profi bod pethau’n gallu gweithio o’ch plaid, hyd yn oed os nad ydynt yn dilyn yr union drefn roeddech chi am iddynt ei ddilyn.

Wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu uwch?

Ar ôl gadael ysgol roeddwn i am wasanaethu’r cyhoedd ac ad-dalu’r gymuned, roeddwn i eisiau gweithio fel Heddwas. Felly, fe astudiais Ddiploma Cenedlaethol mewn gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud ymlaen i astudio Diploma Cenedlaethol Uwch yn Athrofa Abertawe. Yn fy amser hamdden ro’n i’n feiciwr motocrós brwd, sy’n chwaraeon drud iawn, felly er mwyn ariannu fy hobi a fy mywyd cymdeithasol fe benderfynais weithio rhan-amser fel Cynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Tesco.

Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ar ôl i chi gwblhau eich addysg?

Ar ôl cwblhau’r cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus, fe ddechreuais weithio mewn rôl amser llawn yn Tesco wrth ymgeisio am rolau gyda’r heddlu. Yn anffodus, ni lwyddais fynd heibio cam ysgrifenedig y broses recriwtio, felly fe ddechreuais feddwl am gynllun gyrfa gwahanol. Wrth aros i gyfleoedd newydd ddod i’r amlwg, daeth Dirprwy Brif Weithredwr Tesco (ar y pryd) ataf yn ystod ymweliad â’r siop. Roedd fy ngwaith, a’r lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid roeddwn i’n ei gynnig wedi creu argraff fawr arno. Fe wnaeth fy annog i astudio cwrs hyfforddiant dwy flynedd ac, yn sydyn, roeddwn i ar fy ffordd i weithio fel Rheolwr yn Tesco!

Trwy gydol fy amser ar y cynllun fe enillais brofiad o reoli amrywiaeth eang o adrannau gwahanol mewn nifer o siopau ledled De Cymru. Roedd yn gyfnod hyfforddi dwys a diddorol lle ddysgais am y sefydliad a’i strwythur a’r heriau mewn perthynas â rheoli cymaint o staff. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant fe benderfynais arbenigo mewn rheoli Adnoddau Dynol, gan roi ar waith fy sgiliau cymdeithasol a’m hangerdd am ddatblygiad personol. Ces gynnig swydd fel Rheolwr AD mewn un o’r siopau, gan ymgymryd â gwaith a oedd yn ymwneud â lles, diwylliant, hyfforddiant, disgyblu a chwynion dros 250 o staff. Roedd yn rôl yn heriol iawn, ond ro’n i wrth fy modd gyda’r gwaith ac roedd y swydd yn cydweddu â’m sgiliau yn berffaith. Ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd yn y rôl, ces gynnig cyfle secondiad i weithio ochr yn ochr â’r Tîm AD y Brif Swyddfa i roi proses sefydlu newydd ar waith. Fel rhan o’r rôl, roedd gofyn i mi weithio i ffwrdd dydd Llun i ddydd Gwener am chwe mis, ond roedd yn gyfle rhy dda i’w golli. Fe sbardunodd hyn fy natblygiad ac ro’n i’n dwlu ar fod yn rhan o dîm ehangach, ond rhaid cyfaddef, ro’n i’n cael trafferth gyda chydbwysedd gwaith/bywyd a bod oddi cartref am gyfnod mor hir.

Yn dilyn y cyfnod secondiad ac ar ôl dychwelyd i weithio fel Rheolwr AD y Siop, ces i gynnig cyfle gwych arall; cyflwyno a gweithredu strwythur rheoli newydd, cynnal gweithdai a hyfforddiant i greu ‘Arweinwyr Tîm’ ar gyfer ardaloedd y siop. Ces gyfle i deithio hyd a lled y wlad, gan weithio ochr yn ochr â Rheolwr Siop a’u timau i roi ar waith y strwythur newydd. Fe ddysgais lawer wrth wneud hyn ac ro’n i’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddatblygu’n barhaus, ac fe helpodd fi i symud ymlaen, cyflawni cynnydd a diwallu nodau proffesiynol.

Ar ôl cwblhau’r prosiect fe es i yn ôl i’m swydd fel Rheolwr AD, ac fe weithiais yn y rôl hon am ddwy flynedd arall cyn i’r adran AD gael ei hailstrwythuro, gan adael fy rôl yn y fantol. Dyma oedd sefyllfa anodd iawn ac fe roedd yn sioc fawr i mi, ar ôl treulio cymaint o flynyddoedd llwyddiannus gyda’r sefydliad.

Sut mae eich taith gyrfa wedi datblygu?

Ar ôl 21 mlynedd yn Tesco, ac ar ôl gwybod bod fy rôl ar fin dod i ben, ces i gyfle i wneud cais am rôl newydd neu i ddileu fy swydd: penderfyniad anodd iawn. Ond, ar ôl pwyso a mesur fy opsiynau, penderfynais symud ymlaen, gan fy mod wedi gweithio yno ers yn 16 oed a heb brofi unrhyw fath o waith arall. Roedd gen i blant ifanc ac roeddwn am ganolbwyntio mwy ar fy mywyd personol, felly penderfynais mai dilyn trywydd arall fyddai’r dewis gorau.

Ar ôl cymryd mis neu ddwy i ffwrdd o’r gwaith i dreulio amser gyda fy nheulu, dechreuais chwilio am rolau ac fe gofrestrais ar gwrs CIPD Lefel 5 mewn ILM. Fe ddes i ar draws swydd Cynghorydd Gweithlu gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, a oedd yn gofyn am arbenigedd mewn AD. Teimlais fod y rôl hon yn berffaith o ran fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a fy angerdd am gefnogi eraill. Cyflwynais gais a chynigiwyd y rôl i mi. Roeddwn i wrth fy modd.

Ar ôl 4 mis o weithio fel Cynghorydd Gweithlu, ces fy nyrchafu i rôl Arweinydd Tîm, ac yn fuan ar ôl hyn fe hysbysebwyd swydd wag ar gyfer rôl Rheolwr Rhaglen. Teimlais fy mod wedi cael fy adfywio yn fy rôl newydd felly penderfynais fynd amdani; roedd hwn yn brosiect newydd a chyffrous ac ro’n i’n aelod o dîm uchelgeisiol a blaengar. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n perthyn i’r math hwn o waith ac ro’n i’n awyddus i hybu fy natblygiad proffesiynol i’r eithaf.

Ces i gyfweliad llwyddiannus a chynigiwyd y rôl i mi. Roeddwn i’n un o ddau Reolwr Prosiect. Ar ôl dileu fy swydd yn Tesco a sicrhau’r cyfle gwych hwn, anodd oedd credu pa mor gyflym roedd pethau’n symud, a newid, er gwell. Dysgodd yr holl broses i mi gynnal fy ngweledigaeth ac ymddiried yn y daith a’r broses!

Ydych chi’n difaru unrhyw gamau gyrfa? 

Dw i ddim yn siŵr os ydw i’n difaru hyn, ond hoffwn wybod pa drywydd fyddai fy mywyd wedi dilyn pe bai pethau wedi digwydd yn wahanol. Yn ystod fy amser gyda Tesco, ces i gyfle i ymgeisio am rôl Rheolwr Siop. Fe ddechreuais gais am y swydd, ond oherwydd materion personol bu raid i mi roi stop ar bethau, ac fe gollais y cyfle. Dw i’n hapus gyda’r dewisiadau rydw i wedi eu gwneud a’r yrfa dw i wedi ei sicrhau, ond dw i’n aml yn meddwl ‘beth os…’!

A wnaeth eich gyrfa newid cyfeiriad ar ôl i chi gael plant?

Ar ôl cael plant fe wnaeth fy mlaenoriaethau newid yn llwyr. Ar ôl treulio amser hir yn gweithio i ffwrdd ac ymgymryd ag oriau gwaith anghyson mewn siopau manwerthu, roeddwn i eisiau patrwm gwaith sefydlog a gweithio’n agosach at adref i wella cydbwysedd bywyd/gwaith. Mae fy nheulu yn hynod o bwysig i mi ac rydw i wedi dod i ddeall mai creu bywyd sy’n bwysig, nid bywoliaeth.

Beth yw’r un peth rydych chi’n difaru peidio â gwybod pan oeddech chi’n ifancach?

Hoffwn pe bawn wedi cyrchu cymorth wrth symud ymlaen o’r brifysgol i fyd gwaith. Ar ôl symud ymlaen o addysg fe astudiais gwrs rheoli dwys iawn. Doeddwn i ddim yn barod i symud ymlaen i gyflogaeth amser llawn. Byddai’n well gennyf pe bawn wedi cychu cymorth cyflogadwyedd i reoli’r broses yn fwy effeithiol a sicrhau fy mod yn barod ar gyfer pwysau a heriau dyddiol byd gwaith. Mae camau cyntaf pob taith gyrfa yn anodd a llethol, a hoffwn annog unrhyw un sydd yn gwneud hyn nawr i gymryd eu hamser, gwneud digon o ymchwil ac amgylchynu eu hunain â phobl sydd eisiau’r gorau ar eu cyfer. Mae digonedd o gymorth ar gael felly cydnabyddwch eich bod am dderbyn help, a byddwch yn ddigon dewr i ofyn amdano.

Eich awgrym euraidd oll?

Peidiwch â bod ofn gwneud y mwyaf o gyfle efallai nad yw’n rhan o’ch ‘cynllun’ hirdymor. Yn hytrach nag aros am y cyfle perffaith, crëwch ef! I fod yn llwyddiannus, rhaid i chi fod yn hyblyg, gan addasu a newid pethau pan nad ydynt yn mynd o’ch plaid. Ni allwch newid y cardiau a ddyrannwyd i ni, ond gallwch ddewis sut rydych chi’n eu defnyddio!