Dyma Andrew!

Mae gan Andrew, 53, brofiad helaeth o weithio mewn ystod eang o rolau gwahanol, yn ogystal â phrofiad o reoli ei fusnes ei hun.

Fe weithiodd i gwmni cerbydau Ford am sawl blwyddyn, cyn symud ymlaen i rôl logisteg. Ar ôl hyn, fe benderfynodd ddechrau ei fusnes ei hun, D Car Deals Brokerage. Roedd ei fusnes yn ymwneud â gwerthu cerbydau i 27 o ddelwriaethau cerbydau ledled y DU, ac mi roedd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y broses drafodion.

Yn ei amser hamdden roedd Andrew hefyd yn ffotograffydd hunangyflogedig, ac roedd ganddo nifer fawr o gleientiaid megis y BBC, Daily Mail, The Guardian, URC a Llywodraeth Cymru. Gan ddilyn ei angerdd, penderfynodd Andrew ffocysu ar ffotograffiaeth, ac fe arweiniodd hyn at gyfleoedd ledled y byd. Treuliodd amser yn tynnu lluniau i gylchgronau a phapurau newydd byd enwog.

Yn anffodus iawn, fe gafodd Andrew strôc yn 2013, ac ers hynny nid yw wedi gallu sefyll, cerdded na siarad heb gryn anawsterau. Fe wnaeth hyn gael effaith negyddol ar annibyniaeth Andrew a’i allu i redeg ei fusnes ei hun. Ond yn lle derbyn ei fod wedi’i drechu, penderfynodd Andrew ddefnyddio’r profiad hwn fel mantais.

“Mae’r digwyddiad ysgytwol hwn wedi fy ngwneud yn eiriolwr i bobl ag anableddau. Mae’n bwysig i mi fod pawb yn cael cyfleoedd mewn bywyd i ffynnu, gan fanteisio i’r eithaf ar eu potensial” – Andrew

Fe ddaeth Andrew yn fodel rôl Syniadau Mawr Cymru, gan ymgysylltu â phobl ifanc i hybu entrepreneuriaeth a mentoriaeth yn ogystal â gweithio fel Ymgynghorydd i Brifysgol Abertawe, gan ddod o hyd o ffyrdd i rannu ei arbenigedd a gwybodaeth er mwyn helpu prosiectau a chymunedau lleol i gael effaith gadarnhaol ar les.

Mae Andrew bellach yn chwilio am gyflogaeth barhaol lle gall weithio gydag unigolion sy’n dymuno hwyluso newidiadau cadarnhaol, gan gynnwys cyflogwyr a all ganiatáu i rai sydd ag anableddau deimlo’n gyfforddus wrth ymgeisio am rolau, ynghyd â rhoi addasiadau ar waith i’r rhai sydd eu hangen.

Mae Andrew yn ysbrydoliaeth i bawb, ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi ar ei daith gyrfa, wrth iddo gyflawni ei nod o newid y byd er gwell, un person ar y tro.