Dyma Catrin!

Fe ddatblygodd Catrin angerdd am drin gwallt wrth wirfoddoli mewn salon gwallt lleol, ac fe benderfynodd gofrestru ar gwrs Trin Gwallt Lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Oherwydd anabledd sy’n effeithio ar ei dwylo a’i chymalau, roedd natur ymarferol y cwrs yn hynod o heriol i Catrin. Er gwaethaf y ddawn a’r brwdfrydedd yr oedd yn ei ddangos yn ei gwaith ysgrifenedig, roedd Catrin yn siomedig na allai symud ymlaen ymhellach, ac fe roedd yn teimlo ei breuddwyd yn cwympo y tu hwnt i’w gafael. Nid oedd yn gwybod at ble i droi am gefnogaeth. Felly, fe gyfeiriodd tiwtor Catrin hi at gymorth Dyfodol, er mwyn archwilio ei hopsiynau.

Trwy gymorth un-i-un, fe ddaeth Lisa, Hyfforddwr gyrfa, i nabod Catrin ac roedd yn glir ei bod ganddi hi ddawn yn gweithio â phlant ifanc; mae ganddi nai ifanc y mae hi’n ei garu ac mae hi’n gofalu amdano’n rheolaidd. Awgrymodd Lisa y dylai Catrin archwilio opsiynau gofal plant; ar ôl cael ei chyffroi gan yrfa posib newydd, ac yn meddu ar angerdd am gyflawni cynnydd mewn perthynas â’i llwybr gyrfa, symudodd ymlaen yn llwyddiannus i gwrs gofal plant Lefel 1.

“Roedd Lisa fy Hyfforddwr Gyrfa yn hynod o gefnogol gyda fy nghynlluniau gyrfaol ac fe dderbyniais lawer o help i ddewis y llwybr cywir. Dw i bellach yn deall nad trin gwallt oedd yr yrfa i mi a chefais fy annog i ddewis gofal plant oherwydd dw i’n dda iawn yn gofalu am fy nai ac rwy’n hoff iawn o chwarae gyda phlant. Diolch Lisa am fy nghefnogi. Fe wnes di fy ysbrydoli i ddilyn prentisiaeth. Diolch am fy helpu i weithio tuag at wireddu fy mreuddwyd, ac ro’n i wrth fy modd o ennill gwobr Prentis y Flwyddyn” – Catrin

Fe wnaeth gwaith caled, gwydnwch ac agwedd gadarnhaol Catrin greu argraff yn syth ar ôl iddi ddechrau ei chwrs; roedd ei phresenoldeb yn wych, cwblhaodd bob un darn o waith ar amser ac i safon uchel, ac roedd hi bob amser yn barod i gefnogi ei chyfoedion. Ni chafodd ei hymdrechion eu hanwybyddu, a chafodd ei henwebu ar gyfer Myfyriwr y Flwyddyn yng ngholeg Gŵyr Abertawe.

Wrth i Catrin dynnu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf o astudio, roedd hi’n awyddus i barhau i ddysgu a chael mwy o brofiad ymarferol, gan symud ymlaen i brentisiaeth, yn hytrach nag addysg amser llawn. Gan gymryd rheolaeth dros ei dyfodol a gwneud newidiadau cadarnhaol a oedd yn gweddu i’w hanghenion, penderfynodd Catrin ymgeisio am brentisiaeth gyda meithrinfa Noah’s Ark. Roedd hi wrth ei bodd pan gafodd gynnig y brentisiaeth.

Mae hi bellach yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl ac yn gwneud cynnydd anhygoel o ran ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Cydnabuwyd ei gallu i oresgyn ei rhwystrau corfforol â brwdfrydedd a phositifrwydd pan enillodd hi wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe 2022.

“Mae Catrin yn wych gyda’r plant. Mae hi’n gweithio’n galed i’w cadw’n brysur a hapus, ac mae hi bob amser yn helpu staff gyda thasgau dydd-i-ddydd. Rydyn ni’n dwlu ar weithio gyda hi ac yn falch iawn o’r hyn mae hi wedi ei gyflawni” – Meithrinfa Noah’s Ark

Mae Catrin yn ysbrydoliaeth, ac yn dangos y gall unrhyw un gyflawni ei nodau, waeth beth fo’i heriau. Mae ei hagwedd ysbrydoledig tuag at ddysgu wedi cael effaith gadarnhaol iawn arni hi ei hun, ei chyfoedion, ei thiwtoriaid a’i theulu. Rydyn ni’n falch iawn ohoni.