Datblygwr/Peiriannwr Meddalwedd – Prentisiaeth Gradd

Pen-y-bont ar Ogwr
I’w gadarnhau
Amser Llawn
24.12.2021

CGI yw un o gwmnïau TG mwyaf blaenllaw’r byd ac maent ar hyn o bryd yn croesawu ceisiadau ar gyfer eu Prentisiaeth Datblygwr/Peiriannwr Meddalwedd. Mae chwyldro digidol yn digwydd yn y DU ar hyn o bryd ac mae gwaith CGI yn chwarae rhan flaenllaw o’r chwyldro hwn. Bob dydd, mae aelodau o’u tîm yn mynd i’r gwaith ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwydiannau megis y Gofod, Amddiffyn a Llywodraeth Ganolog.

Byddwch yn astudio gradd BSc (Anrh) mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe un diwrnod yr wythnos ac yn treulio pedwar diwrnod yn datblygu eich gyrfa gyda ni. Bydd y cwrs y para 3 blynedd. Yn ystod y brentisiaeth, byddwch yn gweithio mewn rolau sy’n gysylltiedig â’ch gradd megis Peirianneg Meddalwedd, Profi Meddalwedd a Chymorth TG, felly rhaid i chi fod â diddordeb yn y meysydd hyn.

Dyma gyfle i chi ddechrau a datblygu gyrfa trwy gydol y rhaglen a sicrhau swydd gyda ni ar ôl ei chwblhau. Byddwch yn ennill cyflog cychwynnol cystadleuol, bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu talu a byddwch yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch i lwyddo. Os oes diddordeb gennych, dewch i siarad ag un o’n Hyfforddwyr Gyrfa yn Hyb Dyfodol Gorseinon neu Tycoch.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales.