Nicola Berry

 

“Os nad yw’n eich herio, ni fyddwch yn newid”

Eisteddon ni gyda’r Hyfforddwr Gyrfa, Nicola, a siaradon ni am sut y gall bywyd fynd â chi i lawr sawl llwybr gwahanol, ac weithiau, gall ddewis y llwybr anghywir weithi o’ch plaid.

Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa gymhellgar sy’n profi bod bywyd yn debyg i gamera; rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig, gwnewch y mwyaf o’r amseroedd da, dysgwch o’ch camgymeriadau, ac os nad yw pethau’n mynd eich ffordd chi, rhowch gynnig arall arni.

A wnest ti ddilyn addysg bellach neu uwch?

Ar ôl cwblhau fy addysg orfodol, fe benderfynais fynd yn ôl i’r chweched dosbarth i astudio GNVQ mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ailsefyll fy arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg. Ar y pryd doeddwn i ddim yn hoff o wneud unrhyw beth newydd felly doeddwn i ddim am fynd i’r brifysgol, ac er i fi basio’r cwrs, doeddwn i ddim wir wedi gweithio hyd eithaf ŷf ngallu.

Pa gyfeiriad wnaethoch chi ddilyn ar ôl y Brifysgol?

Ar ôl cwblhau’r GNVQ, fe astudiais brentisiaeth mewn Gofal Plant mewn meithrinfa leol, ac fe ges i gyfle yn ystod y cyfnod hwn i gwblhau cymhwyser Lefel 2. Ychydig ar ôl hyn, roeddwn i’n feichiog gyda fy mhlentyn cyntaf, yn 20 oed. Treuliais ychydig o amser allan o fyd gwaith cyn cychwyn chwilio am rôl ran-amser addas i redeg ochr yn ochr â fy astudiaethau; fe wnes i sicrhau swydd yn Tesco yn gweithio deuddydd yr wythnos, yn ail-drefnu stoc ac yn gosod nwyddau ar silffoedd, ac mi roedd y rôl hon yn berffaith ar fy nghyfer bryd hynny, oherwydd roeddwn yn ennill mwy o arian yn gweithio yn Tesco nag yr oeddwn yn ennill fel rhan o fy mhrentisiaeth. Roedd y rôl yn un corfforol iawn, ond roedd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi fy nghaniatáu i ofalu am fy mab rhan fwyaf o’r amser, ac roedd hyn yn agwedd bwysig iawn i fi gan roeddwn eisiau bod yno iddo gymaint â phosib.

Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ers hynny?

Ar ôl treulio blynyddoedd yn Tesco a magu fy mab, doedd gen i braidd dim hyder. Roeddwn i’n fam sengl a doeddwn i ddim yn cyfathrebu â llawer o bobl, ac nid oeddwn yn siŵr pwy oeddwn i na beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy nyfodol. Dechreuais fynychu dosbarthiadau Zumba yn YMCA Abertawe ac yn araf bach roeddwn i’n dechrau gwneud mwy a mwy gyda’r sefydliad. Fe ddechreuais dderbyn cymorth gwych er mwyn magu fy hyder ac i wella fy lles a fy iechyd. Dyma oedd cychwyn llwybr cadarnhaol iawn i fi, ac fe wnes i ddechrau gwirfoddoli fel Hyfforddwr mewn Campfa. Rhoddodd y rôl hon gymaint o hyder a phrofiad i mi, wrth i fi barhau i gwblhau fy nghymhwyster hyfforddi. Galluogodd y cymhwyster i fi ymuno â YMCA Abertawe fel aelod amser-llawn o staff, ac fe roeddwn yn cynnal dosbarthiadau ffitrwydd, ffitrwydd personol, mentora lles ac iechyd ac yn cymryd rhan yn darparu cymorth cyflogadwyedd.

Yn 2017 roeddwn i’n disgwyl fy ail blentyn, ac wrth ddychwelyd i’r gwaith, doeddwn i ddim yn gallu cynnal fy nyletswyddau ffitrwydd blaenorol oherwydd anaf. Felly, fe wnes i ddechrau gweithio’n llawn amser yn helpu pobl di-waith i sicrhau cyflogaeth trwy raglen gymorth a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd a lles, er mwyn magu a meithrin hyder unigolion.

Yn 2019, roedd y prosiect y bûm yn rhan ohono yn dod i ben ac roeddwn i’n barod am her newydd. Dyma pryd y des i ar draws hysbyseb swydd gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol am Hyfforddwr Gyrfa. Roedd y cyfle hwn yn rhy dda i’w anwybyddu felly fe wnes i gyflwyno cais ac fe roedd yn un llwyddiannus, roeddwn i wrth fy modd!

Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu difaru?

Nid ydw i’n difaru unrhyw beth – mae bywyd yn llwybr troellog a gallech dreulio bob dydd yn difaru penderfyniadau, ond edrych ymlaen tuag at y dyfodol yw’r ffordd orau o wella eich rhagolygon a chreu newid cadarnhaol.

A newidiodd trywydd dy yrfa ar ôl cael plant?

Ar ôl geni fy ail blentyn doeddwn i ddim yn medru dychwelyd i fy hen rôl, ond yn y pendraw fe weithiodd hyn o fy mhlaid oherwydd ces gyfle i sylweddoli, beth bynnag y byddwn i’n ei wneud nesaf, roeddwn i’n bendant eisiau helpu pobl i newid eu bywydau er gwell. Dyma oedd fy nod, fy amcan a fy nghymhelliant, ac er nad oeddwn i’n gweithio yn yr un ffordd, roeddwn i’n cyflawni’r un canlyniadau pwysig.

A oes un peth yr hoffet ti fod wedi gwybod pan oeddet ti’n iau?

Hoffwn pe bawn wedi sylweddoli nad oes angen i chi wybod yn union beth rydych chi am ei wneud pan fyddwch chi’n gadael ysgol, a’ch bod yn gallu newid eich gyrfa os nad ydych yn hapus! Mewn bywyd, rhaid i chi ddod i adnabod eich hun, mwynhewch y daith a pheidiwch â phoeni’n ormodol am y darlun gorffenedig. Rhaid i chi wybod mai chi sydd yn gyfrifol am gyfeiriad eich bywyd, felly gwnewch yr hyn rydych chi am ei wneud.

Beth yw eich darn eithaf o gyngor?

Peidiwch â brysio drwy’r broses; does dim angen i chi wybod beth rydych chi am ei wneud am weddill eich oes, gweithiwch allan beth yw’ch cam nesaf yn unig. Byddwch yn amyneddgar, credwch ynoch chi’ch hun ac mae beth bynnag y gallwch chi ei gyflawni yn ddigon!