James Bevan

“Dim ond chi sy’n gallu penderfynu pa mor llwyddiannus rydych chi am fod”

A wnest ti ddilyn addysg bellach neu uwch?

Ces i 9 TGAU yn yr ysgol ac es i ymlaen i astudio Safon Uwch yng Ngholeg Crosskeys. Ymgeisiais i Brifysgol Abertawe i astudio’r Gyfraith ac, ar ôl mynd drwy glirio, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael lle. Roeddwn i’n dwlu ar y brifysgol. Dyna oedd un o gyfnodau gorau fy mywyd ac, a bod yn onest, mae’n bosib y mwynheais i ychydig yn ormod! Roeddwn i wrth fy modd yn byw yn ninas Abertawe a chael profiad ohoni, sydd lawer yn fwy na lle ces i fy magu yn Abertyleri! Roedd y brifysgol yn drobwynt pwysig yn fy mywyd. O oedran ifanc, ces i fy mwlio yn yr ysgol am fod yr un ‘deallus’ ac roeddwn i’n darged hawdd i bobl oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn addysg. Cafodd y bwlio effaith fawr a niweidiol iawn ar fy hunanhyder, ac roedd e wedi gwneud i fi feddwl na fyddwn i byth yn llwyddo i wneud llawer, ac yn sicr dim byd arwyddocaol na phwysig. Roedd fy rhieni’n amddiffynnol iawn a dw i’n credu y cafon nhw eu synnu’n fawr pan ddywedais i fy mod i’n mynd i brifysgol Abertawe achos dw i ddim yn credu roedden nhw’n meddwl bod yr hyder gen i i symud mas a symud ymlaen. Ond dyna wnes i, gan wybod mai’r brifysgol fyddai ddechrau gweddill fy mywyd.

Beth ddysgaist ti am fywyd yn y brifysgol?

Dysgais i wersi bywyd gwerthfawr iawn o’r brifysgol. Dangosodd i fi os ydych chi am rywbeth digon, mae e lan i chi i fynd amdani a llwyddo! Roeddwn i’n ysu am allu profi’r bwlis yn anghywir. Roeddwn i’n gwybod y byddai llwybr fy mywyd yn cael ei benderfynu ar sail fy newisiadau i, ac oherwydd yr holl bethau negyddol roeddwn i wedi eu profi wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n hollol benderfynol i wneud y penderfyniadau iawn. Yn ystod fy ngradd, sylweddolais i nad oedd y Gyfraith yn iawn i fi, collais i ddiddordeb a chymhelliad. O ganlyniad i’m penderfyniad, daliais ati ond roeddwn i’n siomedig iawn i gael gradd 3ydd dosbarth. Tangyflawnais i a theimlais i fy mod i wedi gwastraffu 3 blynedd o’m mywyd. Roeddwn i wedi methu fy hun ac, yn bwysicach byth, fy nheulu hefyd gan eu bod nhw wedi fy nghefnogi’n emosiynol ac yn ariannol am gymaint o amser. Mae hyn oll yn swnio’n negyddol iawn ond dyna’r pwynt yn fy mywyd lle sylweddolais i’n llwyr fod angen i fi newid cyfeiriad, cael ffocws newydd a chael amcanion newydd er mwyn symud ymlaen.

I ba gyfeiriad est ti ar ôl y brifysgol?

Ar ôl y brifysgol, penderfynais i aros yn Abertawe a chael swydd. Yn naïf, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n glanio mewn swydd dda gyda gradd yn y Gyfraith ac roeddwn i’n meddwl bod llawer o swyddi ddim yn ddigon da i fi. Ond 6 mis yn ddiweddarach, roeddwn i dal yn ddi-waith, a daeth y realiti’n gwbl amlwg i fi pan fu’n rhaid i fi ymuno â’r ciw am fudd-daliadau i bobl ddi-waith, roedd gen i gwylidd mawr dros wneud hyn. Cododd yr argraff wael sydd gan bobl o bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith fraw arna i, ond doedd dim byd arall amdani. Er gwaethaf fy amheuon cychwynnol, ces i gefnogaeth dda ac wedi 6 mis, ces i le ar raglen a gynhaliwyd gan Ddinas a Sir Abertawe i gefnogi pobl i gael gwaith drwy leoliadau â thâl. Fe ges i lleoliad gwaith gyda gwasanaeth dysgu gydol oes a hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth (LLETS) ac, er gwaethaf fy ansicrwydd ar y dechrau, datblygais i lawer o sgiliau, a llawer o hunangred hefyd. Dechreuais i feddwl efallai y gallwn ei wneud wedi’r cwbl. Ar ôl 6 mis, ces i gynnig swydd fel Swyddog Cyswllt Cyflogwyr fel rhan o raglen Gweithffyrdd a pharheais i gael mwy o brofiad. Arhosais gyda’r cwmni hwn am 5 mlynedd a symudais i ymlaen i’r rôl o Gydlynydd Cynnwys Swyddi Dan Hyfforddiant. Yn 23 oed, fi oedd un o’r rheolwyr ifancaf  a theimlais i’n dda amdanaf i fy hun am y tro cyntaf mewn amser hir. Roedd ffrindiau a oedd gen i yn y brifysgol ar gytundebau dan hyfforddiant ac yn ennill llawer yn llai na fi, ac roedd hyn yn help i dderbyn fy hun. O’r diwedd, teimlais i’n hyderus yn y dewisiadau a wnes i ac roedd gen i gymhelliad newydd i wthio fy hun i lwyddo yn fy amcanion gyrfa mwy.

Sut mae’ch gyrfa wedi datblygu ers hynny?

Fy swydd rheoli gyntaf oedd cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth am flwyddyn, ac ar ôl hynny, cafodd fy swydd ei dileu. Roedd yn anodd i fi am 3-4 blynedd ar ôl hyn i gyrraedd yn ôl i‘r lefel lle roeddwn i am fod. Collodd y Cyngor y cytundeb ar gyfer y swyddi dan hyfforddiant ac aeth y cytundebau hyn i Rathbone Training, lle ces i swydd, yn gyntaf fel Tiwtor Sgiliau i Hanfodol, gan symud ymlaen yn gyflym i Diwtor Arweiniol. Roeddwn i’n ôl yn gweithio mewn swyddi rheoli gyda chyfrifoldebau cynyddol ac roeddwn i’n ffynnu, ond yn bendant, roedd llawer o heriau. Fel sefydliad elusennol, nid oedd llawer o gyllid felly roedd yn rhaid i fi wneud cymaint â phosib am dâl pitw. Dechreuais i flino ac arweiniodd fy anfodlonrwydd ataf yn chwilio am gyfleoedd eraill. Dyna pryd gwelais i’r rôl fel Cydlynydd Prosiect yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Roedd y rôl yn ymddangos yn berffaith i fi felly cyflwynais gais, ces i’r swydd a doeddwn i fethu â chredu’r peth! Dros y tair blynedd diwethaf gyda’r coleg, rydw i wedi bod yn lwcus iawn i symud ymlaen ymhellach ym maes rheoli, yn gyntaf i rôl Rheolwr Rhaglen, cyn symud ymlaen i rôl Ddirprwy Gyfarwyddwr. Nawr, rydw i’n gwneud yr hyn rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed – darparu cymorth rheoli i i adran o bobl sydd ag angerdd am helpu pobl. Mae’r adran bellach yn cwrdd â phobl y bûm yn gweithio gyda nhw 11-12 mlynedd yn ôl; pobl a oedd mewn sefyllfaoedd truenus heb unrhyw obaith sydd bellach yn gallu cael swyddi, morgeisi a’u teuluoedd eu hunain. Mae’r straeon hyn yn fy atgoffa o’r hyn dw i’n ei wneud a pham y mae’r rhaglen yn hanfodol er mwyn cynnig gobaith, rhagolygon a bywyd llawn sy’n werth ei fyw i bobl.

Beth yw’r un peth rwyt ti’n dyfaru peidio â gwybod pan oeddet ti’n ifancach?

Byddwn i wedi eisiau cael yr wybodaeth sydd gen i nawr am gyflogadwyedd oherwydd fy mod i’n wirioneddol frwdfrydig am bwysigrwydd cefnogaeth gyrfa werthfawr. Dw i dal yn gallu bod yn rhwystredig iawn nad oes gan gymaint o bobl y sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnynt i lwyddo, yn syml oherwydd nad ydynt erioed wedi cael eu dysgu neu does neb wedi dangos iddynt. Dw i’n dyfaru nad oedd gen i’r wybodaeth i helpu pobl yn gynt oherwydd dw i’n meddwl yn aml y rhai hynny a gwympodd drwy’r rhwyd ac sydd bellach yn ymdopi â chanlyniadau diffyg cefnogaeth hanfodol. Peth arall byddwn i wedi am wybod pan oeddwn i’n ifancach yw pwysigrwydd dweud ie a pheidio â bod ofn. Roedd cryn ddiffyg hyder gen i na fyddwn i byth yn rhoi cynnig ar bethau newydd neu wahanol, a nawr dw i’n meddwl am yr holl gyfleoedd coll. Pe bawn i’n gallu rhoi cyngor i’r fi ifancach, y cyngor byddai ewch amdani a byddwch yn sicr bod camgymeriadau’n dystiolaeth dy fod di’n trio. Am unrhyw un mewn sefyllfa debyg, peidiwch â bod ofn cael eich gwrthod oherwydd pob tro ces i fy ngwrthod, mewn gwirionedd, roeddwn i’n cael fy arallgyfeirio i rywbeth gwell. Mae’n ymddangos yn amhosib nes i chi wneud e, ond heb drio, fyddwch chi byth yn gwybod.

Awgrym pwysicaf wrth ymgeisio am swyddi?

Rhowch y cyfle gorau posib o lwyddo i chi’ch hun ac, wedyn, manteisiwch ar y gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael i chi. Hefyd, mae’n rhaid cael ffydd ynoch chi eich hun ac yn eich gallu. Byddwch yn ddigon hyderus i ymgeisio am swyddi sydd yn ymddangos i fod y tu hwnt i’ch cyrraedd oherwydd pan ymgeisiais i am rolau rheoli, doeddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i’n llwyddiannus, ond petawn i ddim wedi rhoi cynnig arni, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Nid chi sy’n eich dal chi’n ôl, ond yn hytrach pwy rydych chi’n credu nad ydych chi. Mae popeth yn ein dysgu i ddefnyddio profiad er ein mantais – dim ond chi sy’n gallu penderfynu pa mor llwyddiannus rydych chi am fod!

Eich awgrym euraidd oll?

Fy nghyngor euraidd i byddai i beidio byth â throi lawr unrhyw gyfle, hyd yn oed os yw’n ymddangos i fod yn amherthnasol ar y pryd. Gwir gyfleoedd yw’r rheini nad ydym yn eu gweld yn syth ac maent yn cyrraedd ar adegau annisgwyl ac anghyfleus. Gall pob cyfle gynnig rhywbeth newydd, rhywbeth gwahanol, rhywbeth mwy, felly manteisiwch i’r eithaf i weld beth a ddaw. Yn lle ofni’r hyn nad ydych chi’n gwybod neu ddeall, byddwch yn chwilfrydig ac yn gyffrous achos gall y dyhead i ddysgu a darganfod pethau newydd a chwilio amdanynt arwain at fywyd llawer yn hapusach a llawnach – dyma rywbeth dw i wedi dysgu a nawr, dw i’n ddiolchgar am bob profiad, boed yn dda neu beidio, dw i wedi ei gael. Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn, ond nid yw’r iawn i aros fel ‘na, felly newidiwch bethau er y gorau, byddwch yn feistr ar eich bywyd eich hun a byddwch yn llon!

James yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. I ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi chi, ffoniwch: 01792 284450.