Bod ar flaen y gad: sut i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y cyfweliad hollbwysig ‘na

Symud rhwng rolau, wedi bod allan o waith ers tro, neu oes gennych ormod o gymwysterau ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani? Trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd rydych yn gwneud cais am rolau gallech osgoi gwneud rhai camgymeriadau cyffredin a sicrhau bod eich cais ar ben y pentwr ‘Ie’. Read more

Test

Beth yw profion crebwyll sefyllfaol a sut ddylech chi ymdopi â nhw?    

Mae profion Crebwyll Sefyllfaol yn cael eu defnyddio gan rai cyflogwyr fel rhan o’u proses recriwtio ac maent yn debyg i brofion personoliaeth/seicometreg. Maent yn asesu sgiliau a medrusrwydd ymgeiswyr yn seiliedig ar ymatebion aml-ddewis i sefyllfaoedd, ac mae disgwyl i chi wneud un o’r canlynol:

  • Gosod ymatebion mewn trefn o’r mwyaf effeithiol i’r lleiaf effeithiol;
  • Dewis y weithred fwyaf priodol a lleiaf priodol; neu
  • Dewis y dull o weithredu cywir.

Ni fyddwch yn gwybod beth yw’r sefyllfaoedd ymlaen llaw ac efallai eich bod yn meddwl ei bod yn amhosib paratoi ar eu cyfer, ond dyma rai camau syml ddylai eich helpu i fod ar eich gorau.

Deall y cwmni   

Gwnewch ymchwil ar ei wefan fel byddech yn gwneud wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd ei ddatganiad o werthoedd a chenhadaeth yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau gweithredu y byddai’n disgwyl i’w staff eu cymryd yn y sefyllfaoedd yma.

Deall y rôl

Edrychwch ar y disgrifiad swydd a manyleb y person. Ystyriwch y sgiliau sy’n ofynnol a’r math o unigolyn mae’r cwmni’n chwilio amdano.

Ymarfer, ymarfer, ymarfer

Bydd gwneud amser i ymarfer profion crebwyll sefyllfaol yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae’r cwestiynau’n cael eu geirio o leiaf, neu eu cynllun, a’r mathau o atebion a ddisgwylir.

Os hoffech gael cefnogaeth gyda pharatoi ac ymarfer ar gyfer profion barn sefyllfaol, ffoniwch ni ar 01792 284450.

Job Search

Ffordd Fwy Effeithlon o Chwilio am Swydd

Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa yma – chwilio drwy sawl peiriant chwilio sy’n honni mai nhw yw’r ‘ateb i ddod o hyd i swydd’. Rydych chi wedi cael hyd i’r swydd berffaith, wedi uwchlwytho eich CV ddiweddaraf wedi’i haddasu’n fedrus ac wedi clicio ar y botwm ‘ymgeisio nawr’ – ond does dim ymateb o gwbl.

Beth pe baem yn dweud wrthych chi bod ffordd fwy effeithlon o chwilio am swydd? Read more

Blwg Academi’r Defodol

Newyddion cyffrous! Mae’n amser i gychwyn Academi’r Dyfodol am y trydydd tro!

Read more

£6.6m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi rhaglen cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe

Mae buddsoddiad o £6.6m gan yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sicrhau i ehangu ac ymestyn rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe tan 2021. Read more

O gleient i Hyfforddwr Gyrfa, dyma stori Sarah!

Ar ôl bod yn athro Ysgol Uwchradd am dros 20 o flynyddoedd, roedd Sarah yn chwilio am newid gyrfa. Cyn dod ar draws Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roedd Sarah yn ansicr am ei dyfodol a doedd hi ddim gwybod beth i’w wneud na sut i fanteisio ar ei sgiliau er mwyn cymryd camau tuag at ei bywyd newydd. Read more

Diwrnod Cyflogadwyedd 2019!

Ar ddydd Gwener 28 Mehefin fe gynhaliwyd digwyddiad agored yn ein Hyb Cyflogaeth i ddathlu Diwrnod Cyflogadwyedd 2019 y DU. Read more

Sgwrsio gyda Katy – Blwyddyn y ddiweddarach!

Ymwelodd Katy â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn ystod cyfnod tywyll iawn yn ei bywyd, ar ôl cael ei diswyddo o gwmni dechrau technegol. Read more

Mam a merch yn diolch i raglen gyflogadwyedd y Coleg

Mae Deb a Rebecca Harry ymhlith y rhai sydd wedi elwa fwyaf o raglen gyflogadwyedd arbenigol Coleg Gwyr Abertawe, sef Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Read more

Hufen Iâ Joe’s – Stori Busnes Llwyddiannus

Cafodd Hufen Iâ Joe’s ei gyfeirio’n wreiddiol i raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gan Chwarae Teg, sef elusen sy’n gweithio i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru. Cysylltodd yr Ymgynghorydd Gweithlu, Zoe Williams, â Rheolwr Joe’s, Lucy Hughes a chynhaliwyd trafodaethau ar sut y gallai Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gefnogi’r busnes yn unol â gweledigaeth a gwerthoedd unigryw’r cwmni. Read more