Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cefnogi busnes lleol i recriwtio pencampwr anabledd

Mae darparwr gofal cartref wedi ennill cydnabyddiaeth am gefnogi hawliau gweithwyr anabl a sicrhau bod eu busnes yn hygyrch i bawb, gyda help rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe.

Gweithiodd Right at Home Abertawe, sy’n darparu gofal cartref o ansawdd uchel a chwmnïaeth ar draws Abertawe, Castell Nedd a Phenrhyn Gŵyr, gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a’r gweithiwr Lee Ellery i sicrhau cefnogaeth gan gynllun Mynediad at Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae gan Lee Barlys Ymennydd Spastig Pedwarplyg a dim ond defnydd gafael pinsiwrn yn ei law chwith sydd ganddo. Gweithiodd Lee gyda Right at Home fel gwirfoddolwr am ddau fis cyn dod yn weithiwr gyda chefnogaeth gan y cynllun Mynediad at Waith.

Mae Lee yn Actifydd Anabledd ac yn Hyfforddwr Cydraddoldeb Anabledd. Mae wedi gweithio yn y sector gwirfoddol am 14 blynedd:
“Des i i weithio yn Right at Home ar ôl i James Foley a Tim Dallinger ddod ataf i. Roedd Tim yn ymwybodol fy mod yn chwilio am waith i roi fy meddwl ar waith a chaniatâu i mi dreulio mwy o amser i ffwrdd o’r cartref teuluol. Allwch chi ddim dychmygu gymaint oedd fy nghyffro pan ddywedodd Tim wrthyf fod cyflogwr lleol yn chwilio am rywun gyda fy sgiliau i. Pan wnes i gyfarfod â James roedd yn amlwg ein bod yn rhannu gweledigaeth o sut ddylai gofal o ansawdd da edrych, ac wedyn fel y dywedan nhw, hanes yw’r gweddill!”

“Ar ôl ychydig o gyfarfodydd ychwanegol gydag Emma Lewis (Rheolwraig Gofrestredig Right at Home), Fran Knight o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac Emma Wood o raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr, syrthiodd y cwbl i’w le. Rwyf yn awr wedi dod yn rhan o stori gyffrous Right at Home Abertawe. Gallwch weld yn glir bod James yn amgylchynu ei hun gyda phobl o dalent mawr sy’n gwneud tîm deinamig. Tîm rwy’n falch iawn i ddweud fy mod i’n rhan ohono.”

Mae Emma Wood yn Hyfforddwraig Gyrfa ynrhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gan ddarparu cefnogaeth i bobl diwaith ac wedi eu tangyflogi yn ardal Abertawe:
“Wedi cyfarfod â Lee o’r blaen, roedd gen i ddealltwriaeth dda o’i gyflwr a’r math o gefnogaeth ac offer oedd eu hangen i alluogi Lee i wneud ei waith yn effeithiol. Diolch byth mae canllawiau Mynediad at Waith yn cynnwys cefnogaeth i bobl sy’n dechrau gweithio mewn profiad gwaith/lleoliad, sy’n hanfodol i gyflogwyr ac ymgeiswyr gydag anghenion ychwanegol. Mae’r broses yn helpu’r ymgeisydd i brofi’r amgylchedd gwaith i weld os gallant ymdopi, ac yn helpu’r cyflogwr i fesur lefelau’r gefnogaeth ofynnol i helpu’r unigolyn.”

“Roeddwn i’n gallu cefnogi Lee i wneud ei hawliad dechreuol ac wedyn cydweithio gyda Fran Knight (DWP), James Foley (Right at Home) a Lewis Edwards (ATW) i sicrhau bod y dodrefn a thechnoleg gynorthwyol yn cael eu ceisio i Lee. Roedd hawliad Lee yn llwyddiannus ac rwy’n falch i ddweud ei fod yn mwynhau pob eiliad yn Right at Home. Mae’r effaith gadarnhaol mae hyn yn cael ar fywyd Lee yn anfesuradwy; Mae e’n ysgrifennu blogiau treiddgar wythnosol ac yn hyfforddi staff newydd tra’n dod â phersbectif personol a llaw gyntaf i’w hyfforddiant cydraddoldeb anabledd sy’n bwerus ac yn anodd i’w ddarganfod. Roeddwn i ar ben fy nigon fod Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi chwarae rhan hollbwysig yn y broses hon ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi Lee ar ei daith gyrfa newydd a chyffrous.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y math o gefnogaeth y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gynnig i chi neu eich busnes, cysylltwch â’r tîm heddiw: 01792 284450.