Sgwrsio gyda Katy – Blwyddyn y ddiweddarach!

Ymwelodd Katy â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn ystod cyfnod tywyll iawn yn ei bywyd, ar ôl cael ei diswyddo o gwmni dechrau technegol.

Hysbyswyd hi am wasanaethau Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gan elusen Chwarae Teg pan oedd hi’n astudio ar gyfer ennill cymhwyster ILM. Ar ôl bod allan o waith am dri mis, roedd Katy’n ansicr o gyfeiriad ei bywyd ac yn dioddef o hyder isel, felly penderfynodd wneud apwyntiad i weld Hyfforddwr Gyrfa.

Dechreuodd Katy chwilio am gyfleoedd AD gan mai dyma’r llwybr gorau oedd yn gweddu ei sgiliau.

 “Fe gefais gyfleoedd yn y gorffenol na weithiodd allan yn y pendraw ac effeithiodd hyn ar fy hyder. Roeddwn i’n dechrau gofidio, ond galluogodd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i mi feddwl am fy nghamau nesaf a’r hyn y byddwn yn hoffi gwneud am weddill fy oes.” – Katy

Trwy weithio â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mireiniodd Katy ar ei thechnegau cyfweliad a chreodd CV o ansawdd uchel oedd yn siŵr o ddenu cyflogwyr posibl. Bu’r tîm helpu Katy i adennill ei hyder trwy ganolbwyntio ar ei chryfderau a’i chyflawniadau, gan ei annog i ddarganfod yr hyn yr oedd hi wir yn mwynhau ei wneud, a’r hyn y gallai weithio tuag ato a chyflawni yn ei gyrfa a’i bywyd.

“Roedd trafod fy nghryfderau a’m gwendidau yn wrthrychol gyda rhywun yn help mawr i mi. Roedd gan GSGD gysylltiadau ag ystod eang o gwmnïau ac roedd y cwmnïau hynny’n ymddiried yn GSGD i ddod o hyd i’r ymgeiswyr gorau ar gyfer eu rolau. Nid oedd ganddynt agenda cudd ac fe dderbyniais help ar sut i hysbysebu fy hun fel unigolyn mewn mannau priodol oherwydd y rhesymau cywir.” – Katy

Nid oedd Katy wedi ystyried unrhyw ddewisiadau eraill o ran cyflogaeth, ac ar ôl darganfod hyn, cyflwynodd tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Katy â chyfle anhygoel i weithio i adran gwasanaethau ariannol DWJ Wealth Management Ltd. Er mwyn gwybod rhagor am y cyfle, siaradodd Katy gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Danni Watts-Jones.

“Roedd Danni’n gyfeillgar iawn a gwyddwn i y byddai hi’n fentor rhagorol. Roeddwn yn chwilio am yrfa, nid swydd.” – Katy

Mynychodd Katy apwyntiadau rheoliadd â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol er mwyn parhau i wella ei sgiliau ac i adeiladu ei hyder. Roedd yr apwyntiadau hefyd yn gyfle i Katy baratoi ei hun ar gyfer byd gwaith. Roedd hi’n hanfodol i’r tîm gynnal agwedd a brwdfrydedd bositif Katy, yn dilyn ei thrafferthion cychwynnol.

 “Roeddwn i’n gallu gwneud apwyntiadau ar hap a byddai rhywun ar gael i’m helpu ar BOB adeg. Pe bawn i’n galw heibio neu’n gofyn cwestiwn cyflym ar ffurf ebost, roedd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn wych yn fy helpu.” – Katy

Cafodd Katy gyfweliad ar gyfer rôl DWJ a pherfformiodd yn rhagorol yn y cyfweliad hwnnw. Cynigiwyd y swydd iddi yn fuan ar ôl ei chyfweliad. Gyda hunangred newydd a gogwydd positif ar fywyd, roedd Katy’n barod i fynd i’r afael â’r rôl newydd hon.

Mae Katy wedi bod yn gweithio yn y rôl ers blwyddyn bellach ac wedi datblygu ar lefel bersonol a phroffesiynol. Ymgymerodd â gwaith gweinyddu cyffredinol ar y cychwyn mewn rôl cynorthwyydd personol. Mae eisoes wedi datblygu yn ei rôl ac yn awr yn gyfrifol am gwblhau ceisiadau morgais, gweithio’n agos â chleientiaid yn ogystal â sicrhau bod adolygiadau’n cael eu cwblhau’n effeithlon fel rhan o’r strategaeth gwasanaethu cwsmeriaid. Mae Katy bellach yn rhan bwysig o’r cwmni ac mae ei llwyddiant yn adlewyrchu ei agwedd benderfynol a’i ymrwymiad i ddatblygiad personol.

 “Dwi’n gwybod y bydd Danni’n hoffi pe bawn i’n datblygu ymhellach i allu cyflawni rôl Cynllunydd Para; mae’n rhaid i mi sefyll fy arholiadau a dwi eisoes yn derbyn profiad ymarferol gan Terry, yr Uwch Gynllunydd Para. Dwi wedi arsylwi ceisiadau ISA a throsglwyddiadau pensiwn ac yn treulio llawer o fy amser yn delio â darparwyr, felly mae’r sylw yr wyf yn ei dderbyn yn sicr o’m helpu yn y dyfodol.” – Katy

Yn gweithio mewn rôl sy’n datblygu’n barhaus ac sy’n cyflwyno ystod eang o heriau, mae Katy’n llewyrchu ac yn gweithio gyda thîm cefnogol, gyda DWJ a Gwell Swyddi, Gwell Dyfodod yn gefn iddi.

 “Mae’r system gymorth yn anhygoel. Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gofalu am eu cleientieiad! Mae cwmnïoedd eraill yn tueddu canolbwyntio ar gyflawni targedau yn hytrach na phoeni am yr unigolyn. Mae GSGD wir yn gofalu am bobl, p’un ai eu bod nhw’n hapus neu beidio. Maent yn gwneud yn siŵr bod yr unigolyn yn dod hyd i’r cwmni cywir iddyn nhw.” – Katy

Mae DWJ nawr yn chwilio am Brentis i fabwysiadu dyletswyddau gweinyddol Katy, fydd yn ei galluogi hi i ymgymryd â hyfforddiant pellach ac yn rhoi cyfle iddi ganolbwyntio ar ddatblygu. Yn seiliedig ar ei phrofiad positif personol, awgrymodd Katy y dylai’r busnes ddefnyddio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, i ddarganfod y gweithiwr ardderchog nesaf.

“Awgrymais y dylai’r tîm gysylltu â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Gwnaethant waith da iawn yn fy nghyflwyno i i’r busnes yma ac roeddwn i’n gwybod y byddwn nhw’n gallu dod o hyd i rywun fyddai’n ffitio mewn i’r busnes yn dda ac yn deall diwylliant DWJ.” – Katy

Mae trawsnewidiad Katy dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’n sicr yn esiampl arbennig i unigolion ifanc eraill sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r llwybr gyrfa cywir yn ystod yr adeg gywir yn eu bywydau.

 “Wrth edrych i’r dyfodol, dwi nawr yn gweithio tuag at rywbeth a dwi’n teimlo fy mod gen i fwy o bwrpas. Rhyw ddiwrnod, hoffwn weithio fel Ymgynghorydd Cyllid ac mae’n rhywbeth nad wyf wedi’i ystyried. Mae’n rhy hawdd eistedd yn ôl yn gyfforddus heb unrhyw heriau. Rydw i nawr yn byw yn annibynnol diolch i sicrwydd ariannol fy rôl.” – Katy

Mae pawb yng Ngwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn eithriadol o falch o Katy a’r llwyddiant y mae hi wedi’i gyflawni yn amgylchedd ffyniannus a chefnogol DWJ. Ar ôl rhoi hwb i Katy y tu hwnt i’w ffiniau, mae hi nawr mewn sefyllfa wych i barhau i adeiladu ei gyrfa a chyflawni’r hyn y mae hi arno eisiau, ei angen ac yn ei haeddu’n fawr.

 “Roedd mynd at GSGD yn ddewis call iawn ar fy rhan i. Roeddent yn amyneddgar a charedig ac fe helpwyd mi i gadw’n bositif mewn cyfnod lle’r oeddwn yn teimlo nad oedd gen i unrhyw un i droi ato. Dwi nawr yn edrych ymlaen bob bore i fynd i’r gwaith, a ni fyddwn i ble ydw nawr oni bai amdanoch chi.” – Katy