Diwrnod Cyflogadwyedd 2019!

Ar ddydd Gwener 28 Mehefin fe gynhaliwyd digwyddiad agored yn ein Hyb Cyflogaeth i ddathlu Diwrnod Cyflogadwyedd 2019 y DU.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda dros 60 o bobl yn bresennol. Roedd busnesau lleol gwych yn bresennol ac roedd gan bawb fynediad at gyfleoedd gwahanol. Fe gawsom hefyd sawl gweithdy diddorol trwy gydol y diwrnod gan gyflogwyr blaenllaw megis Family Housing, KIER, Tesco a KarePlus. Cafodd y gweithdai adborth rhagorol gan ein cleientiaid ac fe roedd hi’n braf i weld pawb yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r diwrnod.

“Cymerais ran ym mhob un gweithdy ac fe wnaethant i gyd fy helpu mewn ffyrdd gwahanol. Dwi wedi fy ysbrydoli am y tro cyntaf ers tro byd ac mi roedd hi’n hwyl i fod yn rhan o ddigwyddiad mor bositif yng nghwmni pobl twymgalon a chyfeillgar.” – Kelly

Roedd holl dîm GSGD wrth law trwy gydol y dydd i ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol i bobl oedd yn dymuno datblygu, cadw neu ennill cyflogaeth. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i ddathlu ein cleientiaid llwyddiannus sydd eisoes wedi ennill cyflogaeth; mae cleientiaid fel Reshmi bellach yn gweithio mewn rôl amser llawn fel Ymgynghorydd Gwerthu i ddarparwr yswiriant blaenllaw.

“Fe ges i gyfarfod â Hyfforddwr Gyrfa ac fe dderbyniais gymorth a gofal gwerthfawr iawn. Mae’r bobl yma’n gymwynasgar ac yn gyfeillgar. Dwi’n dod o ddiwylliant gwahanol felly fe roedd hi’n braf i’w gweld yn fy nghroesawu â breichiau agored, dwi’n ddiolchgar iawn i bawb.” – Reshmi

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol bellach yn edrych ymlaen at ddarparu cymorth cyflogadwyedd parhaus i’r unigolion a gymerodd rhan yn y diwrnod. Os hoffech chi wybod rhagor am ein gwasanaethau, ffoniwch: 01792 284450.

Mae pob diwrnod yn ddiwrnod cyflogadwyedd ym mhencadlys GSGD, felly dewch i weld sut y gallwn eich helpu chi.