Pobl Abertawe’n sicrhau cyflogaeth well diolch i gynllun cyflogadwyedd y Coleg

Mae rhaglen a ddyluniwyd i gryfhau gweithlu Abertawe wedi cefnogi bron 400 o bobl ac 80 o fusnesau ar draws y ddinas yn ystod ei chwe mis cyntaf o wasanaeth. Read more

Blog Academi’r Dyfodol – Fy Mhotensial, Fy Nyfodol

Sefydlwyd Academi’r Dyfodol yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror ac mae wedi bod yn ddechrau gwych! Read more

Cydraddoldeb Rhyw mewn Busnes

Gydag achosion proffil uchel diweddar yn tynnu sylw at y broblem o gydraddoldeb rhyw yn y gweithle, ydy Cymru yn gwneud yn well neu’n waeth na’r DU yn gyffredinol, a pha gymorth sydd ar gael i fusnesau sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn o fewn eu gweithlu nhw? Read more

Busnesau Bach a Chanolig: Mae gennych chi’r grym

“Mae cwmnïau bach yn anadl einioes economi Cymru, gan gynrychioli 99% o’r holl fusnesau cofrestredig.” Read more

Blwyddyn newydd, cyfleoedd newydd

Gall y flwyddyn newydd fod yn amser delfrydol i ystyried gyrfa newydd ond i nifer o bobl y rhwystr mwyaf yw gwybod ble i ddechrau!

Os ydych yn cael eich cyflogi ac yn ystyried newid gyrfa, yn ceisio dychwelyd i’r gwaith ar ôl treulio amser allan o fyd gwaith, neu’n chwilio am y swydd gyntaf hollbwysig honno, gallech chi fanteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe.

Read more

Tir Peryglus Recriwtio: Pam mae’n hawdd gwneud penderfyniadau gwael wrth recriwtio a sut gallwch osgoi gwneud yr un peth eto

Fel perchennog busnes, Rheolwr AD neu reolwr llinell, rydych siŵr o fod wedi profi’r anfanteision a geir wrth recriwtio. Gall camgymeriadau wastraffu llawer iawn o amser, achosi straen a gallant fod yn gostus. Ond o ystyried bod recriwtio yn aml yn gêm o ddyfalu, mae ceisio hidlo’r ymgeiswyr sy’n arbenigwyr o ran llywio’r broses allan o’r bobl sydd â thalentau a photensial go iawn yn gallu bod yn dasg amhosibl i bob golwg, yn enwedig pan fyddwch o dan bwysau i lenwi’r rôl yn syth! Read more

Rhaglen gweithlu Abertawe yn parhau i dyfu

-Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn croesawu pedwar penodiad newydd-

Mae rhaglen newydd sy’n ceisio cryfhau gweithlu Abertawe wedi croesawu sawl penodiad newydd i’r tîm.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gŵyr Abertawe, wedi recriwtio nifer o aelodau staff newydd o fewn ei dimau Gweithlu a Recriwtio i ddatblygu ymhellach eu cymorth ar gyfer busnesau lleol. Read more

Her fawr y gweithlu

Ar yr wyneb, mae’r newyddion diweddar sy’n tynnu sylw at lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth fel pe bai’n awgrymu darlun iach iawn ar gyfer busnesau ledled Cymru, ond o edrych dan yr wyneb, mae’n ymddangos bod y gostyngiad parhaus sydd i’w groesawu mewn lefelau diweithdra’n celu’r her wirioneddol i’r gweithlu. Mae’n ymddangos bod y mater yma’n ymwneud mwy yn awr â thangyflogaeth, a thanddefnyddio’r gweithlu presennol, sy’n cael effaith uniongyrchol ar lefelau cynhyrchiant.

Read more

3 ffordd sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu busnesau ar draws Abertawe

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen newydd sbon gan Goleg Gŵyr Abertawe sydd â’r nod o helpu busnesau i recriwtio, cadw a datblygu eu staff. Rydym yn gweithio gyda busnesau sy’n cyflogi pobl o Abertawe a’r cyffiniau i ddarparu ystod eang o gymorth i wella ymgysylltu â chyflogeion a gwella cynllunio, dilyniant a chynhyrchiant yn y gweithle. Trwy hyfforddwyr gyrfa arbenigol a mynediad i bortffolio ehangach o gymorth sgiliau gan y coleg, rydym yn gweithio gydag unigolion sy’n chwilio am waith newydd neu well i’w paru â’r cyfleoedd iawn gyda chyflogwyr lleol ac i’w paratoi i fod yn gyflogeion effeithiol. Read more

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol: 3 rheswm pam mae menter cyflogadwyedd newydd sbon Abertawe yn unigryw

Mae ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ yn rhaglen cyflogadwyedd newydd sy’n helpu pobl yn Abertawe i chwilio am gyflogaeth newydd neu well a busnesau sy’n ceisio datblygu ac ehangu eu gweithlu. Yma, mae’r Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd, Cath Jenkins, yn esbonio pam mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn wahanol i unrhyw raglen cyflogadwyedd arall. Read more