Angela Davies
“Byddwch yn ddiolchgar “.
Eisteddon ni gyda’r Hyfforddwr Gyrfa, Angela, a siaradon ni am sut mae gyrfaoedd yn gallu mynd law yn llaw â gwerthoedd craidd. Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa gymhellgar sy’n profi os gwnewch eich gorau mewn pob sefyllfa, bydd y canlyniadau’n rhai positif.
Wnaethoch chi ddilyn addysg bellach neu uwch?
Fe arhosais yn yr ysgol i astudio Lefelau A mewn gwyddoniaeth gyda’r nod o astudio Gwyddoniaeth Ymddygiadol yn y Brifysgol, ond ar ôl chwilio am gwrs a phwyso a mesur y mater, fe benderfynais ddilyn trywydd gwahanol ac astudio cwrs addysgu cynradd. Ar ôl cwblhau cymhwyster Diploma Addysg Uwch, fe benderfynais astudio cwrs gradd BA cydanrhydedd mewn Astudiaethau Saesneg Modern ac Adsefydlu Trefol. Dyma oedd y cwrs delfrydol ar fy nghyfer i, ac roeddwn i’n teimlo fy mod ar y trywydd cywir.
Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ar ôl cwblhau eich addysg?
Ar ôl graddio, fe wnes i gais am rôl trydydd sector mewn sefydliad amgylcheddol yn Abertawe, yn darparu cymorth i grwpiau cymunedol ynghylch caffael cyllid ar gyfer prosiectau gwella’r amgylchedd a chadwraeth. Yn ystod y rôl hon, sylweddolais fy mod am weithio mewn rôl sy’n darparu cefnogaeth i bobl, am weddill fy oes. Ces amser gwych yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i wellau eu hardaloedd lleol, yn ogystal â helpu i addysgu pobl am weithgareddau cadwraeth ac amgylcheddol.
Ar ôl treulio peth amser yn y rôl hon, ces gyfle i symud i Sydney am flwyddyn, ac fe dderbyniais y cynnig. Teimlais y byddai newid pethau rhyw ychydig yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy natblygiad personol, ac yn agor fy llygaid i’r byd ehangach. Yn wreiddiol, roeddwn i am fyw yn Awstralia am flwyddyn yn unig, ond fe arhosais yno am 11 mlynedd, yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau mewn llyfrgelloedd ysgol, ac fe hyd yn oed weithiais i dîm cynnwys papur newydd lleol! Fe es i o rôl i rôl, ac fe enillais brofiadau anhygoel.
Ym mha ffordd mae eich gyrfa wedi datblygu?
Ar ôl treulio 11 mlynedd yn Awstralia, fe ddychwelais i Abertawe a gweithio mewn rolau dros dro am gyfnod byr, tra oeddwn yn gweithio allan beth oedd y cam nesaf; roeddwn i’n ansicr ynghylch a oeddwn am aros yng Nghymru, dychwelyd i Awstralia, neu rywbeth arall! Ar ôl pwyso a mesur y peth, fe benderfynais aros yn Abertawe, prynu tŷ a chwilio am yrfa. Fe weithiais mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid mewn tîm masnachol am 3 blynedd. Roeddwn i am weithio mewn rôl fwy boddhaus, felly fe benderfynais wneud cais am swydd newydd. Roedd y swydd y gwnes gais amdani yn gofyn i mi helpu pobl ag anableddau i sicrhau cyflogaeth. Roedd fy nghais yn un llwyddiannus a dyma oedd fy ngham gyntaf ar lwybr gyrfa cyflogadwyedd! Taniodd y rôl hon ysfa ynof i gyflawni gwaith ystyrlon, gan weithio yn y gymuned i ddarparu cymorth i bobl oedd gwir ei angen, ac roeddwn i’n lwcus iawn i fod yn gweithio mewn rôl ddelfrydol; roedd gen i bwrpas ac roeddwn i’n ffyddiog y byddwn i’n cyflawni fy nodau.
Yn anffodus, ar ôl treulio 8 mlynedd yn y rôl, ces fy niswyddo, ond yn lwcus iawn fe wnes i sicrhau cyflogaeth debyg o fewn 6 wythnos yn darparu cymorth cyflogadwyedd. Fe weithiais yn y rôl hon am 6 blynedd cyn symud i weithio i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol fel Hyfforddwr Gyrfa. Rwy’n lwcus iawn i fod yn gweithio gyda chleientiaid ar sail un-i-un er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau. Rwy’n ffodus fy mod yn gweithio mewn swydd mor werth chweil, yn helpu pobl i gyflawni eu nodau a goresgyn rhwystrau – swydd sy’n gwneud codi yn y bore yn hawdd iawn!
Ydych chi’n difaru unrhyw benderfyniadau?
Dwi’n difaru dim o ran fy newisiadau gyrfa. Rydw i’n dal i gredu, yn debyg i bob agwedd arall o fy mywyd, roeddwn i’n gwneud fy ngorau glas ar y pryd – felly, os oeddwn i’n gwneud fy ngorau, pam ddylwn i ddifaru unrhyw beth?!
Canllawiau defnyddiol wrth ymgeisio am swyddi?
Ymchwiliwch i’r sefydliad rydych chi am weithio iddo a pharatowch, paratowch, paratowch! Ymdrechwch i’r eithaf gyda’ch cais a’ch cyfweliad i ddangos eich bod wedi treulio amser ac wedi ymdrechu i arddangos eich hun a’ch sgiliau. Hyd yn oed os nad ydych chi’n sicrhau’r swydd, dysgwch o’r broses a daliwch ati – bydd swydd arall ar gael i chi.
Beth yw eich darn eithaf o gyngor?
Byddwch yn ffrind i chi’ch hun. Rhaid i chi drin eich hun yr un fordd ag y byddech chi’n trin eraill. Siaradwch mewn ffordd garedig â chi’ch hun a gwnewch hyn yn rheolaidd. Fe all gael effaith bositif ar yr hyn y gallwch ei gyflawni.